Ymgynghoriad ar Ddatblygiadau Carafanio a Gwersylla yn y Parc Cenedlaethol

Posted On : 14/06/2024

Ymgynghoriad Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar Ddatblygiadau Carafanio a Gwersylla yn y Parc Cenedlaethol

Mae’r Awdurdod yn croesawu eich barn ar yr opsiynau arfaethedig i lywio’r camau gweithredu y bydd yr Awdurdod yn eu cymryd yn y dyfodol.

Mae’r Papur Cefndir yn nodi nifer o opsiynau ar gyfer rheoli meysydd carafanau a gwersylla newydd. Ar ôl ystyried yr opsiynau’n ofalus, yr opsiwn sy’n cael ei ffafrio gan yr Awdurdod yw cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 i ddileu hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer meysydd carafanau a gwersylla 28 diwrnod (Opsiwn 3). Ochr yn ochr â hyn, mae Swyddogion yr Awdurdod o’r farn y gallai ymgysylltu mwy â gweithredwyr safleoedd datblygu a ganiateir, yn enwedig Sefydliadau Eithriedig, trwy gyflwyno Cod Ymddygiad / Protocol Gweithio Gwirfoddol, wella safonau ac arferion gwaith effeithiol (Opsiwn 2).

Bydd y cyfnod ymgynghori yn para tan 5 p.m. ddydd Gwener, 20 Medi 2024.

Mae’r Awdurdod yn croesawu eich barn ar yr opsiynau arfaethedig i lywio’r camau gweithredu y bydd yr Awdurdod yn eu cymryd yn y dyfodol.

Llenwch yr holiadur ar-lein gyda’ch barn ar yr opsiynau arfaethedig. Fel arall, gellid gwneud sylwadau ysgrifenedig a’u hanfon at y Tîm Polisi Strategol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY, neu drwy e-bost; devplans@pembrokeshirecoast.org.uk

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r dogfennau, neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â’r tîm Polisi Strategol yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro drwy ffonio 01646 624800, neu anfon e-bost at devplans@pembrokeshirecoast.org.uk. Gellir darparu copïau papur, am gost fechan.

Bydd pob sylw yn cael ei gydnabod a’i gyhoeddi. Bydd yr holl sylwadau yn cael eu hadrodd i Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Er mwyn cael gwybod am ganlyniad cyfarfod yr Awdurdod, cynghorir cynrychiolwyr i gynnwys eu manylion cyswllt yn yr holiadur ar-lein. Fel arall, gallwch wneud cais i gael eich cynnwys ar restr bostio’r Awdurdod drwy anfon e-bost at y tîm Polisi Strategol yn devplans@pembrokeshirecoast.org.uk.


Dogfennau Ymgynghori


Bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol hefyd yn cynnal digwyddiad ymgysylltu ar-lein ym mis Gorffennaf. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, cofrestrwch eich diddordeb yma erbyn 5 p.m. ar ddydd Gwener, 28 Mehefin 2024: