Ymgynghoriad Gwella o’r Gwraidd
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gweithio gyda Mind Sir Benfro a phartneriaid eraill i ddatblygu ‘Roots to Recovery’, prosiect a fydd yn darparu cyfleoedd gwirfoddoli â chefnogaeth i bobl er mwyn gwella eu hiechyd meddwl drwy gysylltu â phobl eraill a gwneud rhywbeth i helpu mannau naturiol a gwyrdd lleol.
Clywsom fod y math hwn o weithgaredd yn fuddiol iawn yn ystod pandemig Covid-19, a’i fod yn gwneud pobl yn fwy gwydn yn ogystal â helpu i gynnal eu hiechyd corfforol a meddyliol.
I helpu i ffurfio’r prosiect hwn sy’n cael ei ‘arwain gan bobl’ mae arnom angen barn mwy o bobl ynglŷn â beth y dylai’r prosiect ei wneud a sut y dylai weithio – allwch chi helpu?
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan bobl sy’n byw gyda materion iechyd meddwl / staff cymorth a hoffai gael help i fwynhau buddion yr awyr agored.
Gorau po fwyaf y gallwch ei ddweud wrthym, er mwyn i ni allu sicrhau ein bod yn diwallu anghenion pobl.
Os allwch chi helpu i ffurfio’r prosiect hwn, cwblhewch Arolwg Gwella o’r Gwraidd.