Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau 2023/24 – 26/27

Cyhoeddwyd : 07/09/2023

Cynnwys

 

 


Cyflwyniad

Mae’r Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau 2023/24 – 26/27 hwn yn nodi trywydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) i gyflawni ei flaenoriaethau a’i Amcanion Llesiant.

Mae’r Cynllun yn crisialu Datganiad Llesiant APCAP a’r modd y mae ein Hamcanion Llesiant yn cyfrannu at y nodau Llesiant a’r heriau polisi ehangach sy’n wynebu’r tirweddau dynodedig, Cymru a’r Byd. Mae’n nodi sut y byddwn yn cyflawni ein huchelgeisiau drwy ein gweithgareddau creu lleoedd a’n camau gweithredu â blaenoriaeth yn ein cynlluniau cyflawni. Yn clustnodi sut fyddwn yn rhoi’r camau hyn ar waith i gyflawni canlyniadau trawsbynciol, mesur ein heffeithiau, a dosbarthu ein hadnoddau i ddiwallu ein Hamcanion Llesiant. Hefyd mae’n amlinellu ein camau blaenoriaeth ar gyfer gwella llywodraethu corfforaethol.

Mae’r cynllun hwn a’n Cynlluniau Cyflawni yn cwmpasu 2023/24 – 26/27 a byddant yn cael eu hadolygu yn flynyddol fel rhan o’r cylch Cynllunio Corfforaethol. Mae’r cynllun hwn a’r cynlluniau cyflawni wedi bod yn destun asesiad integredig.

Edrychwn ymlaen at gydweithio â’n staff, y gwirfoddolwyr, yr Aelodau, y cymunedau, yr ymwelwyr a’r rhanddeiliaid ehangach i lwyddo i wireddu’r uchelgeisiau a nodir yn y cynllun hwn.


Parc Cenedlaethol a’i Nodweddion Arbennig

Cafodd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ei ddynodi ym 1952 dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Mae’r Parc Cenedlaethol yn gorchuddio ardal ag arwynebedd o 612km2, gydag oddeutu 23,000 o bobl yn byw mewn rhyw 50 ardal cyngor cymuned. Mae’r rhan fwyaf o’r Parc Cenedlaethol mewn perchnogaeth breifat gyda’r Awdurdod yn berchen ar 1% yn unig.

“Nodweddion arbennig” y Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw:

  • Hygyrchedd
  • Ysblander arfordirol
  • Daeareg amrywiol
  • Amrywiaeth y dirwedd
  • Treftadaeth ddiwylliannol
  • Ynysoedd
  • Amgylchedd hanesyddol cyfoethog
  • Lle i anadlu
  • Cyfoeth cynefinoedd a bioamrywiaeth
  • Natur anghysbell, llonyddwch a gwylltineb
  • Cymeriad unigryw aneddiadau
  • Amrywiaeth y profiadau a’r cyfuniad o nodweddion unigol

Awdurdod Parc Cenedlaethol a Dibenion y Parc

Cafodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ei greu fel awdurdod lleol dibenion arbennig annibynnol dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (y Ddeddf). Mae’r Awdurdod yn cynnwys 18 o Aelodau, 12 ohonynt wedi’u henwebu gan Gyngor Sir Penfro a chwe wedi’u penodi gan Lywodraeth Cymru.
Mae Deddf yr Amgylchedd 1995 yn nodi mai Dibenion Awdurdod Parc Cenedlaethol yw

  • Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol ardal y parc
  • Hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau rhinweddau arbennig yr ardal

Hefyd mae’r Ddeddf yn datgan bod gan yr Awdurdod ddyletswydd wrth arddel y dibenion uchod, i geisio meithrin lles cymdeithasol ac economaidd y cymunedau lleol.

 

 


Diagram o’n Cynlluniau a’n Dyletswyddau Statudol – Ble mae’r Cynllun Corfforaethol as Adnoddau yn eistedd

Diagram yn dangos: Deddf yr Amgylchedd 1995, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, Cynlluniau Strategol ar y Cyd, Datganiadau Ardaloedd a Morol, Cyflwr Adnoddau Naturiol, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 – Egwyddorion SMNR a Adran 6 Dyletswydd Bioamrywiaeth, Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, Dyletswydd Gymdeithasol - Economaidd, Safonau'r Gymraeg yn bwydo i mewn i Gynllun Rheoli Parciau Cenedlaethol 2020-24, Cynllun Datblygu Lleol, Strategaeth Lefel Uchel, Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau a chynlluniau statudol eraill. Mae Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau APCAP o dan Gynllun Rheoli Parc Cenedlaethol, Strategaeth Lefel Uchel a Chynllun Datblygu Lleol. Mae Cynlluniau Statudol Eraill, Strategaeth y Gymraeg, Amcanion Cydraddoldeb a Chynllun, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 Dogfen Cyfeirio Adran 6 yn bwydo i mewn i'r Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau. Mae cynlluniau cyflawni APCAP o dan y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau ac mae Cynlluniau Tîm o dan Gynlluniau Cyflawni APCAP.

 

 


Datganiad ac Amcanion Llesiant
Datblygu ein hamcanion llesiant

Roedd APCAP wedi cymeradwyo strategaeth lefel uchel newydd fis Gorffennaf 2021, oedd yn clustnodi pedwar maes blaenoriaeth ar gyfer 2022-26 a gweledigaeth ddiwygiedig:

Blaenoriaethau
Cadwraeth: Hybu bioamrywiaeth ac atal ei ddirywiad Natur yn llewyrchus
Hinsawdd – Cyrchfan: Sero Net Rydym yn Awdurdod sy’n anelu at Sero Net a Pharc Cenedlaethol carbon niwtral
Cyswllt: Gwasanaeth Iechyd Naturiol Pobl sydd fwy iach, yn hapusach ac wedi cysylltu â natur a threftadaeth
Cymunedau: Cymunedau Byrlymus Llefydd lle all pobl fyw, gweithio a mwynhau
Gweledigaeth: Barc Cenedlaethol lle mae natur, diwylliant a chymunedau yn ffynnu

Cafodd arolygon barn ar-lein eu cynnal ymhlith y staff, yr Aelodau a’r cyhoedd yn gyffredinol fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r Cynllun. Roedd y cyfleoedd i ymgysylltu yn bersonol yn gyfyngedig oherwydd effaith pandemig Covid-19.

Roedd cymeradwyo’r strategaeth lefel uchel wedi arwain at adolygu ein Hamcanion Llesiant. Cafodd yr Amcanion eu diwygio i gyd-fynd â’r blaenoriaethau newydd ac i gymryd i ystyriaeth y datblygiadau polisi allweddol a’r heriau gan gynnwys yr argyfyngau natur a hinsawdd. Ymgynghorwyd â’r staff, yr Aelodau a’r Cyhoedd ar yr Amcanion diwygiedig a’r canlyniadau cysylltiedig. Cafodd set newydd o Amcanion Llesiant eu cymeradwyo a’u cynnwys yn y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau 2022/23. Mae’r Amcanion hyn wedi’u cario ymlaen ar gyfer 2023 – 2026.


Bodloni’r Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy

Hirdymor: Mae’r byd yn wynebu argyfwng natur a hinsawdd, bydd diffyg gweithredu yn awr yn arwain at ganlyniadau hirdymor i genedlaethau’r dyfodol ac i’r Parc. Mae cynnal camau gweithredu i fynd i’r afael â’r heriau hyn yn ganolog i’n Hamcanion Llesiant.

Atal: Mae ein Hamcanion Llesiant i gyd yn canolbwyntio ar gyflawni ymyriadau fydd yn ceisio atal problemau rhag digwydd neu waethygu ar draws Ardal y Parc Cenedlaethol. 

Integreiddio: Dim ond drwy gymryd agwedd strategol ac integredig gyda phartneriaid y gellir cyflawni ein Hamcanion Llesiant. Mae ein cynlluniau cyflawni yn cefnogi dull integredig sy’n sicrhau’r effeithiau trawsbynciol mwyaf posibl ar draws ein Hamcanion Llesiant.

Cydweithio: Rydym wedi gosod cydweithredu wrth galon pob un o’n Hamcanion Llesiant a’n cynlluniau cyflawni. O brofiad rydym yn gwybod mai dim ond drwy gydweithio ag eraill y gellir llwyddo i gyflawni newid cadarnhaol.

Cynnwys: Dim ond drwy gynnwys pobl a gwrando arnynt yn rhagweithiol y gellir cyflawni ein Hamcanion Llesiant. Defnyddir ymgysylltu i sicrhau ein bod yn datblygu’r ymyriadau cywir i chwalu rhwystrau i gefnogi ystod mwy amrywiol o bobl i weithredu dros natur neu brofi’r awyr agored a rhyfeddodau’r Parc.


Blaenoriaeth Gorfforaethol: Cadwraeth

Ein Amcan Lles Cadwraeth: Cyflawni adferiad byd natur a chysylltedd ar raddfa, fel bod natur yn ffynnu yn y Parc, gan gyfrannu at warchod 30% o’n tiroedd a’n moroedd ar gyfer byd natur erbyn 2030.

Cyfraniad at y Nodau Llesiant Cenedlaethol

Nod yr Amcan hwn yw cyflawni’r canlyniadau canlynol.:

  • Hyrwyddo a chyflawni adfer byd natur ar dir ac yn yr amgylchedd morol gan gefnogi diogelu 30% o’n tiroedd a’n moroedd ar gyfer byd natur erbyn 2030
  • Cyflawni statws cadwraeth ffafriol ar safleoedd uchel eu gwerth o ran natur.
  • Cynnydd yn y tir a reolir ar gyfer adfer natur yn y Parc (a gyflawnir drwy ddylanwadu a gweithio gydag eraill a rheoli ein hystâd ein hunain).
  • Cynnydd mewn cysylltedd ecolegol.
  • Cefnogir ystod eang o bobl i gymryd rhan mewn gweithredu dros natur.
  • Mae rheoli dynodiadau morol wedi gwella drwy weithio gyda phartneriaid, yn genedlaethol ac yn lleol

Drwy sicrhau adfer byd natur bydd yr amcan hwn yn cefnogi Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru iachach a Chymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Yn cyfrannu at yr ymrwymiad ’30×30′ i ddiogelu 30% o’n tir a’n moroedd ar gyfer byd natur erbyn 2030 a dangosyddion cenedlaethol Cymru ar: Ardaloedd o ecosystemau iach yng Nghymru

  • Statws amrywiaeth fiolegol yng Nghymru
  • Y ganran o’r cyrff dŵr wyneb, a’r cyrff dŵr daear, sy’n cyrraedd statws da neu uchel ar y cyfan

Drwy gefnogi ystod eang o bobl i gymryd rhan mewn gweithredu dros natur a gweithio mewn partneriaeth ag eraill, gan gynnwys tirfeddianwyr, ffermwyr a chymunedau, bydd yn cefnogi Cymru mwy cyfartal a Chymru o gymunedau cydlynol.

Cyd-destun Strategol

Mae’r byd yn wynebu argyfwng natur ac mae angen i ni weithredu yn awr i atal colli mwy fyth o fioamrywiaeth. Mae pob gweinyddiaeth ar draws y DU wedi ymrwymo’n gyhoeddus i gefnogi’r targed 30×30 o ddiogelu 30% o’n tiroedd a’n moroedd ar gyfer byd natur erbyn 2030. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth i ddatblygu set o argymhellion a chamau gweithredu ar y cyd i gefnogi Adfer Byd Natur. Er mwyn cyflawni ein Hamcan bydd angen i ni ymateb i’r gwaith o ddatblygu Cynllun Ffermio Cynaliadwy i Gymru fydd yn effeithio ar y modd y mae tir yn cael ei reoli ar gyfer natur yn y Parc.

Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth Phartneriaeth Natur Sir Benfro i gefnogi cyflwyno Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Sir Benfro. Byddwn yn gweithio gyda chydweithwyr ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gyflawni’r prosiect Bioamrywiaeth a’r Argyfwng Natur o fewn y Cynllun Llesiant.

Bydd ein dulliau hefyd yn ystyried Datganiad Ardal De Orllewin Cymru, Y Datganiad Ardal Forol , Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol Cymru a’r Cynllun Corfforaethol hyd at 2030 – Byd natur a phobl yn ffynnu gyda’n gilydd CNC.


Blaenoriaeth Gorfforaethol: Hinsawdd

Ein Amcan Lles Hinsawdd: Cyflawni Awdurdod carbon niwtral erbyn 2030 a chefnogi’r Parc i gyflawni niwtraliaeth carbon ac addasu i effaith newid hinsawdd.

Cyfraniad at y Nodau Llesiant Cenedlaethol

Nod yr Amcan hwn yw cyflawni’r canlyniadau canlynol:

  • APCAP i fod yn Awdurdod carbon niwtral erbyn 2030.
  • Mae APCAP wedi cefnogi’r Parc ar ei lwybr i ddod yn garbon niwtral mor agos â phosibl i 2040.
  • Mae’r Parc Cenedlaethol yn fwy cydnerth i effeithiau newid yn yr hinsawdd drwy weithio gyda phartneriaid a chefnogi gwaith a arweinir gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
  • Mae’r gweithgareddau o ymgysylltu â’r staff a’r cyhoedd yn ehangach wedi arwain at newid ymddygiad.

Drwy gefnogi’r Awdurdod a’r Parc i ddod yn Garbon niwtral, bydd hynny yn cefnogi uchelgais Cymru lewyrchus i Gymru fod yn gymdeithas carbon isel. Bydd hefyd yn cefnogi Cymru sy’n gyfrifol ar lefel yn fyd-eang, a Chymru iachach. Cyfrannu at uchelgais sector cyhoeddus Cymru i gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2030 a’r cerrig milltir cenedlaethol i Gymru:

  • Bydd Cymru yn cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero-net erbyn 2050
  • Dim ond ei chyfran deg o adnoddau’r byd y bydd Cymru’n ei defnyddio erbyn 2050

Bydd gweithgareddau atafaelu carbon sydd hefyd o fudd i adfer byd natur yn cefnogi Cymru fwy cydnerth. Bydd meithrin cydnerthedd o ran addasu i’r newid hinsawdd yn cefnogi Cymru fwy cydnerth a Chymru o gymunedau cydlynol.

Cyd-destun Strategol

Mae’r byd yn wynebu argyfwng hinsawdd ac mae angen i ni gefnogi bod y camau gweithredu i leihau allyriadau yn cael eu cyflymu, a chefnogi atafaelu carbon. Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgeisiau i gyrff cyhoeddus ar y cyd fod yn garbon niwtral erbyn 2030 ac mae wedi nodi ei ‘Drywydd ar gyfer datgarboneiddio ar draws Sector Cyhoeddus Cymru erbyn 2030’ a ‘Cymru Sero Net – Cyllideb Garbon 2 (2021-2025)’. Fis Mawrth 2021 roedd Senedd Cymru wedi cymeradwyo targed sero net ar gyfer 2050 ac mae gan Gymru hefyd dargedau interim ar gyfer 2030 a 2040. Mae adroddiadau ar y data llinell sylfaen a’r opsiynau llwybrau ar gyfer datgarboneiddio wedi’u derbyn ar gyfer yr Awdurdod ac ardal y Parc.

Mae strategaethau cenedlaethol ehangach Llywodraeth Cymru yn eu lle ar gyfer yr economi gylchol ac ar gyfer trafnidiaeth ac maent yn datblygu fframwaith Pontio Teg tuag at Sero Net. Drwy gefnogi gweithgareddau dal a storio carbon yn y lle iawn, gall yr Awdurdod hefyd gefnogi ymdrechion ehangach i adfer byd natur.

Mae’r Asesiad Risg Newid Hinsawdd ar gyfer y DU, yn amlygu ystod o risgiau a chyfleoedd ar gyfer yr amgylchedd, y cymunedau a busnesau sy’n deillio o’r newid yn yr hinsawdd. Byddwn yn gweithio gyda chydweithwyr ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gyflawni’r prosiect Datgarboneiddio a Sero Net a’r prosiect Ymaddasu i Newid Hinsawdd o fewn y Cynllun Llesiant. Bydd ein gwaith yn cael ei lywio gan Strategaeth Sir Benfro ar Ymaddasu i Newid Hinsawdd.


Blaenoriaeth Gorfforaethol: Cysylltiad

Ein Amcan Llesiant Cysylltiad: Creu Parc sy’n wasanaeth iechyd naturiol sy’n cefnogi pobl i fod yn fwy iach, yn fwy hapus ac yn fwy cysylltiedig â’r dirwedd, natur a threftadaeth.

Cyfraniad at y Nodau Llesiant Cenedlaethol

Nod yr Amcan hwn yw cyflawni’r canlyniadau canlynol:

  • Mae pobl yn cael eu cefnogi i fyw bywyd mwy egnïol yn gorfforol drwy gael mynediad i’r Parc Cenedlaethol, drwy hyrwyddo cyfleoedd hamdden awyr agored cynaliadwy.
  • Cefnogir pobl i roi gwybod bod cael mynediad i’r Parc Cenedlaethol wedi cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a’u lles.
  • Mae APCAP wedi helpu i fynd i’r afael â’r rhwystrau all gael effaith ar bobl o gefndiroedd amrywiol neu sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol rhag cysylltu â chyfleoedd natur a threftadaeth yn y Parc lle bo hynny’n bosibl.
  • Rhoi cymorth i alluogi pobl o bob oed i ddatblygu dealltwriaeth o’r Parc Cenedlaethol.
  • Mae’r seilwaith yn cael ei gynnal, gan gynnwys y rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus, asedau treftadaeth a mannau mynediad i alluogi pobl i barhau i gael mynediad i’r Parc Cenedlaethol a’i fwynhau.
  • Mae asedau hanesyddol yn y Parc Cenedlaethol yn cael eu gwarchod a’u gwerthfawrogi.

Bydd cefnogi pobl i fanteisio ar y buddion llesiant yn gorfforol ac yn feddyliol o fod yn yr awyr agored ac ymgysylltu â natur a threftadaeth, yn cyfrannu at Gymru iachach a Chymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Bydd chwalu’r rhwystrau i gynorthwyo ystod fwy amrywiol o bobl i weithredu dros natur a threftadaeth neu i gael profiad o’r Parc, yn cefnogi Cymru fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynol a Chymru gydnerth. Cyfrannu at Ddangosyddion Cenedlaethol Cymru ar:

  • Canran yr oedolion sydd â dau neu fwy ymddygiad ffordd o fyw iach
  • Y ganran o’r bobl sy’n gwirfoddoli
  • Sgôr llesiant meddyliol cymedrig ar gyfer pobl
  • Y ganran o’r bobl sy’n unig
  • Y ganran o’r bobl sy’n bresennol neu’n cyfranogi mewn
  • gweithgareddau ym maes y celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth o leiaf deirgwaith y flwyddyn
  • Y ganran o asedau dynodedig yr amgylchedd hanesyddol sydd mewn cyflwr sefydlog neu well
  • Dinasyddiaeth fyd-eang weithredol yng Nghymru

Cyd-destun Strategol

Mae’r rôl y gall mynediad i fannau gwyrdd a glas ei chwarae wrth gefnogi gwell canlyniadau iechyd yn cael sylw yn Natganiad Ardal De-orllewin Cymru. Bydd Fframwaith Cymru Gyfan ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol yn fframwaith yn y dyfodol ar gyfer ein hymgysylltu â’r sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Bydd ein rhaglen addysg yn parhau i gefnogi’r Cwricwlwm Newydd i Gymru a’r ‘datganiadau o’r hyn sy’n bwysig’ ar draws y chwe maes dysgu a phrofiad.

Mae Llywodraeth Cymru yn ei Lythyr Cylch Gwaith Tymor y Llywodraeth ar gyfer yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn nodi y dymunai weld pob corff yn gweithio gyda chynulleidfaoedd a chymunedau nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol. Wrth gyfrannu at hyn byddwn yn ystyried cynlluniau Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â Chydraddoldeb, gan gynnwys Adran Hinsawdd, Materion Gwledig ac Amgylcheddol Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol unwaith y bydd wedi’i gwblhau a Chynllun Cydraddoldeb yr Awdurdod ei hun.

Byddwn yn gweithio gyda chydweithwyr ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gyflawni’r prosiect Lleihau Tlodi ac Anghydraddoldebau o fewn y Cynllun Llesiant i gefnogi’r Ddyletswydd Economaidd Gymdeithasol.

Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro i gyflawni’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy ac â Chyfoeth Naturiol Cymru i gynnal Llwybr Arfordir Sir Benfro fel Llwybr Cenedlaethol ac fel rhan o Lwybr Arfordir Cymru. Bydd ein gweithgareddau treftadaeth yn cael eu dylanwadu gan Flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru.


Blaenoriaeth Gorfforaethol: Cymunedau

Ein Amcan Llesiant Cymunedau: Creu cymunedau bywiog, cynaliadwy a llewyrchus yn y Parc lle gall pobl fyw, gweithio a mwynhau.

Cyfraniad at y Nodau Llesiant Cenedlaethol

Nod yr Amcan hwn yw cyflawni’r canlyniadau canlynol:

  • Mae ymwelwyr yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i gymunedau lleol ac i Rinweddau Arbennig y Parc.
  • Gweithio’n agosach gyda chymunedau’r Parc Cenedlaethol i ddeall a chefnogi blaenoriaethau lleol yn well.
  • Mae cymunedau’r Parc Cenedlaethol yn fywiog, yn gynaliadwy ac yn llewyrchus.
  • Mae gan breswylwyr ac ymwelwyr opsiynau effeithiol a chynaliadwy (gan gynnwys defnyddio’r rhwydwaith hawliau tramwy) i deithio o gwmpas y Parc Cenedlaethol
  • Mae gwaith yr Awdurdod yn cyfrannu at fywyd Sir Benfro drwy gefnogi cynnal gweithgareddau Cymraeg, diwylliannol, hamdden a chymunedol.

Bydd hyrwyddo twristiaeth adfywiol yn y Parc a helpu ymwelwyr i wneud cyfraniad cadarnhaol i’r cymunedau lleol ac i adfer byd natur, yn cefnogi Cymru gydnerth, Cymru lewyrchus, a Chymru o gymunedau cydlynol. Bydd y fenter trafnidiaeth gynaliadwy yn cyfrannu at y targed o gyflawni 45% o deithiau yng Nghymru drwy ddulliau cynaliadwy erbyn 2040.

Drwy weithio mewn partneriaeth ag eraill i wella cyfleoedd diwylliannol, treftadaeth a’r Gymraeg yn y Parc, byddwn yn cefnogi Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, ac yn cefnogi Cymru iachach. Yn cyfrannu at y Cerrig Milltir Cenedlaethol i Gymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac at y dangosydd cenedlaethol ar y Canran o bobl sy’n mynychu neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth o leiaf deirgwaith y flwyddyn.

Bydd gweithgareddau ehangach o Greu Lleoedd sy’n cefnogi tai fforddiadwy yn y Parc yn cyfrannu at Gymru o gymunedau cydlynol, Cymru fwy cyfartal, Cymru iachach a Chymru lewyrchus.

Cyd-destun Strategol

Mae Strategaeth Twristiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru 2020-25 yn nodi uchelgais i dyfu twristiaeth er lles Cymru. Mae hyn yn golygu twf economaidd sy’n cyflawni buddion i bobl ac i greu lleoedd, gan gynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol, cyfoethogi cymdeithasol a diwylliannol, a buddion iechyd. Yn yr un modd mae Cynllun Rheoli Cyrchfan Sir Benfro yn nodi uchelgais ar gyfer partneriaid cyrchfan “i dyfu twristiaeth er lles Sir Benfro.”

Mae angen i’n gweithgareddau Cymraeg gefnogi strategaeth y Gymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.

Mae ein polisi creu lleoedd yn cael ei lywio gan Bolisi Cynllunio Cymru a byddwn yn parhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau cynllunio rhanbarthol.

Byddwn yn gweithio gyda chydweithwyr ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gyflawni’r Prosiect Cryfhau Cymunedau.

Mae Cenhedlaeth Nesaf – Pwyllgor Ieuenctid yr Awdurdod wedi datblygu Maniffesto Ieuenctid ar gyfer Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyda phedwar maes allweddol yn canolbwyntio ar rymuso ieuenctid, byw, dysgu a gweithio.

 

 


Gwneud iddo Ddigwydd – Creu Lleoedd
Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol

Bob pum mlynedd, mae’n ofynnol i’r Awdurdod gynhyrchu Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol sy’n nodi sut y dymunai weld y Parc Cenedlaethol yn cael ei reoli, nid yn unig gan yr Awdurdod ei hun, ond gan yr asiantaethau a sefydliadau eraill y gallai eu gweithgareddau effeithio ar y Parc.

Mae ein Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol presennol yn mynd ar drywydd dibenion y Parc Cenedlaethol drwy weithredu mewn partneriaeth ar draws pump thema sy’n ategu ei gilydd.

  • Ased genedlaethol – Tirwedd ar gyfer bywyd a bywoliaeth
  • Tirweddau ar gyfer pawb – Llesiant, mwynhad a darganfod
  • Parc gwydn – Diogelu ac adfer bioamrywiaeth
  • Lle o ddiwylliant – Dathlu treftadaeth
  • Cyfrifoldeb byd-eang – Rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy

Yn ystod y cyfnod 2023-26/27 bydd yr Awdurdod yn adolygu ei gynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol presennol mewn partneriaeth â chymunedau a rhanddeiliaid perthnasol. Bydd hyn yn gyfle i archwilio’r rhyngberthynas rhwng Amcanion Llesiant a blaenoriaethau newydd yr Awdurdod â’i weithgareddau a’i ddyletswyddau ehangach o ran creu lleoedd. Byddwn yn cynnwys pobl yn y gwaith o baratoi Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol ac yn cynnal sgyrsiau parhaus gyda rhanddeiliaid yn ystod y cyfnod gweithredu.

Cynllun Datblygu Lleol a’r Gwasanaeth Cynllunio

Yr Awdurdod yw’r awdurdod cynllunio statudol ar gyfer ardal y Parc Cenedlaethol ac mae’n gyfrifol am baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol. Cymeradwywyd Cynllun Datblygu Lleol 2 yr Awdurdod ym mis Medi 2020, a chaiff ei fonitro drwy ei Adroddiad Monitro Blynyddol.

Bydd yr Awdurdod yn parhau i wneud y canlynol;

  • paratoi, ymgynghori a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer canllawiau cynllunio atodol Cynllun Datblygu Lleol 2.
  • ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Penfro ar y ddeddfwriaeth gynllunio a’r datblygiadau polisi ar ail gartrefi, llety gwyliau, tai fforddiadwy a’r Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg.
  • ymgysylltu â’r prosesau cynllunio rhanbarthol, gan gynnwys Cydbwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru a’r Cynlluniau Datblygu Strategol.
  • cadw at y siarter creu lleoedd drwy hyrwyddo’r chwe egwyddor creu lleoedd wrth gynllunio, dylunio a rheoli lleoedd newydd a phresennol.
  • darparu gwasanaeth cynllunio a gorfodi effeithiol ac effeithlon. Gan gynnwys monitro ein perfformiad yn erbyn Dangosyddion Llywodraeth Cymru a chlustnodi cyfleoedd i wella’r gwasanaeth a ddarparwn.
  • adolygu ardaloedd cadwraeth o fewn y Parc a rhoi cyngor i berchnogion adeiladau a safleoedd hanesyddol.
  • ymgysylltu â chynghorau cymuned a darparu hyfforddiant ar gynllunio iddynt mewn cydweithrediad ag eraill.


 

 


Gwneud iddo Ddigwydd – Cynlluniau Cyflawni

Er mwyn troi ein huchelgeisiau yn gamau gweithredu, mae’r Awdurdod wedi datblygu set o gynlluniau cyflawni ar gyfer 2023/24-26/27. Bydd y camau gweithredu a’r canlyniadau yn y cynlluniau hyn yn llywio blaenoriaethau gweithredol yr Awdurdod ar gyfer y cyfnod 2023/24 -26/27.

Mae’r cynlluniau hyn yn drawsbynciol eu natur, gyda’r gweithgareddau yn aml yn cefnogi un neu fwy o’n Hamcanion Llesiant. Aelod o Dîm Rheoli’r Awdurdod sy’n gyfrifol am gyflawni cynllun, a bydd yn gweithio gyda swyddogion ar draws yr Awdurdod i sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflawni. Nid oes unrhyw gynllun yn cael ei neilltuo i un tîm gan fod pob cynllun yn gofyn am ddulliau cydweithredol traws Awdurdod os ydym am fod yn llwyddiannus. Mae’r timau sy’n cyfrannu at gyflawni’r cynllun yn cael eu nodi ym mhob cynllun.


Camau Blaenoriaeth yn ein Cynlluniau Cyflawni ar gyfer 23/24-26/27

Camau Gweithredu Blaenoriaeth y Cynllun Cyflawni Adfer Byd Natur
  • Cynyddu ein huchelgais ar gyfer ymyriadau sy’n seiliedig ar natur yn y Parc: Cymryd camau ar raddfa, canolbwyntio ar ble fydd ein hymyriadau yn cael yr effaith fwyaf ar gysylltedd, cyflwr, graddfa/ maint ac amrywiaeth yr ecosystemau ochr yn ochr â chynnal a gwella rhwydwaith ecolegol cydnerth. Bydd y dull hwn yn golygu gweithio ar ein hystâd ein hunain a chydweithio â thirfeddianwyr eraill, ffermwyr a rhanddeiliaid eraill. Yn cefnogi systemau ffermio uchel eu gwerth o ran natur.
  • Gwybodaeth a Grymuso: Gwella’r prosesau casglu data i fesur a blaenoriaethu’r camau gweithredu hynny sy’n cael yr effaith fwyaf ar adfer byd natur. Cynnwys pobl a chymunedau mewn gweithgareddau Adfer Natur.
  • Adfer Natur yn llywio’r modd yr ydym yn gweithredu: Ymgorffori adfer byd natur yn y modd yr ydym yn gweithredu gan ganolbwyntio ar fynediad a threftadaeth.
  • Cydweithio a Dulliau Strategol: Parhau i gefnogi a chymryd rhan mewn partneriaethau natur a morol strategol gan helpu eu gweithgareddau i gyfrannu at yr ymrwymiad 30×30. Ymateb i ddatblygiadau polisi ehangach.

Camau Gweithredu Blaenoriaeth y Cynllun Cyflawni ar Ddatgarboneiddio
  • Ffyrdd o Weithio ac Arloesi: Lleihau allyriadau’r APC (o 280,000 kg CO2e y flwyddyn (adroddiad gwaelodlin Aquatera) i 80,000 kg CO2e y flwyddyn erbyn 2030. Tracio pwynt hanner ffordd yn 2025 i 180,000 kg CO2e y flwyddyn.
  • Allanol a Phartneriaid: Ar y ffordd i gefnogi’r Parc Cenedlaethol i fod yn sero net/ Carbon niwtral erbyn 2040.

Addasu i’r Camau Gweithredu Blaenoriaeth yn y Cynllun Cyflawni ar Newid Hinsawdd
  • Ymgysylltu â Chymunedau Arfordirol Bregus: Gweithio gyda phartneriaid i ymgysylltu â chymunedau arfordirol bregus (y rhai y mae Ardaloedd Rheoli Newid Arfordirol yn effeithio arnynt) ar ganlyniadau newid arfordirol ac addasu i’r newid (gan gynnwys polisïau CDLl).
  • Casglu data a Monitro/ Rheoli Risg: Gwell gwybodaeth i gefnogi addasu i’r newid hinsawdd a monitro risgiau.
  • Meithrin Cydnerthedd yn Ymarferol: Profi dulliau sy’n canolbwyntio ar ein hasedau, hawliau tramwy cyhoeddus, safleoedd o werth uchel i natur, a safleoedd treftadaeth ac archaeolegol.

Camau Gweithredu Blaenoriaeth y Cynllun Cyflawni ar Iechyd, Lles a Mynediad

Noder: Yn canolbwyntio ar grwpiau nad ydynt yn gallu cael mynediad neu’n dewis peidio cael mynediad neu sy’n wynebu rhwystrau i gael mynediad i’r Parc Cenedlaethol ar hyn o bryd.

  • Ymwybyddiaeth, Mynediad a Grymuso: Cyflwyno rhaglen o ymyriadau i rymuso pobl a chael gwared ar y rhwystrau sy’n atal grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol neu’r rhai sy’n wynebu rhwystrau penodol rhag cael mynediad i’r Parc lle bo’n bosibl. Cydweithio ag eraill i gyflawni hyn.
  • Cydweithio: Ymgysylltu â’r sector Iechyd, Iechyd y Cyhoedd, y sector Gofal, Llywodraeth Cymru, a phartneriaid trydydd sector i ddylanwadu, datblygu a chymryd rhan mewn cyfleoedd presgripsiynu cymdeithasol. Sicrhau bod y Parc a’r cyfleoedd sydd yn y Parc yn cael eu defnyddio i gefnogi iechyd corfforol a meddyliol pobl.

Camau Gweithredu Blaenoriaeth y Cynllun Cyflawni ar Ymgysylltu, Cynnwys a Dysgu am y Parc
  • Gwybodaeth, Dysgu a Newid Ymddygiad: Cyflwyno rhaglenni dysgu ac allgymorth sy’n galluogi pobl o bob oed i ddeall a gwerthfawrogi’r Parc Cenedlaethol, a’r modd y gallant gymryd rhan mewn gweithgareddau i ddiogelu’r Parc a’i amgylchedd. Gyda ffocws penodol ar adfer byd natur, datgarboneiddio, ffurfio cysylltiadau â’r awyr agored a threftadaeth a newid ymddygiad.
  • Grymuso a Chydweithio: Darparu ystod o gyfleoedd i bobl a chymunedau i hysbysu, cefnogi, ymgysylltu â, a dylanwadu ar waith yr Awdurdod.

Cefnogi Twristiaeth Adfywiol drwy’r Camau Gweithredu Blaenoriaeth yn y Cynllun Cyflawni ar yr Economi Ymwelwyr
  • Pennu ein Gweledigaeth: Diffinio’r hyn y mae Twristiaeth Adfywiol yn ei olygu i APCAP, gan nodi egwyddorion twristiaeth adfywiol APCAP a’r strategaeth parc cyfan.
  • Dod yn Esiampl: Gweithio i ddod yn batrwm enghreifftiol mewn Twristiaeth Adfywiol. Arddangos a gweithredu’r egwyddorion yn ymarferol drwy:
  • ein Canolfannau Ymwelwyr
  • ein Rhaglen Gweithgareddau a Digwyddiadau
  • ein gwaith gyda’r adrannau mewnol ar draws yr Awdurdod.
  • Dylanwadu ar Eraill a Chefnogi Newid Ymddygiad: Gweithio gyda chydweithwyr APCAP ac mewn partneriaeth â chymunedau a masnach lleol, i greu newid cadarnhaol o fewn y sector. Sicrhau bod ymwelwyr y Parc yn deall ac yn cymryd rhan mewn ymddygiad priodol a diogel nad yw’n peryglu rhinweddau arbennig y Parc.

Camau Gweithredu Blaenoriaeth y Cynllun Cyflawni ar Fywyd yn Sir Benfro
  • Cydweithio ac Integreiddio: Cefnogi digwyddiadau yn Sir Benfro – e.e. Sioe’r Sir, Ironman. Gweithio mewn partneriaeth i gyflawni canlyniadau ehangach er budd pobl ac amgylchedd Sir Benfro: Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, grŵp Tanau Gwyllt, Croeso Sir Benfro, Rolau Gwirfoddol (Gwasanaethau Tân ac Achub, rolau Llywodraethwyr).
  • Cymunedau Cynaliadwy: Cyfrannu drwy gynllunio i ddarparu tai fforddiadwy a math a chymysgedd priodol o dai cyffredinol o fewn y Parc. Cyflwyno rhaglen o gyfleoedd ar draws ein canolfannau, digwyddiadau a gwaith allgymorth gan gefnogi pobl i ddefnyddio’r Gymraeg a datblygu eu sgiliau Cymraeg.
  • Diogelu Treftadaeth a Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn y Parc: Diogelu ac ymgysylltu pobl ag amgylchedd hanesyddol a Hawliau Tramwy Cyhoeddus Sir Benfro, gan gynnwys y Llwybr Cenedlaethol.

Cam Gweithredu Blaenoriaeth y Cynllun Cyflawni ar Lywodraethu a Gwneud Penderfyniadau
  • Gwneud Penderfyniadau a Chysondeb: Diweddaru ein dulliau o wneud penderfyniadau a’n dulliau corfforaethol er mwyn prif ffrydio ein blaenoriaethau newydd a’n Hamcanion Llesiant yn y modd yr ydym yn gweithio ac yn gwneud penderfyniadau. Sicrhau bod dulliau gweithredu cyson yn cael eu datblygu a bod ffyrdd newydd o weithio yn cael eu gwreiddio, gyda phwyslais arbennig ar ddatgarboneiddio a dyletswydd bioamrywiaeth Adran 6.

Cam Gweithredu Blaenoriaeth y Cynllun Cyflawni ar Ddatblygu Sgiliau a Hyfforddiant
  • Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant: Diweddaru ac adolygu ein hyfforddiant a datblygu sgiliau ar gyfer staff, Aelodau a gwirfoddolwyr i amlygu blaenoriaethau newydd ac Amcanion Llesiant yr Awdurdod. Uwchsgilio a gwella llythrennedd digidol i sicrhau ein bod ni i gyd yn gwneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael.

Camau Gweithredu Blaenoriaeth y Cynllun Cyflawni ar Adnoddau i Ehangu ein Cyllid
  • Ailalinio Cyllid a Datblygu Prosiectau: Ailalinio ein proses o gyllido a datblygu prosiectau i ddiwallu’r uchelgeisiau ar draws y cynlluniau cyflawni i lwyddo i wireddu ein blaenoriaethau a’n Hamcanion Llesiant.
  • Cyfleoedd Masnachol: Clustnodi cyfleoedd i ehangu ein sylfaen incwm drwy archwilio cyfleoedd masnachol o fewn fframwaith sy’n sensitif i frand, ethos a chylch gwaith yr Awdurdod Parc Cenedlaethol. Sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o’n hasedau a’n harbenigedd presennol i gynhyrchu incwm.
  • Partneriaethau a Chyfleoedd Comisiynu / Codi Arian: Gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd i gyflawni ein blaenoriaethau drwy:
  • glustnodi prosiectau blaenllaw/ ar lefel y dirwedd a llwybrau posibl o ariannu.
  • clustnodi llwybrau ariannu posibl sy’n gysylltiedig â phartneriaethau a chomisiynu. Gan gynnwys archwilio cyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy/ Treth Twristiaeth a chyfleoedd comisiynu yn y Sector Iechyd/ Gofal Cymdeithasol.

Camau Gweithredu Blaenoriaeth y Cynllun Cyflawni ar Gyfathrebu a Marchnata
  • Cadwraeth: Ymgysylltu a grymuso cynulleidfaoedd APC i weithredu dros natur.
  • Hinsawdd: Creu cyfleoedd i hyrwyddo ein taith i sero net drwy raglen greadigol o gyfathrebu, marchnata a dehongli.
  • Cysylltu: Hyrwyddo cyfleoedd i bobl o bob oed, gallu a chefndir ddarganfod a chael profiad o’r Parc, mewn modd sy’n eu cysylltu â’r dirwedd ac yn meithrin ymdeimlad o gysylltiad dwfn i annog newid cadarnhaol.
  • Cymunedau: Hyrwyddo ein hymgyrch gaeaf llawn lles gan weithio mewn partneriaeth i gefnogi cymunedau lleol drwy’r argyfwng costau byw. Gweithio gyda phartneriaid yn y diwydiant twristiaeth i hyrwyddo rhinweddau twristiaeth adfywiol y Parc.

Cam Gweithredu Blaenoriaeth y Cynllun Cyflawni ar Drawsnewid Digidol
  • Trawsnewid ein Ffyrdd o Weithio: Asesu pa gymorth, systemau a seilwaith technoleg gwybodaeth sydd eu hangen arnom i gefnogi ein huchelgeisiau i drawsnewid digidol a chyflawni ein Hamcanion. Trawsnewid llywodraethu gwybodaeth, y defnydd a wnawn o ddata, a’n ffyrdd o weithio i ddarparu gwell gwasanaethau, arbedion effeithlonrwydd, seiberddiogelwch a gostyngiadau mewn allyriadau carbon.

 

 


Gwneud iddo Ddigwydd – Canlyniadau Trawsbynciol

Mae’r Awdurdod wedi clustnodi ystod o ganlyniadau trawsbynciol sy’n gysylltiedig â’n Hamcanion Llesiant a dyletswyddau ehangach y sector cyhoeddus:

  • Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy – y 5 Ffordd o Weithio
  • Mae Dyletswydd Cydraddoldeb a Dyletswydd Economaidd-Gymdeithasol y Sector Cyhoeddus wedi’u gwreiddio yn yr hyn a wnawn, ac rydym yn cymryd yr amcanion i ystyriaeth yn ein cynllun cydraddoldeb.
  • Cefnogi lleihau Tlodi Plant.
  • Hyrwyddo’r Gymraeg i gefnogi’r targedau cenedlaethol ar nifer y siaradwyr, ac rydym yn cymryd hynny i ystyriaeth yn ein Strategaeth Iaith Gymraeg.
  • Mae’r ddyletswydd bioamrywiaeth Adran 6 a’r egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy wedi’u gwreiddio ac yn cael effaith gadarnhaol ar draws gweithgaredd beunyddiol o ddydd i ddydd yr Awdurdod.
  • Mae’r Awdurdod yn ymgysylltu’n effeithiol â’r cymunedau a’r rhanddeiliaid.
  • Mae’r Awdurdod yn gweithredu’n effeithiol ac yn cefnogi ac yn datblygu aelodau’r staff a gwirfoddolwyr.

I helpu i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r canlyniadau hyn byddwn yn defnyddio ystod o offer gan gynnwys:

  • Cynlluniau Cyflawni – mae pob un o’n cynlluniau cyflawni yn nodi’r modd y cânt eu gweithredu i gefnogi’r canlyniadau trawsbynciol.
  • Asesiadau Integredig – mae’r asesiadau hyn yn rhoi gwybodaeth i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau am yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol posibl er mwyn helpu i lywio eu penderfyniadau.
  • Datblygu fframwaith polisi a gweithdrefnau corfforaethol cadarn – cefnogi dosbarthu gwybodaeth am ein disgwyliadau a’r gofynion a’r safonau deddfwriaethol i’r gweithwyr. Helpu i hyrwyddo cysondeb ar draws yr Awdurdod a gwreiddio arferion gorau mewn meysydd all effeithio ar gyflawni ein canlyniadau trawsbynciol.
  • Ymgysylltu – gan gynnwys parhau i gefnogi’r Pwyllgor Ieuenctid, y Fforwm Gwirfoddolwyr a datblygu prosiectau mewn partneriaeth â’r rhai y maent yn ceisio bod o fudd iddynt.
  • Arbenigedd – Gweithio gydag Arweinydd Strategol Rhagoriaeth Cynhwysiant, Amrywiaeth a Llywodraethu Tirweddau Dynodedig Cymru i roi arbenigedd ar ymgorffori dyletswydd cydraddoldeb a dyletswydd economaidd-gymdeithasol y sector cyhoeddus ar draws ein gwaith.
  • Cydweithio – Gweithio gyda Thirweddau Cymru Landscapes for Wales i gyfuno cryfderau’r wyth Tirlun Dynodedig i weithredu ar y cyd ar gyfer yr hinsawdd, natur, diwylliant, treftadaeth a phobl.

 

 


Mesur Effaith

Bydd fframwaith perfformiad yn cael ei roi mewn lle i’n galluogi i fonitro ein cynnydd yn erbyn y canlyniadau yn ein cynlluniau cyflawni yn ystod y flwyddyn a bob blwyddyn. Byddwn hefyd yn asesu’r effaith y mae’r canlyniadau wedi’u cael, a statws y cynnydd cyffredinol a wnaed ym mhob cynllun. Bydd y cynnydd yn erbyn y cynlluniau cyflawni yn cael ei fonitro drwy:

  • System yr Awdurdod o adrodd ar berfformiad, ac astudiaethau ar effaith pob achos.
  • Dangosfyrddau’r Tîm Rheoli.
  • Adroddiadau i Aelodau’r Awdurdod drwy’r Pwyllgorau.
  • Adroddiad Blynyddol ar Gyflawni’r Amcanion Llesiant.
  • Bydd y Cynlluniau Cyflawni yn cael eu hadolygu’n flynyddol ochr yn ochr â’r Cynllun Corfforaethol fel rhan o’r cylch cynllunio corfforaethol.

I gefnogi’r gwaith o asesu’r modd yr ydym yn cyflawni ein Hamcanion Llesiant, rydym wedi datblygu set o ddangosyddion lefel uchel i glustnodi’r newid ar draws yr amcanion. Nid yw’r dangosyddion hyn yn gyfres berffaith o ddangosyddion ond dylent allu rhoi cipolwg sy’n dangos a ydym ar y trywydd iawn ac yn gwneud gwahaniaeth ar draws ein Hamcanion. Bydd y dangosyddion hyn yn cael eu mireinio ochr yn ochr â’r gwaith sy’n cael ei wneud ar fodelau Arwyddion Hollbwysig i lywio’r gwaith o ddatblygu Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol.

Cadwraeth:

  1. Cynnydd mewn diogelu a rheoli adfer byd natur yn effeithiol yn ardal y Parc (yn canolbwyntio ar drefniadau’r Awdurdod o ymyriadau a rheoli).

Hinsawdd:

  1. Yr Awdurdod: Gostyngiad mewn allyriadau o ffynonellau’r Awdurdod a chynnydd yn y carbon sy’n cael ei ddal.
  2. Y Parc: y mentrau datgarboneiddio cymunedol ac amaethyddol wedi’u cwblhau.
  3. Addasu: Nifer o waith ymarferol a gweithgareddau ailalinio wedi’u cwblhau ar Lwybr yr Arfordir i adeiladu cydnerthedd.

Cysylltiad:

  1. Diwrnodau/ oriau gwirfoddoli a gweithredu cymdeithasol yn cyfrannu at y pedwar maes blaenoriaeth.
  2. Nifer y bobl rydym yn ymgysylltu â drwy’r – gweithgareddau allgymorth a cherdded â chymorth, gweithgareddau cymunedol, addysg a chyhoeddus sy’n gysylltiedig â’r pedwar maes blaenoriaeth. Ymgysylltu ag ystod o sefydliadau, a threfnu digwyddiadau wedi’u teilwra i gynyddu cyrhaeddiad ein gweithgareddau.
  3. Nifer o leoliadau/ llwybrau sy’n caniatau mynediad yn unol â phob safon ansawdd.
  4. % yr hawliau tramwy cyhoeddus sy’n agored ac yn cwrdd â’r safonau ansawdd.
  5. Nifer y bobl sy’n defnyddio llwybr troed yn ôl y cownteri sefydlog.
  6. Nifer o henebion lle mae gwaith gwella/ cynnal a chadw wedi digwydd.

Cymunedau

  1. Nifer o draethau Baner Las a Gwobr Arfordir Glas yn y sir sydd wedi’u cadw / Darlleniadau Ansawdd Dŵr Ymdrochi.
  2. Nifer y teithwyr ar Fysiau’r Arfordir.
  3. Cynllun Datblygu Lleol 2 – Targedau tai fforddiadwy.

 

 


Llywodraethu a Chydymffurfio

Mae Cod Llywodraethu Corfforaethol yr Awdurdod yn nodi ei ymrwymiad i lywodraethu corfforaethol a’i fod yn deall llywodraethu corfforaethol. Mae’r cod yn amlinellu’r trefniadau y mae’r Awdurdod wedi’u rhoi mewn lle i sicrhau bod y gweithredu a’r monitro yn effeithiol ac yn barhaus.

Bob blwyddyn mae’r Awdurdod yn clustnodi yn ei ddatganiad llywodraethu blynyddol y camau allweddol i’w cymryd i fynd i’r afael ag unrhyw faterion neu risgiau llywodraethu a glustnodir. Ein meysydd blaenoriaeth a’r camau gweithredu a glustnodwyd ar gyfer 2023-24 yw:

Materion Llywodraethu / Risg a Glustnodwyd Camau i’w Cymryd
Iechyd a Diogelwch

 

Cynnal adolygiad o’r camau rheoli iechyd a diogelwch.
Parhau i weithredu Microsoft 365 ar draws y sefydliad, gan gynnwys archwilio’r cyfleoedd i ddefnyddio Sharepoint ochr yn ochr â gweithredu prosesau ac arferion i reoli cofnodion yn well. Ymgymryd â gweithgareddau i gefnogi gwell system o reoli cofnodion ar draws yr Awdurdod, gan ymgorffori gweithgareddau i gefnogi symud i Sharepoint.
Cynllunio ariannol canol tymor a phwysau costau Parhau i weithio gyda’r Aelodau a Llywodraeth Cymru i reoli heriau a phwysau ariannol canol tymor.
Adolygu Polisïau Corfforaethol Ymgymryd â gweithgareddau i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r Prosiect Gwelliannau Corfforaethol ar reoli a chyfathrebu Polisïau a Safonau Corfforaethol.
Cwblhau’r adolygiad o Gyflogau a Graddfeydd Cwblhau ac adolygu canlyniad yr Adolygiad o Gyflogau a Graddfeydd.
Strategaeth Iaith Gymraeg Cwblhau a chyhoeddi’r Strategaeth Iaith Gymraeg.
Gweithredu’r argymhellion yn adolygiad Archwilio Cymru o Lywodraethu Gweithredu’r argymhellion y cytunwyd arnynt o adolygiad Archwilio Cymru o Lywodraethu.

Bydd yr Awdurdod yn parhau i fonitro ei berfformiad yn erbyn meysydd cydymffurfio, gan gynnwys cyflawni unrhyw ddyletswyddau ychwanegol a osodir arno fel corff cyhoeddus:

  • Iechyd a Diogelwch
  • Diogelu
  • Diogelu Data a Llywodraethu Gwybodaeth
  • Dyletswydd Cydraddoldeb a Chymdeithasol-Economaidd
  • Safonau’r Gymraeg
  • Adroddiadau Sero Net Llywodraeth Cymru ac Adran 6 Dyletswydd Bioamrywiaeth
  • Partneriaeth Gymdeithasol a’r Ddyletswydd Caffael Cymdeithasol Gyfrifol
  • Trefniadau Llywodraethu a Rheoli Ariannol

Bydd yr Awdurdod yn parhau i asesu risg yn barhaus drwy fod y Tîm Rheoli a’r Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol yn adolygu ac yn craffu ar ei gofrestr risg. Bydd yn parhau i ymateb i ganfyddiadau ac argymhellion Archwilio Mewnol ac Archwilio Cymru. Bydd log gweithredu yn cael ei ddatblygu i helpu i fonitro’r camau gweithredu a roddwyd mewn lle mewn ymateb i argymhellion archwilio mewnol ac allanol.

 

 


Ariannu a dosbarthu yn erbyn yr Amcanion Llesiant

Pennir gwariant refeniw net yr Awdurdod ar gyfer 2023/24 gan Lywodraeth Cymru drwy ddyrannu’r Grant Parc Cenedlaethol blynyddol a’r ardoll o £4,333k. Mae incwm a gynhyrchir gan yr Awdurdod o tua £2,465k yn cael ei greu o’r ffioedd cynllunio, taliadau mynediad, gwerthu nwyddau, meysydd parcio, grantiau ac ati.

Mae’r Awdurdod wedi datblygu cynllun cyflawni sy’n canolbwyntio ar adnoddau ac ehangu ein cyllid, a bydd hefyd yn edrych ar sut i ymateb i ganfyddiadau Archwilio Cymru yn dilyn eu hadroddiad ar amrywio’r ffynonellau incwm. Un o swyddogaethau allweddol pob un o’r Penaethiaid newydd o dan y strwythur newydd yw archwilio cyfleoedd ychwanegol o ariannu a chreu incwm ar draws eu meysydd cyfrifoldeb.

Roedd y rhagolygon cyllideb a dadansoddiad sensitifrwydd ar gyfer 2024/25 i 26/27 wedi’u cynnwys yn yr Adroddiad Cynllunio Cyllideb Ddrafft a gyflwynwyd i’r Aelodau yng Nghyfarfod yr Awdurdod Parc Cenedlaethol ar yr 8fed o Chwefror.

2023/24 Rhagolygon Cyllideb

Incwm
£000s
Grant Llywodraeth Cymru 3,250
Ardoll Awdurdod Lleol 1,803
Incwm a gynhyrchir gan yr Awdurdod 2,465
Trosglwyddiad o Gronfeydd 1,366
Llog Banc 5
Cyfanswm 8,169

 

Gwariant
Amcan Llesiant APCAP Adnoddau
(£000’s)
%
Cadwraeth 1,841 22.5
Hinsawdd 1,410 17.2
Cysylltiad 3,135 38.4
Communities 1,783 21.9
Cyfanswm 8,169 100.0

Mae’r tabl hwn yn rhoi dadansoddiad manylach o’r gyllideb yn erbyn codau CIPFA ar gyfer Awdurdodau Parciau Cenedlaethol.

Amcangyfrif Drafft Cryno – Gwariant Gros 2023/24 ar 4 Amcan Llesiant yn erbyn codau CIPFA ar gyfer

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol

  Cadwraeth Hinsawdd Cyswllt Cymunedau Cyfanswm
  22.5% 17.3% 38.4% 21.8% 100.0%
000s
Gwarchod yr Amgylchedd Naturiol 608 122 24 24 777
Gwarchod y Dreftadaeth Ddiwyllianno 0 0 84 33 117
Rheoli Datblygu 58 58 0 461 577

Blaengynllunio a Chymunedau

24 124 0 189 336
Hybu Dealltwriaeth & Mwynhad 144 144 1,639 203 2,130
Hamdden a Rheoli’r Parc 28 42 557 42 669
Parcmyn, Ystadau a Gwirfoddolwyr 460 312 312 312 1,396
Cynrychiolaeth a Rheolaeth

Ddemocrataidd

138 138 138 138 552
Gwasanaethau Cymorth 382 471 382 382 1,616
Cyfanswm Gwariant Gros 1,841 1,410 3,135 1,783 8,169
Incwm o grantiau, ffioedd, taliadau, trosglwyddiadau EMR a.y.b -2,465
Ardoll a Grant PC -4,333
Addasiad nad yw mewn arian parod -1,366
Llog Banc -5
  -8,169

I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau neu i ofyn am y cynllun mewn fformat arall, cysylltwch â: info@pembrokeshirecoast.org.uk / 01646 624800