Hysbysebu yn O Lan i Lan 2025

Papur newydd am ddim gwobrwyedig Sir Benfro i ymwelwyr - ar gael ar-lein ac fel ap

Mae O Lan i Lan, sef y papur blaenllaw am ddim i ymwelwyr gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, erbyn hyn yn ei 43ain blwyddyn.

Eleni, er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth safonau’r Gymraeg, bydd holl erthyglau golygyddol y cylchgrawn yn ddwyieithog. Mae croeso i hysbysebwyr gyflwyno eu hysbysebion yn Gymraeg, yn Saesneg neu’r ddwy iaith.

I ymwelwyr â’r unig wir Barc Cenedlaethol arfordirol ym Mhrydain, nid oes cyhoeddiad gwell am ddim – ac i hysbysebwyr, does unlle gwell i hyrwyddo eich busnes.

Mae’r galw am le yn ein rhifyn 48 tudalen ar sail y cyntaf i’r felin, felly archebwch eich lle yn gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi.

I drafod eich gofynion hysbysebu, ffoniwch Hysbysebu O Lan i Lan, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY.  Ffôn: 01646 624895 neu ebostiwch hysbysebu@arfordirpenfro.org.uk.

Mae fersiwn PDF o’r pecyn hysbysebu hefyd ar gael, ar mae’r gwybodaeth hysbysebu ar gael yn Saesneg hefyd.

 

Pam ddylech chi hysbysebu yn O Lan i Lan 2025?

  • Bydd dros 1 filiwn o bobl leol ac ymwelwyr yn gweld eich hysbyseb bob tymor.
  • Mae’n cael ei ddosbarthu ar draws Sir Benfro ac mae ar gael mewn nifer o leoliadau yn sir Gaerfyrddin a Cheredigion rhwng mis Ebrill a mis Hydref
  • Rhifyn dwyieithog enfawr gyda 48 tudalen i hyrwyddo eich busnes a’r ffyrdd gorau o fwynhau’r Parc Cenedlaethol.
  • Argraffu o safon er mwyn dangos eich cynnyrch/gwasanaeth ar ei orau a chreu argraff barhaol.

 

Dyma ddywedodd ein darllenwyr:

“Yn llawn dop gyda mwy o newyddion da, awgrymiadau defnyddiol ac erthyglau ffeithiol nag erioed o’r blaen…hanfodol i drigolion ac i ymwelwyr!! ARDDERCHOG!!”- Facebook

“Hwn ydi’r cyhoeddiad gorau i dwristiaid yn Sir Benfro.” – Gill, Gwesty Beggars Reach

 

Sut i hysbysebu yn O Lan i Lan 2025

Pan fyddwch chi’n barod i archebu eich gofod hysbyseb, llenwch y ffurflenni ar-lein neu anfonwch gopi o’ch ffurflen archebu dros e-bost at advertising@pembrokeshirecoast.org.uk a byddwch yn cael anfoneb. Y taliad gorau yw drwy BACS, yna gyda cherdyn.

Dylid archebu, talu a gwneud y gwaith celf erbyn: Dydd Gwener 10 Ionawr 2025.

 

Categorïau hysbysebu ar gyfer 2025

  • Artistiaid ac Orielau
  • Teithiau Cwch ac Ymweliadau ag Ynysoedd
  • Crefftau (is-gategorïau: gwydr, gwlân, pren, crochenwaith, amrywiol)
  • Gerddi
  • Amgueddfeydd
  • Sir Benfro ar Blât
  • Antur yn yr Awyr Agored (is-gategorïau: chwaraeon dwr, pysgota, marchogaeth)

Sylwch: Nid oes raid i’ch hysbyseb arddangos fod mewn categori arbennig; mae yna leoedd unigol ymhob rhan o’r papur hefyd. Os nad ydych yn siwr lle fyddai orau i’ch hysbyseb, bydd ein tîm yn falch o’ch helpu – ffoniwch ni ar 01646 624895. Hefyd, os ydych eisiau inni warantu lle penodol ar gyfer eich hysbyseb arddangos, cysylltwch â ni i archebu a thalu am Le Sicr (gweler ffurflen archebu hysbysebion arddangos, neu dudalen 5 o’r pecyn hysbysebu).