Gyda threnau i Abergwaun, Hwlffordd a Doc Penfro yn ogystal â gwasanaethau bws a fferi, mae yna opsiynau da sy’n eich galluogi chi i adael eich car gartref.
Fe fydd rhai darparwyr lletyyn eich casglu chi o’r orsaf drenau, felly cofiwch holi pan fyddwch chi’n trefnu llety.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am sut i gyrraedd Sir Benfro ar drafnidiaeth gyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Mynd o gwmpas Sir Benfro gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
Mae gan Sir Benfro amrywiaith o wasanaethau bws, sy’n rhedeg rhwng pob tref yn y sir, chwe diwrnod yr wythnos.
Mae cyrraedd yr arfordir a’r ardaloedd gwledig mwy poblogaidd ar fws yn hawdd, ond cofiwch fod gwasanaethau llai aml i rai lleoliadau gwledig yn ogystal â gwasanaethau cludiant i gefnogi eu hanghenion.
Ewch i wefan Cyngor Sir Penfro i weld y wybodaeth ac amserlenni bysiau diweddaraf.
Mae’r gwasanaeth trên yn Sir Benfro yn ddolen ddefnyddiol rhwng trefi, ac mae’n siwrnai brydferth i gefn gwlad, yn enwedig ar hyd arfordir y de.
Ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru i weld y wybodaeth ac amserlenni trenau diweddaraf.

Rhwydwaith Bysiau Arfordirol
Mae Bysiau Arfordirol Sir Benfro yn wasanaethau bws lleol sy’n teithio i fyny ac i lawr morlin y Parc Cenedlaethol, gan sicrhau bod pob modfedd o 186 milltir (299km) Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.
Maent yn gweithredu saith diwrnod yr wythnos yn ystod yr haf a gwasanaeth llai yn ystod misoedd y gaeaf.
I ddysgu mwy am y Bysiau Arfordirol a lawrlwytho amserlenni, ewch i wefan Cyngor Sir Penfro, neu codwch gopi o Coast to Coast.
Fflecsi Sir Benfro
Mae Fflecsi Sir Benfro yn wasanaeth trafnidiaeth newydd ar alw sy’n gweithredu yng Ngogledd Orllewin Sir Benfro.

Bysiau cwch ym Mhorthstinian
Ers blynyddoedd, defnyddiwyd lleoliad trawiadol Porthstinian fel man cychwyn ar gyfer teithiau cwch i Ynys Dewi, a’r ynysoedd pellach oddi ar y lan.
Nawr, gofynnir i bobl sydd am deithio i’r ynysoedd ddal bws y Gwibiwr Celtaidd o Dyddewi i Borthstinian, a’n helpu ni i wella trafferthion mynediad yn y lleoliad anghysbell ac annwyl hwn. Hefyd mae rhai gweithredwyr yn darparu eu gwasanaethau bws eu hunain.