Mae gwarchod adeiladau traddodiadol yn helpu i gynnal cymeriad lleol cryf ac unigryw. Ers rhyfel 1939-45 mae llawer o sgiliau adeiladu traddodiadol wedi cael eu colli. Roedd y sgiliau hyn nid yn unig yn creu cymeriad unigryw ein hadeiladau ond hefyd yn cael eu hymarfer gan grefftwyr lleol gyda deunyddiau lleol.
Yn Sir Benfro er enghraifft, roedd carreg galch leol o ardal Caeriw’n cael ei gludo ar longau o gwmpas yr arfordir a’i losgi mewn odynnau i wneud mortar; yng nghanolbarth a gogledd Sir Benfro, roedd digonedd o lechi ar gael ar gyfer toi. Ar ôl i’r rheilffyrdd gyrraedd, daeth llechi o ogledd Cymru, brics (o Wlad yr Haf neu Sir y Fflint) a phren meddal wedi’i fewnforio’n fwy cyffredin.
Er y deunyddiau newydd hyn, roedd cartrefi Sir Benfro’n parhau i fod yn solet a syml gan ddibynnu mwy ar eu mesuriadau helaeth na’u manylion pensaernïol. Fel arfer defnyddiwyd brics neu gerrig nadd fel arfer ar dai uwch eu safon neu adeiladau cyhoeddus.
Y dyddiau hyn, defnyddir amrywiaeth eang o ddeunyddiau a dulliau adeiladu ar adeiladau hanesyddol, rhai ohonynt yn gwneud difrod esthetig a thechnegol. O ganlyniad mae mwy o ddiddordeb mewn defnyddio dulliau a deunyddiau traddodiadol fel mortar calch a phren lleol.
Yn aml iawn gall technoleg fodern a thechnegau traddodiadol fod yn gyfuniad llwyddiannus wrth warchod adeiladau hanesyddol. Erbyn hyn mae deunyddiau traddodiadol parod ar gael a byddem yn falch iawn o roi cyngor pellach ar hyn.
Gall strwythurau ‘gwneud’ hefyd greu cynefinoedd i rywogaethau a warchodir fel ystlumod a’r dylluan wen. Mae planhigion prin fel cennau hefyd i’w cael weithiau. Yn aml iawn, bydd angen cyngor arbennig a chaniatâd lle mae’r cynefinoedd hyn i’w cael.