Rhaid apelio o fewn chwe mis i ddyddiad y penderfyniad ac eithrio yn achos apeliadau hysbysebu lle mae'n rhaid apelio o fewn un mis i'r penderfyniad.
Ystyrir apeliadau gan yr Arolygiaeth Gynllunio.
Gellir apelio am nifer o resymau:
- Lle mae caniatâd cynllunio wedi’i wrthod
- Lle mae caniatâd wedi’i roi ond gydag amodau
- Lle gwrthodwyd manylion oedd eu hangen o dan ganiatâd cynllunio amlinellol blaenorol
- Lle caniatawyd manylion oedd eu hangen o dan ganiatâd cynllunio amlinellol blaenorol ond gydag amodau
- Lle gwrthodwyd unrhyw fater arall oedd yn ofynnol drwy amod ar ganiatâd blaenorol (yn hytrach na’r uchod)
- Lle mae’r Awdurdod Cynllunio wedi methu â phenderfynu’r cais o fewn yr amser priodol.
Yn y rhan fwyaf o achosion, penodir Arolygydd fydd yn ystyried barn pawb ac yn dod i benderfyniad annibynnol ar y mater. Bydd yr Arolygydd yn gallu:
- Dileu amodau
- Gwrthdroi gwrthod y cais.
Drwy wneud hynny, bydd hefyd yn gallu:
- Ychwanegu amodau
- Dyfarnu costau i’r Apelydd neu i’r Awdurdod Cynllunio Lleol os gellir dangos bod yr apêl yn ddiangen
Gwneud apêl
Mae ffurflenni a dogfennau canllaw ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Neu gallwch gysylltu â’r Arolygiaeth Gynllunio drwy’r manylion isod:
Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Rhif ffôn: 0303 444 5940
E-bost: wales@pins.gsi.gov.uk
Am arweiniad, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Chwilio penderfyniadau apêl
- Gellir gweld penderfyniadau apêl ar wefan y Arolygiaeth Gynllunio.