Nodyn cyngor – Gwybodaeth esboniadol am blannu ffiniau
Cyngor plannu cyffredinol
- Bydd defnyddio amrywiaeth gynyddol o rywogaethau ar gyfer plannu gwrychoedd yn sicrhau llwyddiant hirdymor na fydd y gwrychoedd mor agored i blâu a chlefydau â rhai sy’n cynnwys un rhywogaeth.
- Bydd gwrych brodorol yn cynhyrchu strwythur brodorol sydd o fudd i natur yn ogystal â chreu sgrin a ffin sylweddol.
- Bydd plannu rhywogaethau brodorol collddail hefyd yn caniatáu i fwy o olau adlewyrchu drwy’r strwythur yn y gaeaf na strwythur bythwyrdd.
- Dylai gwrych brodorol safonol gynnwys 6 planhigyn i bob metr mewn dwy res wasgarog tua 25cm ar wahân (neu 40-60cm ar wahân ym mhob rhes).
- Peidiwch â defnyddio planhigion sy’n rhy fach oherwydd gallant gael eu mygu gan chwyn: mae 60-90cm o uchder fel arfer yn ddigonol
- Gellir ystyried sbesimenau llai mewn gerddi lle mae gwaith cynnal a chadw’n cael ei wneud yn amlach i atal chwyn a glaswelltau rhag cystadlu â’r sbesimenau a blannwyd. Fodd bynnag, os nad yw’r ardal yn cael ei chynnal a’i chadw’n rheolaidd, cynghorir bod sbesimen talach yn cael ei blannu.
- Mewn llefydd agored efallai y bydd angen gosod ffyn i gynnal y planhigion. Os oes perygl y bydd cwningod yn amharu ar y planhigion, defnyddiwch lewys coed rhag cwningod neu ddull tebyg i’w diogelu.
- Yr amser gorau ar gyfer plannu yw:
- Stoc wedi’i dyfu mewn celloedd – Medi i Fai
- Stoc â gwraidd moel – Tachwedd i ddiwedd Mis Mawrth – Yn ystod y cyfnod hwn gallwch brynu planhigion â gwraidd moel sy’n rhatach na rhai wedi’u tyfu mewn pot / celloedd. Nodwch: Mae’n well plannu yn ystod tywydd llaith, cymylog; dylech osgoi plannu ar ddyddiau heulog, gwyntog, cyfnodau o farrug caled a/neu pan fydd eira ar y ddaear.
Dewis rhywogaethau
- Un o brif rywogaethau brodorol gwrychoedd Sir Benfro fyddai’r Ddraenen Wen (50-60%) ynghyd â’r Ddraenen ddu a Choed cyll. Bydd hyn yn creu gwrych brodorol sy’n llai tebygol o ddioddef o blâu a chlefydau sy’n fwy o risg mewn gwrychoedd sy’n cynnwys un rhywogaeth.
- Mae’r Ddraenen ddu yn rhywogaeth allweddol yng ngwrychoedd Sir Benfro ond yn gyffredinol fe’i ceir ar gloddiau Sir Benfro lle gall gwreiddiau ochrol y rhywogaethau a blannwyd gyfyngu ar y natur ymledol. Lle caiff y Ddraenen ddu ei phlannu fel gwrych ac nid ar glawdd gall ymledu i fannau agored fel caeau neu erddi wrth ymyl y gwrychoedd dan sylw. Os caiff y tir cyfagos a’r gwrych eu rheoli’n rheolaidd, efallai na fydd hyn yn broblem, ond dylid ei ystyried o hyd os mai dyma’r brif rywogaeth y bwriedir ei phlannu.
- Gellir hefyd ystyried bod cynnwys rhywogaethau fel Piswydden, Cwyrosyn a Gwifwrnwydden y gors hefyd yn cynyddu amrywiaeth.
- Os oes angen mathau bythwyrdd, gellir ystyried defnyddio rhywogaethau brodorol fel Celyn ac Yswydden.
- Dyma restr o rywogaethau coed neu lwyni sy’n gynhenid i Sir Benfro sy’n addas ar gyfer gwrychoedd.
Eithin** | Ulex europaeus/gallii | Piswydden | Euonymus europaeus |
Draenen ddu | Prunus spinosa | Gwifwrnwydden * | Viburnum lantana |
Coeden afalau surion* | Malus sylvestris | Yswydden | Ligustrum vulgare |
Gwifwrnwydden y gors | Viburnum opulus | Ysgawen | Sambucus nigra |
Draenen wen* | Crataegus monogyna | Cwyrosyn | Cornus sanguinea |
Collen | Corylus avellana | Rhosyn Gwyllt (dringwr) | Rosa canina |
Celyn* | Ilex aquifolium |
* Gellir hefyd tyfu’r rhywogaethau hyn yn goed bach o fewn y gwrych.
** I’w cael mewn safleoedd agored iawn
- Gellir plannu coed mwy, fel Derw, hefyd os oes angen. Mae Onnen yn rhywogaeth frodorol a geir ar wrychoedd; fodd bynnag, cynghorir nad yw Onnen yn cael ei defnyddio mewn cynlluniau plannu ar hyn o bryd. Cyfeiriwch at Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio)
- Gall Ysgawen dyfu’n gyflymach na rhywogaethau gwrychoedd eraill ac felly argymhellir ei chynnwys unwaith y bydd y gwrych wedi dechrau sefydlu gan ei bod o fudd i fywyd gwyllt oherwydd ei bod yn cynhyrchu blodau ac aeron. Os mai nod y gwrych yw diogelu stoc yna efallai na fydd Ysgawen yn addas; oherwydd ei natur frau sy’n creu ‘dolen wan’.
- Unwaith y mae wedi sefydlu, gellid ystyried cynnwys rhywogaethau ‘dringo’ fel Rhosyn Gwyllt, Gwyddfid a Rhosyn Dringo i gynyddu amrywiaeth yn ogystal ag ychwanegu cryfder ochrol ychwanegol a llawnder i’r gwrych. Cynghorir bod y gwrych yn cael amser i sefydlu yn gyntaf rhag i blanhigion dringo fynd yn drech na’r llwyni ifanc.
Gwybodaeth ar gyfer Cais Cynllunio
- Ceisiadau cynllunio – Pan fo angen neu os cynigir cynllun tirlunio ôl-ddatblygu; dylid darparu manylion am y gwrychoedd a gaiff eu plannu, gan gynnwys:
- Rhywogaethau y bwriedir eu plannu o fewn y gwrych
- Maint – uchder sbesimenau pan gânt eu plannu
- Ffurf – planhigion o had neu doriadau (feathers, whips), ac unrhyw goed hirgyrff i’w cynnwys
- Nifer bob rhywogaeth sydd i’w plannu neu ganran
- Lleoliadau penodol – pa ffin ac ati
- Bylchau – dwy res wasgarog ayb
- Tarddiad lleol – os yw’n hysbys
- Amser plannu
- Unrhyw wybodaeth berthnasol arall – gwraidd moel, wedi’i dyfu mewn celloedd, pot
- Y ffordd symlaf i ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol yw mewn tabl:
Enw | Enw Lladin | Nifer | % | Bylchau | Maint |
Draenen ddu | Prunus spinosa | 12 | 20% | 6 planhigyn i bob metr – 2 rhes wasgarog | 60-90cm |
Yswydden ayb | Ligustrum vulgare | 3 | 5% | 6 planhigyn i bob metr – 2 rhes wasgarog | 60-90cm |
Rhywogaethau anfrodorol / Ymledol
- Dylid cymryd gofal i sicrhau, lle y bo’n bosibl, bod rhywogaethau brodorol (o darddiad lleol) yn cael eu defnyddio er mwyn atal rhywogaethau anfrodorol rhag sefydlu neu ymledu i’r ardal gyfagos.
- Mae hefyd angen sicrhau nad yw unrhyw rywogaethau a ddewisir wedi’u rhestru yn Atodlen 9 o Ddeddf Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt 1981.
Cloddiau Sir Benfro
- Os bwriedir cynnwys Cloddiau Sir Benfro ar y safle; dylid darparu manylion y dull adeiladu gan gynnwys dimensiynau hefyd mewn unrhyw gais cynllunio.
- Mae nodweddion cloddiau Sir Benfro fel strwythurau o fewn datblygiad arfaethedig yn nodweddion sy’n cael eu ffafrio yn Sir Benfro gan fod:
- Modd eu gweithredu i ddarparu strwythur ar unwaith sy’n gwneud yr ardal ddatblygu’n llai amlwg.
- Gellir lleihau’r risg y bydd coed yn methu â thyfu mewn safleoedd datblygu yn sgil cywasgu’r tir / difrod ffisegol (effeithiau uniongyrchol cerbydau) / difrod cemegol (gollyngiadau tanwydd/halen ar y ffyrdd) / ymrwymiadau cynnal a chadw / niwsans yn y dyfodol gan goed sydd angen eu rheoli o ran uchder a maint.
- Darparu sgrin o goed brodorol ar unwaith a fydd yn golygu llai o gyfrifoldebau rheoli gan y bydd rhywogaethau’r gwrych a’r coed yn tyfu’n uwch ac yn ymledu llai; sy’n golygu na fydd angen gwneud gwaith tocio mor aml.
- Lleihau’r risg o niwed i’r wyneb wrth i wreiddiau dyfu’n raddol i’r ardal ddatblygu gan fod y broses o sefydlu’r system wreiddiau’n digwydd yn bennaf o fewn y gwrych.
- Darparu lefel o gysylltedd a diddordeb cynefin; lle gwneir ymdrechion i sicrhau eu bod yn ffinio â’r dirwedd gyfagos.
- Yn nodwedd draddodiadol o dirwedd Sir Benfro; yn darparu cyswllt tirwedd hanesyddol â’r safle.
- Dull symlach o reoli’r gwrych drwy docio’r gwrych cyfan ar gyfnodau penodol er budd bywyd gwyllt a’r defnydd o’r safle a rheoli unrhyw goed penodol a blannwyd ar y cloddiau mewn modd dewisol.
- Dangosir enghreifftiau o fathau nodweddiadol o adeiladu cloddiau Sir Benfro:
Cyngor a lawrlwythiadau
Nodyn cyngor - Gwybodaeth esboniadol am blannu ffiniau
• Bydd defnyddio amrywiaeth gynyddol o rywogaethau ar gyfer plannu gwrychoedd yn sicrhau llwyddiant hirdymor na fydd y gwrychoedd mor agored i blâu a chlefydau â rhai sy’n cynnwys un rhywogaeth.