O dan Adran 106 o Ddeddf Gynllunio Gwlad a Thref, mae gan ymgeisydd sydd hefyd yn berchennog ar y tir gyfle i lunio cytundeb yn wirfoddol â'r Awdurdod Cynllunio Lleol, cytundeb a elwir yn Ymrwymiad Cynllunio.
Gellir defnyddio’r cytundebau hyn:
- I gyfyngu ar y datblygiad neu ar ddefnyddio’r tir mewn ffordd benodol
- I ofyn bod gwaith neu weithgareddau penodol yn cael eu cyflawni yn, ar, dros neu o dan y tir
- I ofyn bod y tir yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd benodol
- I ofyn bod swm neu symiau’n cael eu talu i’r Awdurdod ar ddyddiad(au) penodedig neu’n gyfnodol.
Rhaid i gytundeb o'r fath gwrdd â phrofion rhesymoldeb o ran:
- Bod ei angen o safbwynt ymarferol fel bo’r datblygiad yn gallu digwydd
- Yn achos taliad ariannol, y bydd yn cyfrannu at y gost o ddarparu cyfleusterau o’r fath yn y dyfodol agos
- Bod ei angen o safbwynt cynllunio a’i fod fel arall mor uniongyrchol gysylltiedig â’r datblygiad arfaethedig ac â defnyddio’r tir ar ôl ei gwblhau, fel na ddylid caniatáu’r datblygiad hebddo.
Mae ystod eang o’r cytundebau hyn a gellir eu defnyddio i ennill elfen o dai fforddiadwy fel rhan o gynllun, i ddarparu gwelliannau ffordd sydd ond eu hangen o ganlyniad i’r datblygiad arfaethedig, neu hyd yn oed i ‘ildio’ defnyddiau eraill o dan y Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd neu o dan Hawliau Datblygiad a Ganiateir arferol, gan felly gyfyngu’r datblygiad i’r union gynnig sydd mewn golwg.
Mae’r mesurau hyn, a allai olygu bod datblygiad yn gallu digwydd, yn gyfreithiol a dylid ond eu trafod gyda’r Awdurdod gyda chymorth a chyngor gan gyfreithiwr.