Gallwch wneud eich cais ar-lein drwy'r Porth Cynllunio neu drwy e-bost neu bost yn defnyddio'r ffurflenni cais perthnasol.
Cyngor Cyn-Gwneud-Cais
Cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol, gallwch ofyn i’r tîm Rheoli Datblygu am farn anffurfiol am y gwaith sydd gennych mewn golwg. Rydym yn annog trafodaethau cyn-gwneud-cais oherwydd yn aml medrant gyflymu’r broses o wneud cais, annog a chefnogi cynlluniau da ac efallai helpu i leihau costau. Am fwy o wybodaeth ewch i’r adran Cyngor Cynllunio.
Gwybodaeth Ategol
Bydd angen i chi gynnwys yr holl wybodaeth ategol angenrheidiol gyda’ch cais i’w wneud yn ‘ddilys’. Bydd hyn yn cynnwys ffurflen gais wedi’i llenwi’n llawn, y ffi gynllunio (manylion isod), darluniau / cynlluniau i raddfa fetrig gydnabyddedig, ac unrhyw wybodaeth arall sy’n berthnasol i’r cais. Am fwy o wybodaeth am faint a’r math o wybodaeth fydd angen ei chynnwys gyda’ch cais, darllenwch drwy’r Llawlyfr Rheoli Datblygu ar wefan Llywodraeth Cymru.
Ffioedd Cais a Chyn-Gwneud-Cais
Llywodraeth Cymru sy’n penderfynu’r ffioedd ar gyfer ceisiadau cynllunio a chyngor cyn-gwneud-cais.
Er mwyn gweithio allan y ffi gywir, ewch i’r Cyfrifydd Ffioedd neu darllenwch y taflenni ffioedd perthnasol isod:
- Cyfrifydd Ffioedd Cais Cynllunio
- Taflen Ffioedd Cais Cynllunio (Awst 2020)
- Taflen Ffioedd Cyn-Gwneud-Cais (Mawrth 2016)
Dyma rai mathau cyffredin o geisiadau y mae’r Awdurdod yn delio â nhw a’r ffi gynllunio ar eu cyfer:
Cais gan ddeiliad tŷ | £230 |
Cais gan ddeiliad tŷ i wneud diwygiad ansylweddol | £35 |
Ffi deiliad tŷ i weithredu amodau | £35 |
Tai newydd (hyd at ac yn cynnwys 50) | £460 |
Newid defnydd adeilad neu dir | £460 |
Codi adeilad (ar gyfer amaethyddiaeth) (heb fod dros 465 metr ciwbig) | £100 |
Tystysgrif datblygiad cyfreithlon – ar gyfer defnydd neu waith presennol | Yr un fath â’r ffi lawn |
Tystysgrif datblygiad cyfreithlon – ar gyfer defnydd neu waith arfaethedig | Hanner y ffi arferol |
Cais am hysbyseb (ar gyfer arwyddion busnes neu arwyddion cyn cyrraedd) | £120 |
Hysbysebion eraill | £460 |
Cais i wneud diwygiad ansylweddol | £115 |
Gweithredu amod | £115 |
Gallwch weld a lawrllwytho'r ffurflenni a'r nodiadau cyfarwyddyd cysylltiedig trwy ddilyn y dolenni isod.
Cais am Ganiatâd Cynllunio a chaniatâd i arddangos hysbyseb(ion). |
|
Hysbysiad Ymlaen Llaw: Amaethyddiaeth, Goedwigaeth a Thelathrebu
Cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon ar gyfer defnydd neu ddatblygiad arfaethedig. |
Cais am Ganiatâd Cynllunio a chaniatâd Ardal Gadwraeth i ddymchwel mewn Ardal Gadwraeth. |
|
Cais am Ganiatâd Ardal Gadwraeth i ddymchwel mewn Ardal Gadwraeth. |
Cais gan Ddeiliad Tŷ am Ganiatâd Cynllunio i wneud gwaith neu i godi estyniad ar dŷ. |
|
Cais am ddiwygiad ansylweddol yn dilyn rhoi caniatâd cynllunio. |