Gorfodi cynllunio yw'r broses o ymchwilio i achosion posib o dor-rheolau cynllunio, a lle bo angen bydd camau'n cael eu cymryd i unioni unrhyw dor-rheol.
Tîm Rheoli Datblygu a Gorfodi Awdurdod y Parc Cenedlaethol sy’n ymdrin â materion gorfodi ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae dau Swyddog Gorfodi Cynllunio’n gyfrifol am faterion gorfodi dan gyfarwyddyd Arweinydd y Tîm Rheoli Datblygu.
Rhoi gwybod am achos o dorri rheolaeth gynllunio
Os gwyddoch am unrhyw waith diawdurdod sy’n cael ei wneud yn y Parc Cenedlaethol, neu am waith nad yw’n digwydd yn unol ag amodau neu gynlluniau cymeradwy, cofiwch roi gwybod i ni drwy adrodd unrhyw dor-rheol i dc@pembrokeshirecoast.org.uk neu lawrlwythiwch y Ffurflen Gwyno Ynglŷn â Gorfodaeth Cynllunio.
Rhoddir mwy o fanylion yn ein taflen gyngor Gorfodi Cynllunio ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro – Canllawiau i’r Cyhoedd. Mae’r daflen wedi’i chynhyrchu i helpu i egluro pa gamau sy’n cael eu cymryd wrth orfodi cynllunio, gan gynnwys ymchwilio, gan egluro sut yr ymdrinnir â chwynion i’r Awdurdod.