Cwestiynau Cyffredin ar Bolisïau Cynllunio.
C: Oes gan yr Awdurdod Gynllun Datblygu ar hyn o bryd?
A: Oes. Cynllun Datblygu Lleol, a dderbyniwyd yn 2020, sy’n cynnwys polisïau cyffredinol a phenodol i ardal ar ddatblygu Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
C: Beth yw Cynllun Datblygu Lleol?
A: Math newydd o Gynllun Datblygu yw Cynllun Datblygu Lleol, y mae gofyn i bob Awdurdod Cynllunio Lleol ei baratoi. Mae’n rhoi sicrwydd ynghylch pa fath o ddatblygiad a fydd yn cael ei ganiatáu neu ei wrthod yn ystod cyfnod y Cynllun.
C: Pa bolisïau sy’n berthnasol i Gais Cynllunio?
A: Mae’r System Gynllunio yn cynnwys hierarchaeth o bolisïau cenedlaethol a lleol. Mae polisïau a luniwyd ar lefelau cenedlaethol a rhanbarthol wedi cael eu defnyddio i baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol. Mae pob cais cynllunio yn cael eu hystyried yng ngoleuni’r polisïau a amlinellir mewn dogfennau polisi cenedlaethol a’r Cynllun Datblygu Lleol. Efallai y bydd angen ystyried materion eraill, hefyd, sy’n cael eu galw’n ‘Ystyriaethau Materol’.
C: Beth yw’r ardal ddaearyddol sy’n dod dan ofal Gwasanaeth Cynllunio’r Parc Cenedlaethol?
A: Mae’r Awdurdod yn gofalu am ardal ddaearyddol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, sydd wedi ei nodi’n glir yn y Map Cynigion ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol. Mae’r gwasanaeth yn ymdrin â cheisiadau cynllunio a llunio’r polisi cynllunio.
C: Oes gennych chi nodiadau canllaw ar Gynllunio?
A: Mae gennym amrywiaeth o Nodiadau Canllaw (canllawiau cynllunio atodol) ar Gynllunio Lleol ar gael i’ch helpu chi gydag ymholiadau datblygu penodol.
C: Sut ydw i’n cyflwyno sylwadau ar faterion yn ymwneud â pholisi cynllunio?
A: Mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol Gynllun Datblygu Lleol y mae wedi’i fabwysiadu. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut i gynnig eich mewnbwn i’r adolygiadau hyn, cysylltwch â’r Tîm Cynlluniau Datblygu trwy e-bost. Caiff polisïau cynllunio cenedlaethol eu cynhyrchu gan Lywodraeth Cymru.
Cysylltu â Ni
Os oes gennych fwy o gwestiynau yr hoffech gael atebion iddynt, e-bostiwch nhw i ni.