Mae'r dudalen hon yn amlinellu newidiadau i Bolisi Cynllunio yng Nghymru ar gyfer ail gartrefi a gosodiadau tymor byr a sut y bydd yr Awdurdod yn ystyried y mater hwn fesul achos.
Cefndir
Yn 2021, roedd gwaith ymchwil[1] yng Nghymru wedi tynnu sylw at yr effeithiau cymhleth y mae ail gartrefi a lletyau tymor byr yn eu cael ar gymunedau a marchnadoedd tai. I ymateb i’r gwaith ymchwil, rhoddodd Llywodraeth Cymru dri mesur ar waith i reoli’r materion hyn, gan gynnwys galluogi Awdurdodau Lleol i godi hyd at 300% ar y Dreth Gyngor ar gyfer ail gartrefi, cyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer gosod lletyau tymor byr (o dan ymgynghoriad), a gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth a pholisi cynllunio. Roedd y mesurau Cynllunio wedi cyflwyno tri dosbarth defnydd newydd, sef C3 ar gyfer tai annedd sy’n cael eu defnyddio fel prif breswylfeydd, C5 ar gyfer tai annedd sy’n cael eu defnyddio fel ail gartrefi, a C6 ar gyfer lletyau tymor byr. Hefyd, diwygiwyd Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 i alluogi newidiadau rhwng y dosbarthiadau defnydd newydd hyn. Mae’r datblygiadau hyn yn arbennig o berthnasol i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro fel Awdurdod Cynllunio Lleol.
Cytunodd yr Awdurdod i gyflwyno ystyriaeth o’r mater hwn fesul achos mewn cyfarfod o Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar 29 Mawrth 2023. Mae’r adroddiad ar gael drwy ddilyn y ddolen isod:
08_23-Planning-Policy-Changes-re-Second-Homes-abd-Short-term-lets.pdf (pembrokeshirecoast.wales) (Agor mewn ffenest newydd)
Sut gallai hyn effeithio ar eich Cais?
Nid yw’r newidiadau i’r rheoliadau a amlinellir uchod yn golygu na fyddwn yn caniatáu defnydd C5 (ail gartrefi) a C6 (llety tymor byr), ond o dan rai amgylchiadau mae’n bosibl y byddwn ni’n rhoi amod meddiannaeth dosbarth defnydd C3 ar waith ar gyfer annedd rydych chi’n ei hadeiladu neu’n dymuno newid y defnydd ohoni fel bod yn rhaid ei defnyddio fel prif annedd[2].
Sut ydyn ni’n penderfynu pryd i roi amod meddiannaeth C3 ar waith?
- Y Cyd-destun Polisi
Wrth feddwl am ba mor briodol yw rhoi amodau ar waith er mwyn rheoli meddiannaeth, bydd swyddogion yn ystyried a yw neu sut mae’r polisïau Cynllun Datblygu Lleol 2 canlynol yn berthnasol:
- Polisi 46 Tai (Polisi Strategol): Mae’r gofyniad tai a nodir yng Nghynllun Datblygu Lleol 2 yn seiliedig, yn rhannol, ar y dybiaeth mai ail gartrefi neu dai gwyliau yw rhywfaint o’r stoc dai. Mae’r dybiaeth hon yn seiliedig ar ffigurau Cyfrifiad 2011, a oedd wedi cofnodi bod ‘dim preswylydd arferol’ mewn 26.7% o leoedd cartrefi yn y Parc Cenedlaethol. Pan fydd mwy na 26.7% o dai yn ail gartrefi neu’n lletyau tymor byr mewn canolfan, mae cyfle i effeithio ar allu’r cynllun i gyflawni ei dargedau tai.
- Polisi 40 Datblygu Llety Hunanddarpar: Mae’n caniatáu i ddatblygu datblygiadau llety hunanddarpar mewn rhai lleoliadau penodol o fewn canolfannau yn y Parc Cenedlaethol, neu i’w trosi mewn lleoliad cefn gwlad.
- Polisi 47 Tir neu Ddyraniadau Tai â Chaniatâd, a Pholisi 48 Tai Fforddiadwy: Mae’r polisïau hyn yn cael eu hategu gan dybiaethau a wneir i bennu sut gall datblygiadau tai gyflawni targedau tai fforddiadwy’r Awdurdod. Gall rheolaethau meddiannaeth effeithio ar hyfywedd. Fodd bynnag, does dim dealltwriaeth lawn o’r effeithiau ar hyn o bryd.
2. Dadansoddiad
Yn ogystal ag ystyried sail Cyfrifiad 2011 ar gyfer Polisi 46, mae Swyddogion hefyd yn ystyried y canlynol drwy ddadansoddiad desg:
- Ystadegau ar ba mor gyffredin yw ail gartrefi a llety gwyliau yn seiliedig ar y Rhestr Tir ac Eiddo Lleol, cofrestr y dreth gyngor a chofrestr o set ddata gofodol llety gwyliau.
- Dadansoddiad Clwstwr[3] o ail gartrefi a llety gwyliau er mwyn ymchwilio i weld a oes modd dod o hyd i ragor o achosion mewn ardaloedd penodol mewn canolfan.
- Pa mor gyffredin yw ail gartrefi a llety gwyliau mewn datblygiadau tebyg yn yr ardal.
- Pa mor gyffredin yw gartrefi a llety gwyliau mewn datblygiadau diweddar.
[1] WG42058 (gov.wales) (Agor mewn ffenest newydd)
[2] Wedi’i meddiannu am fwy na 183 diwrnod pob blwyddyn galendr
[3] Drwy ddefnyddio algorithm cyfrifiadurol, mae pwyntiau data tebyg yn cael eu grwpio gyda’i gilydd mewn set ddata. Y tybiaethau a roddir gan Swyddogion yw bod ganddynt o leiaf 5 pwynt data o’r fath (yn yr achos hwn naill ai ail gartref neu lety gwyliau) o fewn 100m i’w gilydd. Mae DBSCAN yn dod o hyd i’r grwpiau o bwyntiau sy’n agos at ei gilydd. Mae’n dechrau drwy ddewis pwynt ar hap, ac wedyn yn edrych ar yr holl bwyntiau eraill o fewn pellter penodol i’r pwynt hwnnw. Os oes digon o bwyntiau o fewn y pellter hwnnw, bydd DBSCAN yn ystyried y pwyntiau hynny i fod yn rhan o glwstwr. Yna, mae’n ailadrodd y broses ar gyfer pob un o’r pwyntiau yn y clwstwr nes bod yr holl bwyntiau yn y clwstwr wedi’u nodi. Mae DBSCAN hefyd yn nodi pwyntiau sy’n rhy bell i ffwrdd oddi wrth unrhyw glwstwr i gael eu hystyried yn rhan o grŵp. Gelwir y pwyntiau hyn yn bwyntiau “sŵn”, ac fel arfer nid ydynt yn ddefnyddiol ar gyfer rhagfynegi neu ddadansoddi’r data. Yn gyffredinol, mae DBSCAN yn algorithm defnyddiol ar gyfer dod o hyd i batrymau mewn data pan nad ydych chi’n gwybod faint o glystyrau sydd ar gael na pha mor fawr yw’r clystyrau hynny.