Pwyntiau Gweithredu

Cynllun Datblygu Lleol 2

Pwynt Gweithredu I’w gwblhau gan Cyswllt â’r ymateb
HS1/AP1 – Yr Arolygydd i adolygu a chymeradwyo Dogfen Adolygu Polisi Cynllunio Cymru 10 a gyflwynwyd gan APCAP. 26 Gorffennaf 2019 Exam05
HS1/AP2 – APCAP i ddiwygio pob polisi fel bod y troednodiadau yn ymddangos ar ddiwedd y maen prawf/brawddegau (diwygiedig 23/07/19). 26 Gorffennaf 2019
HS1/AP3 – APCAP i gynnwys diagram allweddol yn y cynllun. 26 Gorffennaf 2019 Exam72
HS1/AP4 – APCAP i ddarparu’r canrannau o ddyraniadau sydd ar dir glas ac ar Dir a Ddatblygwyd o’r Blaen. 26 Gorffennaf 2019 Exam73
HS1/AP5 – APCAP i fewnosod cyfeiriad at wefannau cynlluniau rheoli’r traethlin yn nhestun y troednodyn ar gyfiawnhad rhesymegol. 26 Gorffennaf 2019 Exam85
HS1/AP6 – APCAP i ehangu’r adran Strategaeth Ofodol i egluro’r: strategaeth drosfwaol, ei chydrannau allweddol, y modd y mae cydrannau allweddol y strategaeth yn cyd-fynd â Chynllun Gofodol Cymru, a pham mai’r strategaeth hon sy’n parhau i fod y strategaeth fwyaf priodol ar gyfer y Parc Cenedlaethol; ac i ystyried yr angen am Bolisi Twf sy’n egluro graddfa a chyd-destun datblygiad newydd yn yr APC a Pholisi Strategaeth Ofodol sy’n egluro dosbarthiad datblygiad a hierarchaeth aneddiadau. Nodir y gallai Polisi Twf newydd arwain at newidiadau i Bolisi 8. 16 Awst 2019 Exam122
HS1/AP7 – APCAP i ailddiffinio hierarchaeth aneddiadau i’w gwneud yn fwy unigryw yn lleol. 16 Awst 2019 Exam74
HS1/AP8 – APCAP i roi rhif i Mr Fry gysylltu â thîm Llywodraeth Cymru ar adfywio. 26 Gorffennaf 2019 Exam104
HS1/AP9 – APCAP i ddiwygio Polisi 2(c) drwy fewnosod ‘a’ ar ôl cyfleusterau a Pholisïau diwygiedig 2(f), 3(e), 4(e), a 5(e) i ddarllen ‘I gyflawni gwell traffig … . ‘ 26 Gorffennaf 2019 Exam75
HS1/AP10 – APCAP i gynhyrchu papur cefndir sy’n ystyried yr angen am brif polisi preswylio a/neu gysylltiadau lleol? 30 Awst 2019 Exam111 Nodir sylwadau’r APC a bydd y cyflwyniad yn cael ei drafod ymhellach yn Sesiwn y Gwrandawiad ar y 1af o Hydref.
HS1/AP11 – APCAP i adolygu Polisi 6, drwy fewnosod brawddeg gyntaf paragraff 4.46. 26 Gorffennaf 2019 Exam70 HS1/AP11
HS1/AP12 – APCAP i symleiddio gofynion Polisi 7(d). 26 Gorffennaf 2019 Exam76
HS1/AP13. – APCAP i ddarparu dyddiadau dangosol ar gyfer cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ac ehangu’r rhestr i gynnwys Canllaw Cynllunio Atodol ar baratoi cynlluniau bro. 26 Gorffennaf 2019 Exam99
HS2/AP1 – APC i ddiwygio Polisi 9 i gyfeirio at olau artiffisial ac i egluro maen prawf (a). 26 Gorffennaf 2019 Exam88
HS2/AP2 – APC i ddiwygio Polisïau 10 ac 11 i gynnwys rhifo is-adrannau. 26 Gorffennaf 2019 Exam71 HS2/AP2
HS2/AP3 – APC i ddiwygio’r map cynigion i gynnwys y safleoedd lleol o bwysigrwydd cadwraeth natur neu geomorffig lle maent wedi’u dynodi yn ffurfiol. 26 Gorffennaf 2019 Exam78
HS2/AP4 – APC i ddiwygio polisïau 12 a 13 i gyfeirio at osgoi, lliniaru ac iawndal. 26 Gorffennaf 2019 Exam86
HS2/AP5 – APC i adolygu Polisi 14 a chyfiawnhad rhesymegol i egluro’r amgylchiadau lle byddai gofynion y polisi yn berthnasol a natur y mesurau lliniaru y byddai eu hangen. 26 Gorffennaf 2019 Exam94
HS2/AP6 – APC i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Arolygydd am y broses o gynhyrchu rhestr o asedau hanesyddol o bwysigrwydd lleol yn y Parc Cenedlaethol. 26 Gorffennaf 2019 Exam105
HS2/AP7 – APC i ddileu Polisi 17 a’i ddisodli â pholisïau Lletem Las a Mannau Agored Cyhoeddus ar wahân. 26 Gorffennaf 2019 Exam112
HS2/AP8 – APC i ystyried dynodi Gerddi Rosemount, Allen’s View a’r Fynwent yn Ninbych-y-pysgod yn fannau agored. 26 Gorffennaf 2019 Exam89 (diwygiad)
HS2/AP9 – APC i ddiwygio Polisïau 18 a 19 i egluro effeithiau andwyol annerbyniol. 26 Gorffennaf 2019 Exam77
HS3/AP1 – APCAP i ddiwygio Polisi 24(g) i egluro beth fydd yr effaith. 26 Gorffennaf 2019 Exam90
HS3/AP2 – APCAP i ddiwygio’r cyfiawnhad rhesymegol dros Bolisïau 25(b) i egluro’r hyn a olygir gan ‘berthynas agos’. 26 Gorffennaf 2019 Exam91
HS3/AP3 –APCAP i ddiwygio’r cyfiawnhad rhesymegol dros Bolisi 29 i egluro gofynion meini prawf (e) ac (f) yn fanylach. 26 Gorffennaf 2019 Exam79
HS4/AP1 – APCAP i ddiwygio Polisi 30(e) i gynnwys cyfeiriad at effeithlonrwydd ynni a’r cyfiawnhad rhesymegol i egluro gofynion meini prawf (e) ac (f). 26 Gorffennaf 2019 Exam100
HS4/AP2 – Mr Jessop i roi manylion y polisïau sy’n ymwneud ag effeithlonrwydd, defnydd a chynhyrchu ynni. 30 Awst 2019 Ymateb Marloes a Sain Ffraid i Bwynt Gweithredu HS4_AP2
HS4/AP3 – APCAP i egluro gofynion Polisi 31(a) a diwygio’r frawddeg olaf ym mharagraff 4.166 i esbonio’r gofynion mewn termau defnydd tir. 26 Gorffennaf 2019 Exam101
HS4/AP4 – APCAP i ystyried a ddylai Polisi 34 fod yn bolisi strategol, ac adolygu’r Polisi i gyfeirio at Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel a chynnwys meini prawf sy’n: esbonio’r dechnoleg ynni adnewyddadwy (math a graddfa) sy’n briodol yn y Parc Cenedlaethol; y gofynion amlinellol ar gyfer lliniaru / ôl-ofal; a budd-daliadau cydadferol. 30 Awst 2019 Exam118
HS4/AP5 – APCAP i: roi gwybodaeth ychwanegol i’r Arolygydd mewn perthynas â Pholisïau 37 a 38 gan gynnwys amcangyfrif o nifer yr eiddo sydd o fewn yr ardal ddiffiniedig o reoli newid arfordirol, a nifer yr eiddo sydd y tu mewn a thu allan i ffiniau canolfannau diffiniedig ac enghreifftiau o bolisïau tebyg sydd mewn grym yn Lloegr / Cymru; a diwygio Polisi 37 (a), (b), (e) ac (f) a Pholisi 38 (a), (b), (c) ac (c) i roi mwy o eglurder ynghylch y gofynion. 30 Awst 2019 Exam95
HS4/AP6 – APCAP i ystyried a yw Polisi 35 yn bolisi strategol neu’n bolisi ardal. 26 Gorffennaf 2019 Exam96
HS5/AP1 – APCAP i roi: manylion am ddatblygiadau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth dros y 5 mlynedd diwethaf; a chopi o’r Astudiaeth Flynyddol o Argaeledd Tir Cyflogaeth yn Sir Benfro (2017). 16 Awst 2019 Exam113
HS5/AP2 – APCAP i ychwanegu rhestr o’r safleoedd cyflogaeth i’w diogelu i’r atodiad o’r cynllun. 16 Awst 2019 Exam114
HS5/AP3 – APCAP i ailedrych ar baragraff olaf Polisi 39 i egluro y gall mesurau lliniaru fod yn dderbyniol. 26 Gorffennaf 2019 Exam92
HS5/AP4 – APCAP i roi copi o’r astudiaeth Air B&B o ran llety hunanarlwyo. 26 Gorffennaf 2019 Exam66
HS5/AP5 – APCAP i ddiwygio paragraff 4.231 i gyd-fynd â chylchlythyr Llywodraeth Cymru ar amodau. 26 Gorffennaf 2019 Exam80
HS5/AP6 – APCAP i ddiwygio Polisi 40 i fewnosod ‘lle gellir ei ddangos:’ a diffinio ‘apêl’. 26 Gorffennaf 2019 Exam115
HS5/AP7 – APCAP i ddiwygio Polisi 42 i gynnwys cyfeiriad at ‘… math o lety’ a symleiddio maen prawf (a). 26 Gorffennaf 2019 Exam97
HS5/AP8 – APCAP i ddiwygio Polisi 43: drwy adleoli ‘gellir dangos’ i ddiwedd llinell gyntaf y polisi; rhoi diffiniad o gyffiniau; ac is-rannu maen prawf (a) i greu maen prawf newydd sy’n ymdrin â graddfa a dyluniad. 26 Gorffennaf 2019 Exam81
HS5/AP9 – APCAP i ddiwygio: Polisi 54 i gynnwys y ffigwr anghenion manwerthu; diweddaru para 4.311 i gynnwys diweddaru ffigurau anghenion manwerthu ar gyfer pob canolfan; a thestun sy’n benodol i’r ganolfan i Bolisi 55. 16 Awst 2019 Exam98
HS5/AP10 – APCAP i rannu Polisi 53 yn bolisïau ar wahân ar gyfer cyfleusterau cymunedol a rhwymedigaethau cynllunio. 16 Awst 2019 Exam106
HS6/AP1 – APCAP, mewn trafodaeth gyda Llywodraeth Cymru, i: ddiwygio Tabl 5 – Cydrannau’r Cyflenwad o Dir sydd ar gael ar gyfer Tai, i amlygu dyddiad sylfaenol y cyd-astudiaeth argaeledd tir ar gyfer tai (JHLAS) 2019; a darparu’r llwybr tai mwyaf diweddar sydd i’w gynnwys fel atodiad ar wahân yn y Cynllun. 16 Awst 2019 Exam127
HS6/AP2 – APCAP i ddarparu tabl wedi’i ddiweddaru sy’n dangos ffigurau hap-safleoedd mawr a bach ar gyfer y cyfnod 2009-19. Y ffigurau tueddiadau i’w dangos fel rhifau cyfan. 16 Awst 2019 See Exam127
HS6/AP3 – APCAP i ddarparu: rhestr o safleoedd mawr sydd â chaniatâd cynllunio ar 31 Mawrth 2019; clustnodi amserlen ar gyfer cyflawni pob safle (e.e. cyn pen 5 mlynedd neu fwy na 5 mlynedd); a nodi pa safleoedd nad ydynt o fewn ffiniau’r Ganolfan sydd wedi’i chynnwys yn CDLl2. 16 Awst 2019 Exam123
HS6/AP4 – APCAP i adleoli Tablau 7 ac 8 i’r atodiad. Mae cwmpas Tabl 7 i’w ymestyn i gynnwys manylion am safleoedd mawr sydd wedi cael caniatâd cynllunio ar 31 Mawrth 2019 (ac sydd yn y cyflenwad 5 mlynedd). Bydd angen ymestyn y tabl wedyn i gynnwys manylion am: cyfeirnod y safle; hanes cynllunio perthnasol; cyfyngiadau; gofynion dylunio a/neu seilwaith; Rhwymedigaethau Cynllunio; a’r amserlen ar gyfer cyflawni. 31 Awst 2019 Exam128 Diweddarwyd yn dilyn Sesiwn Gwrandawiad 9
HS6/AP5 – APCAP i ddarparu ffigur cyflenwad tir ar gyfer tai dros gyfnod o 5 mlynedd sy’n ystyried darpariaethau CDLl2 yn y Llwybr Tai. 16 Awst 2019 See Exam127
HS6/AP6 – APCAP i ddiwygio’r cyfiawnhad rhesymegol dros Bolisi 47 i gynnwys esboniad o’r lwfans hyblygrwydd. 16 Awst 2019 Exam126
HS6/AP7 – APCAP, mewn trafodaeth gyda Llywodraeth Cymru, i ddiwygio Polisi 48 i: hepgor y safleoedd a ddyrannwyd sydd â chaniatâd cynllunio ar 31 Mawrth 2019; a chynnwys cyfeiriad at y gofynion a amlinellir yn yr atodiad diwygiedig (yr hen Dabl 7 ac 8). APCAP hefyd i ystyried pa mor briodol yw cynnwys manylion safleoedd mawr eraill sydd bellach â’r fantais o fod â chaniatâd cynllunio ar 31 Mawrth 2019 (ac sydd yn y cyflenwad 5 mlynedd) o fewn Polisi 48. 31 Awst 2019 Exam128 Diweddarwyd yn dilyn Sesiwn Gwrandawiad 9
HS6/AP8 – APCAP, mewn trafodaeth gyda Llywodraeth Cymru, i: baratoi polisi trosfwaol ar gyfer rheoli cyflenwi tai ar draws yr hierarchaeth aneddiadau; a gwneud diwygiadau ôl-ddilynol i Bolisïau 2,3,4,5,6,7. 16 Awst 2019 Exam107
HS6/AP9 – APCAP i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Arolygydd ar hynt y cais rhif NP/19/0361/OUT ac unrhyw geisiadau am ddatblygiad tai ar safleoedd o 5 annedd neu fwy. Parhaus Exam116
HS7/AP1 – APCAP i ystyried goblygiadau’r llythyr oddi wrth y Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol dyddiedig 8 Gorffennaf 2019 o ran y CDLl newydd a chyflwyno eu sylwadau i’r Arolygydd. 31 Awst 2019 Exam117 Nodir sylwadau’r APC a bydd y cyflwyniad yn cael ei drafod ymhellach yn Sesiwn y Gwrandawiad ar y 1af o Hydref.
HS7/AP2 – APCAP i ddiwygio Polisi 49 i: gynnwys manylion y targedau % a’r trothwyon ar gyfer tai fforddiadwy; symleiddio’r cyfeirio at sicrhau tai fforddiadwy o adeiladau/defnydd segur ac is-rannu safleoedd; dileu’r cyfeiriad at safleoedd eithriedig; ac adleoli’r targed tai fforddiadwy. 16 Awst 2019 Exam129
HS7/AP3 – APCAP i ddiwygio’r cyfiawnhad rhesymegol dros Bolisi 49: egluro’r raddfa a’r math o angen am dai fforddiadwy yn yr APC; sut y caiff hyn ei fodloni dros gyfnod y Cynllun; ychwanegu cyfeiriad at y Canllawiau Cynllunio Atodol newydd ar Dai Fforddiadwy; amlinellu’r mecanweithiau ar gyfer rheoli symiau gohiriedig; a rhoi croesgyfeiriad i Bolisi 53. 16 Awst 2019 Exam108
HS7/AP4 – APCAP i ddarparu polisi newydd i ymdrin â darparu safle eithriedig a’i reoli. Dylai’r cyfiawnhad rhesymegol dros y polisi gynnwys cyfeiriad at sefydliadau cyflawni gan gynnwys Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol. 16 Awst 2019 Exam119
HS7/AP5 – APCAP i roi manylion am y modd y bydd yr angen am dai fforddiadwy yn cael ei ddiwallu drwy fecanweithiau heblaw am y system gynllunio, dros y 3 blynedd nesaf. 26 Gorffennaf 2019 Exam102
HS7/AP6 – APCAP i ddarparu tabl yn cymharu’r gofynion am dai fforddiadwy yn CDLl1 (Canllawiau Cynllunio Atodol ar Dai Fforddiadwy a fabwysiadwyd) a CDLl2. 26 Gorffennaf 2019 Exam82
HS7/AP7 – APCAP i ddiweddaru Tabl 6 yng ngoleuni diwygiadau i Dabl 5 a darparu Targed Tai Fforddiadwy wedi’i ddiweddaru. 16 Awst 2019 Exam120
HS7/AP8 – APCAP i ddiweddaru Tabl 9 i gynnwys cod post ychwanegol. 26 Gorffennaf 2019 Exam93
HS7/AP9 – APCAP i ychwanegu’r parthau tai fforddiadwy at y map cynigion. 30 Awst 2019 Exam83
HS7/AP10 – APCAP i isrannu Polisi 50 i greu polisïau ar wahân ar Ddwysedd Tai a’r Math a’r Gymysgedd o Dai. 16 Awst 2019 Exam109
HS7/AP11 – APCAP mewn trafodaeth gyda Llywodraeth Cymru, i adolygu gofynion Polisi 51(a) a naill ai diwygio’r geiriad neu ddileu’r meini prawf. 26 Gorffennaf 2019 Exam103
HS7/AP12 – APCAP i ddarparu tystiolaeth i gefnogi gofynion Polisi 52. 30 Awst 2019 Exam124
HS7/AP13 – Mr Jessop i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â’r Pwyllgor Newid Hinsawdd. 26 Gorffennaf 2019 Exam84
HS9/AP1 – NAEG i gyflwyno’r datganiadau a ddarllenwyd yn Sesiwn Gwrandawiad 9. 8 Hydref 2019 Exam130
HS9/AP2 – Yr APC i ystyried pa mor briodol yw cynnwys dangosydd yn y Cynllun i fonitro’r angen am bolisi prif breswylfa yn y Parc Cenedlaethol. 8 Hydref 2019 Exam134
HS9/AP3 – Yr APC i gynnwys datganiad yn y cyfiawnhad rhesymedig o Bolisi 49 yn amlinellu cefnogaeth i ddarparu cynlluniau a arweinir gan dai fforddiadwy yn y Parc Cenedlaethol. 8 Hydref 2019 Exam132
HS9/AP4 – Yr APC i adolygu Dangosydd 22 a’i ddiwygio i gynnwys mecanwaith i fonitro cyfanswm nifer y tai a gwblhawyd bob blwyddyn yn erbyn y rhagamcan o’r raddfa flynyddol o dai i’w cwblhau yn y trywydd tai. 8 Hydref 2019 Exam133
HS9/AP5 – Yr APC i ddiwygio fframwaith monitro’r cynllun i gynnwys y dangosyddion newydd a nodir yn ei Ddatganiad i’r Gwrandawiad ar gyfer Sesiwn 9 (Atodiad 1). 8 Hydref 2019 Exam133