Caeodd yr ymgynghoriad hwn am 4.30pm ar 13 Mawrth 2020.
Ymgynghoriad Newidiadau Materion sy’n Codi
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi gwneud diwygiadau i Gynllun Datblygu Lleol 2, yn dilyn Sesiynau Gwrandawiad Archwilio a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf a mis Hydref 2019. Gelwir y diwygiadau hyn yn Newidiadau Materion sy’n Codi (MAC).
Gall sylwadau sy’n cael eu gwneud yn ystod y cam hwn gyfeirio at Newidiadau Materion sy’n Codi yn unig.
Mae’r Awdurdod wedi darparu:
- Amserlen o’r Holl Newidiadau i Faterion sy’n Codi
- Copi o destun y Cynllun yn dangos y newidiadau a gynigiwyd wrth Gyflwyno (nad oes modd gwneud sylw arnynt) a’r Newidiadau i Faterion sy’n Codi. Dynodir Newidiadau i Faterion sy’n codi gan y symbol ‘♣’. Mae’r symbol hwn yn dod cyn ac ar ôl pob newid.
- Atodiad Arfarniad o Gynaliadwyedd
- Atodiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Atodiad Asesiad o’r Effaith ar Gydraddaoldeb
Mae copïau o’r dogfennau hyn ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio am ddim un ai:
Ym Mhrif Swyddfa Awdurdod Parc Cenedlaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Pendro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY. Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Iau 9am i 5pm, ac ar ddydd Gwener rhwng 9am a 4.30pm.
Neu yng Nghanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, Tyddewi, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 6NW, yn ystod oriau agor arferol.
Maent hefyd ar gael mewn llyfrgelloedd cyhoeddus gyda mynediad at y we yn ystod eu horiau agor arferol.
Dylai sylwadau sy’n cael eu gwneud yn ystod y cam hwn gyfeirio at Newidiadau Materion sy’n Codi (MAC) yn unig. Nid yw’n gyfle i roi sylwadau ar weddill y Cynllun. Bydd unrhyw sylwadau o’r fath yn cael eu diystyru oherwydd y dylent fod wedi eu gwneud yn gynharach yn ystod cyfnod paratoi’r Cynllun.
Noder mai oherwydd camgymeriad argraffu yn y papur newydd lleol, mae’r cyfnod ymgynghori wedi’i ymestyn. Gallwch nawr gyflwyno cyflwyniadau erbyn 4.30pm ddydd Gwener 13 Mawrth 2020.
Bydd sylwadau a dderbynnir ar Newidiadau Materion sy’n Codi yn cael eu hanfon ymlaen at yr Arolygydd i’w hystyried.
Dylid anfon sylwadau un ai yn ysgrifenedig at Bennaeth Cyfarwyddyd y Parc, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY neu drwy e-bostio devplans@pembrokeshirecoast.org.uk
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y dogfennau, cysylltwch â Thîm Cyfarwyddyd y Parc.