Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau.
Fel rhan o gasglu tystiolaeth ar gyfer y Cynllun diwygiedig, mae’r Awdurdod yn gwahodd pobl i gyflwyno manylion am safleoedd y maent yn dymuno iddynt gael eu hystyried i’w cynnwys fel safleoedd ar gyfer datblygu neu eu diogelu yn y Cynllun Datblygu Lleol newydd. Cyfeirir at y safleoedd hyn fel ‘Safleoedd Ymgeisiol’.
Bydd angen llenwi ffurflen ar gyfer pob Safle Ymgeisiol a gyflwynir (un safle pob ffurflen). Gellir cyflwyno safle yn electronig i devplans@pembrokeshirecoast.org.uk
eu ar bapur i’r Gwasanaeth Cyfarwyddyd y Parc yn y cyfeiriad a nodir ar y llythyr hwn.
Sylwer os gwelwch yn dda bod RHAID llenwi ffurflen ar wahân ar gyfer pob safle y dymunwch ei gyflwyno, gyflwynir. Mae’n bwysig nodi cymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl ar y ffurflenni. Er y bydd yr Awdurdod yn ystyried pa mor dderbyniol yw pob safle ar gyfer datblygu, bydd hefyd yn bwysig iawn bod y cynigydd yn dangos sut y maent yn bwriadu dod â’r safle ymlaen ar gyfer ei ddatblygu yn ystod cyfnod y Cynllun. Bydd cyflawni’r safleoedd a neilltuwyd yn cael ei archwilio drwy broses y Cynllun Datblygu Lleol o Archwilio, a gellir gofyn i’r cynigydd am ragor o dystiolaeth i ddangos pryd a sut y bydd y datblygu yn cael ei wireddu.
I gynorthwyo gyda’r gwaith o lenwi’r ffurflenni, mae Canllawiau wedi’u paratoi sy’n rhoi manylion am ble y gellir cael gwybodaeth bellach.
Bydd y safleoedd yn cael eu hasesu drwy ddefnyddio’r fethodoleg a nodir yn y Papur Cefndir i’r Cynllun Datblygu Lleol – Methodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol.
Sylwer os gwelwch yn dda y bydd angen i chi ail-gyflwyno eich safle yn Safle Ymgeisiol yn awr os yw eich safle eisoes wedi’i ddyrannu yn y Cynllun Datblygu Lleol cyfredol ond heb ei ddatblygu hyd yn hyn, os ydych yn dymuno i’r safle gael ei ystyried ar gyfer ei gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol newydd.
Bydd pob safle yn cael eu cofnodi ar Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol a gyhoeddir ochr yn ochr â Strategaeth a Ffefrir y Cynllun Datblygu Lleol Newydd fis Ebrill/Mai 2017. Bydd y Gofrestr yn rhoi manylion am yr asesiad o’r safle ac a yw’n addas i’w ddyrannu yn y Cynllun diwygiedig neu beidio.
Rhaid i’ch safle(oedd) gael eu cyflwyno erbyn 4:30pm ddydd Gwener y 25 Tachwedd 2016. Ni ellir cadw cyflwyniadau yn gyfrinachol gan y bydd y gofrestr yn ddogfen gyhoeddus.
Canllaw ar Safleoedd Ymgeisiol
NODWCH
Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau.