Strategaeth a Ffefrir

Cynllun Datblygu Lleol 2

Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.

Ar ôl paratoi Adroddiad Adolygu a Chytundeb Cyflawni yr Awdurdod, y cam nesaf yw datblygu’r Strategaeth a Ffefrir.

Mae’r ddogfen hon yn nodi’r cyfeiriad cyffredinol a gynigir ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2015-2031. Gan mai Cynllun newydd yw hwn sy’n disodli’r hen gynllun, mae’n nodi llawer o’r polisïau manwl a geir fel arfer mewn cynllun adnau.

Mae’r Strategaeth a Ffefrir a Diagram Allweddol ar gael ar gyfer ymgynghori.

Gwahoddir chi i gyflwyo eich sylwadau ar y Strategaeth ddrafft hon. Ffurflen sylwadau (gweler cwestiwn 1).

Mae crynodeb o’r strategaeth a fersiynau Hawdd ei Ddarllen ac Argraffadwy ar gael i hwyluso dealltwriaetha’r broses ymgysylltu. Rhaid i’r sylwadau a wneir, fodd bynnag, fod yn sylwadau ar y brif ddogfen.

I wneud y gwaith o baratoi’r Cynllun hwnnw mae’r Awdurdod wedi gwahodd unrhyw un sydd â budd mewn tir i gyflwyno safleoedd i’w hystyried ar gyfer eu cynnwys yn y cynllun datblygu lleol.  Yn ogystal, mae’r Awdurdod wedi ystyried a oes unrhyw safleoedd eraill allai fod yn addas ar gyfer eu datblygu.

Mae asesiad wedi’i wneud i weld pa safleoedd sy’n cyd-fynd â’r Strategaeth a Ffefrir a pha rai nad ydynt yn cyd-fynd. Gallai safleoedd nad yw’r awdurdod cynllunio lleol yn eu cynnig ar hyn o bryd gael eu cyflwyno yn nes ymlaen yn y prosesau o lunio neu archwilio’r cynllun os bydd yr angen yn codi.  Nawr yw’r amser priodol i wneud sylwadau ar unrhyw safleoedd a glustnodwyd.  (Gweler cwestiwn 2 ar y ffurflen sylwadau – dolen uchod.)

Strategaeth a Ffefrir – Cyflwyno Safle: Bydd angen i’r rhai sy’n cyflwyno newidiadau i’r cynigion ar gyfer safleoedd ymgeisiol sydd eisoes wedi’u cyflwyno (er enghraifft maint y safle) neu sy’n cynnig safleoedd newydd ar gyfer eu hystyried, lenwi ffurflen cyflwyno safle a phrofi eu safle drwy ddefnyddio’r fframwaith Arfarnu Cynaliadwyedd.

Arfarnu Cynaliadwyedd: Mae arfarniad o’r Cynllun wedi cael ei wneud i ddeall effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y cynigion a geir yn y ddau Gynllun.  (Gweler cwestiwn 3 ar y ffurflen sylwadau – dolen uchod os ydych yn dymuno gwneud sylwadau.)

Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb: Mae asesiad o effaith y Cynllun ar gydraddoldeb hefyd wedi cael ei wneud.  Mae’r gofyniad i asesu effaith yn golygu bod rhaid i’r Awdurdod ystyried tystiolaeth berthnasol er mwyn deall effaith debygol neu union effaith polisïau ac arferion ar grwpiau a warchodir.  Gweler cwestiwn pedwar ar y ffurflen sylwadau – (dolen uchod) os ydych yn dymuno gwneud sylwadau.

Sail Tystiolaeth: Mae sail y dystiolaeth a ddefnyddiwyd i ategu a chyfiawnhau’r gwaith o ddrafftio’r Cynllun yn cynnwys papurau cefndir a baratowyd gan yr Awdurdod a chyhoeddiadau gan lawer o randdeiliaid allweddol eraill.

Adroddiad Adolygu: Mae’r Adroddiad hwn yn nodi pa faterion oedd angen mynd i’r afael â hwy yn y Cynllun Newydd.  Mae materion ychwanegol hefyd wedi codi ers i’r Adroddiad Adolygu gael ei baratoi.

Sut allwch chi gymryd rhan?

Cyflwynwch eich sylwadau ar y dogfennau a gyhoeddwyd (dolenni cyswllt uchod).  Os byddwch yn cyflwyno sylwadau, bydd eich manylion yn cael eu cofnodi a byddwch yn cael gwybod am ganlyniad yr ymgynghoriad hwn ac am y camau yn y broses o baratoi’r Cynllun yn y dyfodol.

Dylid anfon sylwadau yn ysgrifenedig at Bennaeth Cyfarwyddyd y Parc, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY neu gellir e-bostio sylwadau at devplans@pembrokeshirecoast.org.uk cyn 4.30yh ar dydd Gwener, 21 Gorffennaf 2017 .

Y Camau nesaf

Noder y bydd yr Awdurdod yn ystyried yr ymatebion a dderbynnir, a bydd disgrifiad cyffredinol o’r modd y mae’r sylwadau hyn wedi effeithio ar bolisïau a chynigion y Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei fwydo yn ôl i’r ymatebwyr cyn gynted ag y bydd yn rhesymol ymarferol.

Bydd rhestr o’r sylwadau sy’n ymwneud â safle unigol neu awgrymiadau ar gyfer safleoedd newydd hefyd yn cael ei chyhoeddi.

Am y rhesymau hyn, noder os gwelwch yn dda na fydd eich sylwadau nac unrhyw wybodaeth adnabod a gynhwysir yn eich ymateb yn parhau’n gyfrinachol.

Nodwch

Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.

Mwy am Gynllun Datblygu Lleol 2