Adroddiad Ymgynghoriad – Canllawiau Cynllunio Atodol
Adroddiad Ymgynghoriad - Cynllun Datblygu Lleol 2 Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro/Cynllun Datblygu Lleol 1 Cyngor Sir Penfro
Isod, rhestrir y dogfennau canllawiau yr ymgynghorwyd yn eu cylch. Roedd un ohonynt yn ddogfen ganllawiau a luniwyd ar y cyd â Chyngor Sir Penfro.
Gymeriad y Morlun | Cyd |
Coed a Choetiroedd | Parc Cenedlaethol yn unig |
Colli Gwestai a Thai Gwestai | Parc Cenedlaethol yn unig |
Mae’r ddogfen ganllawiau ar y Cyd yn ymdrin â Sir Benfro i gyd. Mae’r gweddill yn ymdrin â Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn unig.
Dechreuodd ymgynghoriad cyhoeddus ar y canllawiau Colli Gwestai a Thai Llety ym mis Ionawr 2022 a daeth i ben ar 15 Ebrill 2022. Dechreuodd ymgynghoriad cyhoeddus ar yr Asesiad o Gymeriad Morluniau a’r canllawiau Coed a Choetiroedd ym mis Ionawr 2023 a daeth i ben ar 26 Mai 2023. Cyhoeddwyd hysbysiad ffurfiol yn y Western Telegraph a’r Pembrokeshire Herald yn hysbysebu’r ymgynghoriad, ac anfonwyd datganiad i’r wasg at bapurau lleol a gwasanaethau radio. Roedd copïau ar gael ar ein gwefannau. Roedd y cyfnod ymgynghori ar gyfer y Canllawiau Colli Gwestai a Thai Llety yn rhedeg am bedwar mis tan 4.30pm ar 15 Ebrill 2022. Cafodd nodyn i’ch atgoffa am y dyddiad cau ar gyfer sylwadau ar y ddogfen hon ei roi mewn datganiad i’r wasg ganol mis Mawrth 2022. Roedd y cyfnod ymgynghori ar gyfer gweddill y dogfennau yn rhedeg am bum mis tan 4:30pm ar 26 Mai 2023. Cafodd nodyn i’ch atgoffa am y dyddiad cau ar gyfer sylwadau ar y dogfennau hyn ei roi mewn datganiad i’r wasg ganol mis Ebrill 2023.
Roedd yr ymgyngoreion yng nghronfa ddata’r Cynllun Datblygu Lleol wedi cael neges e-bost neu lythyr am yr ymgynghoriad.
Cydnabuwyd yr holl ymatebion. Mae’r ymatebion hyn ar gael yn gyhoeddus – gweler y dolenni isod.
Adroddwyd ar ymatebion y swyddog i’r ymgynghoriad ar y Canllawiau Cynllunio Atodol i Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ei gyfarfod ar 20 Medi 2023 ac i Gyfarfod Cabinet y Cyngor Sir ar 2 Hydref 2023.
Gellir gweld adroddiad o ymatebion swyddogion i ymgynghoriad y canllawiau cynllunio atodol trwy glicio ar y ddolen ganlynol:
Cyfarfod Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a gynhaliwyd ar 20 Medi 2023
Cyfarfod Cabinet Cyngor Sir Penfro a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2023.
Cytunodd cyfarfod Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Chabinet y Cyngor Sir y dylid diwygio’r canllawiau yn unol ag argymhellion y swyddogion, a nodir yn yr adroddiad.
Roedd cyfarfod Cabinet Cyngor Sir Penfro wedi cytuno y dylid gwneud gwelliannau i’r canllawiau yn unol ag argymhellion y swyddogion a nodir yn yr adroddiad yn amodol ar fân newid i ddogfen Ardal Cymeriad Morwedd SCA 13 Penbwchdy i Benllechwen i gyfeirio at Borthgain fel ‘pot mêl’ yn hytrach na ‘phot mêl bach’.
Mae’r Canllawiau a fabwysiadwyd wedi’u lanlwytho ar wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol:
Canllawiau Cynllunio Atodol – Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro(CDL2)
Ac ar wefan y Cyngor Sir:
Canllawiau Cynllunio Atodol y Cynllun Datblygu Lleol – Cyngor Sir Penfro (Agor mewn ffenest newydd)
Related Links
Lawrlwythwch yr Adroddiad
Lawrlwythwch fersiwn PDF o'r adroddiad