Ffurflen Hysbyseb Arddangos

Hysbysebion bocs yw hysbysebion arddangos. Maent ar gael mewn lliw llawn a gallwch ddewis y maint (gwelwch y llun isod i'r ffurflen).

Gallwch hefyd weld y meintiau a’ch dewisiadau ar tudalen 4 o’r Pecyn Hysbysebu ar gyfer O Lan i Lan 2025.

Llenwch y ffurflen hon ar ôl dewis. Dylid darparu’r gwaith celf gorffenedig yn yr union faint gan gydymffurfio â’r canllawiau dylunio isod ac ar dudlaen 7 o’r Pecyn Hysbysebu. Gallwch hefyd lawrlwytho fersiwn PDF o’r ffurflen Hysbyseb Arddangos isod.

Gwaith celf ar gyfer hysbysebion arddangos

  • Dylai hysbysebwyr weithio gyda Hysbysebu O Lan i Lan ar bob cam wrth gynhyrchu gwaith celf ar gyfer hysbysebion arddangos.
  • Dylid darparu gwaith celf cyflawn i’r union faint ar gyfer ei ail gynhyrchu (gweler isod neu tudalen 4 o’r pecyn hysbysebu) ac yn cydymffurfio â’r canllawiau cynllunio. Ble nad yw hyn yn bosib, fe fydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (neu ei asiantau) yn cysodi ac yn gosod yr hysbyseb i fformat safonol am ffi ychwanegol o £45 ar ben y ffi a godir am y gofod hysbysebu. Gwaith celf safonol yw gosod testun a logo
    / delwedd a gyflenwir i greu hysbyseb ddeniadol. Os oes angen gwaith celf arbennig megis creu logo, darluniau etc, neu os oes angen ysgrifennu testun, bydd angen i ddylunydd o’ch dewis ddarparu hyn.
  • Rhaid i’r gwaith celf gyrraedd APCAP heb fod yn hwyrach na Dydd Gwener 10 Ionawr 2025. Ni dderbynnir unrhyw waith celf ar ôl y dyddiad cau.
  • Cyfrifoldeb yr hysbysebwr yw gwirio a chymeradwyo’r proflenni a ddarperir. Gwneir pob ymdrech i osgoi camgymeriadau, ond ni fydd yr Awdurdod yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriadau sy’n ymddangos.
  • Cyfyngir hysbysebwyr i uchafswm o ddau gam proflen ar gyfer gwaith celf a gynhyrchir gan APCAP. Bydd cost o £45 am unrhyw newidiadau/proflenni pellach.
  • Dylid darparu’r gwaith celf ar ffurf ffeiliau PDF neu JPEG – ni fydd unrhyw fformat arall yn dderbyniol. Cysylltwch â ni ag unrhyw ymholiadau.
  • E-bostiwch eich gwaith celf i hysbysebu@arfordirpenfro.org.uk

    Maint yr hysbyseb (prisiau yn cynnwys TAW):

    Lle Sicr (@20% yn ychwanegol)


    Yr unig ffordd i sicrhau bod eich hysbyseb yn
    mynd i'r lle rydych ei eisiau. ( (Gweler y Telerau a'r Amodau, paragraff 10 am y Lle Sicr))

    Gwasanaeth Dylunio Hysbysebion


    Os ydych eisiau cymorth i greu hysbyseb arddangos syml neu i newid hysbyseb sy'n bodoli eisoes, gall O Lan i Lan ddarparu gwasanaeth dylunio am ffi o £45. Cysylltwch â ni a rhown wybod ichi beth sydd angen ei ddarparu.

    Ailadrodd Hysbyseb

    (Ticiwch y blwch os ydych yn dymuno ailadrodd eich hysbyseb o 2024 heb ei ddiwygio)

    Achrediad

    A yw eich sefydliad wedi’i drwyddedu / dilysu gan:

    Nodiadau:
    (1) Trowch at y Telerau a'r Amodau, paragraff 13 ynglŷn â phrisiau gwaith celf a Gwaith Celf ar gyfer Hysbysebion Arddangos.
    (2) Trowch at y Telerau a'r Amodau, paragraffau 6 i 8 y ynglŷn â dilysu ac achredu darparwyr llety, canolfannau gweithgareddau, atyniadau, gweithredwyr cychod a sefydliadau marchogaeth.

    A fyddech gystal â thalu drwy BACS neu gerdyn ar ôl derbyn yr anfoneb. Bydd derbynneb TAW yn cael ei hanfon ar gais. Gellir talu â cherdyn drwy ffonio 01646 624800.

    Nodyn ynghylch sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol

    Dim ond ar gyfer prosesu hysbysebion O Lan i Lan y bydd yr Awdurdod yn defnyddio eich gwybodaeth ac ni fydd yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â neb arall.

    Pan fyddwch chi'n barod i gyflwyno'ch ffurflen, cliciwch ar y botwm isod ac arhoswch am ychydig funudau. Bydd neges yn cael ei harddangos i gadarnhau bod eich ffurflen wedi'i hanfon.


    Sylwch fod y meintiau a ddangosir isod yn ddangosol yn unig. Lawrlwythwch ac argraffwch becyn hysbysebu O Lan i Lan 2025 i weld y meintiau cywir.

    Llun o wahanol feintiau hysbysebion arddangos a phrisiau ar gyfer O Lan i Lan 2025.