Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro dirwedd ddiwylliannol arbennig o amrywiol sy’n cynnwys bryniau, dyffrynnoedd, clogwyni, traethau, afonydd a llynnoedd. Ar ben hyn, gwelir dylanwad dynol digamsyniol miloedd o flynyddoedd o ymdrechu – tir fferm, adeiladau, heolydd, cloddiau, coetiroedd, glaswelltir, gwrthgloddiau, cestyll, meini hirion – pob un yn atgof o’n diwydiant.
Yma yn Awdurdod y Parc Cenedlaethol, rydyn ni’n ceisio sicrhau bod yr hyn sy’n arbennig yn y Parc nawr yn parhau i fod yn arbennig yn y dyfodol. Mae’r Awdurdod yma i warchod tirwedd y Parc Cenedlaethol ac i helpu pobl i fynd allan i’w fwynhau.
Defnyddiwch yr adran hon o’r wefan i gael gwybod mwy am ymdrechion Awdurdod y Parc Cenedlaethol i warchod y dirwedd drawiadol hon – trwy ein gwaith ar yr arfordir ac ardaloedd mewndirol, wrth warchod adeiladau, mewn cynllunio, amaethyddiaeth, coedwigaeth a datblygu cynaliadwy.
Dan bwysau
Mae swyddogaeth ecosystemau (ar y tir ac yn y môr) wedi cael ei diraddio ac fe fydd newid yn yr hinsawdd yn gwaethygu pwyseddau sydd eisoes yn bodoli ar fywyd gwyllt, ac yn ychwanegu rhai newydd.
Mae gwarchod safleoedd bywyd gwyllt yn elfen allweddol bwysig, ond nid yw’n ddigon: rhaid adfer cysyllteddau cynefinoedd ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig.
Straeon llwyddiant wrth warchod bywyd gwyllt
Mae yna lond lle o straeon llwyddiant ynghylch gwarchod bywyd gwyllt ar safleoedd yn Sir Benfro, ond mae’r ardal wledig ehangach y ddarniog oherwydd defnydd tir, ac mae’r amgylchedd morol hefyd dan lawer o bwysau.
Ein nod yw hybu mesurau i sicrhau gwydnwch ecolegol a gwobrwyo ffermwyr am ffermio mewn ffordd sy’n sensitif i ddalgylchoedd, yn sensitif o ran carbon a hefyd yn sensitif i gysyllteddau.
Fe fyddai mesurau o’r fath yn helpu ychwanegu sicrwydd at incymau ffermydd, yn gostwng y perygl o lifogydd, yn gostwng milltiroedd bwyd, yn cyfrannu at ddiogelwch bwyd ac ynni ac yn ailgysylltu pobl a rheolaeth tir a’r bwyd y maen nhw’n ei fwyta.
Ailgysylltu â natur
Oherwydd y ffordd y mae’r byd modern yn gweithio heddiw, mae llawer o bobl wedi eu gwahanu oddi wrth fyd natur yn eu gweithgareddau bob dydd.
Ond, mae gan bobl yr un faint o angen i brofi byd natur ar adegau amrywiol yn ystod eu bywydau, fel a welir o’r nifer sylweddol o bobl sy’n ymweld â Pharciau Cenedlaethol Prydain ac ardaloedd hardd eraill o gefn gwlad.
Rydyn ni’n gobeithio bod rhoi cyfle i bobl i gael mynediad at dirwedd mor ysbrydolgar yn annog ymdeimlad o rannu’r cyfrifoldeb a balchder ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a chadwraeth a chynaliadwyedd yw’r ddau beth a fydd, gobeithio, yn sicrhau bod y dirwedd hon yma ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.