Cychwynnwyd cynllun peilot o’r enw Cysylltiadau Naturiol gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol dros 18 mis yn 2017 a 2018, er mwyn gweithio gyda busnesau twristiaeth a oedd yn berchen ar dir yn y Parc Cenedlaethol.
Roedd y prosiect , a derbyniwyd cyllid gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, yn edrych ar y cyfleoedd ar gyfer gweithio gyda’r diwydiant twristiaeth i wella eu tir ar gyfer bywyd gwyllt yn ogystal â hyrwyddo’r cyfoeth rhyfeddol o brofiadau bywyd gwyllt a gynigir gan ein Parc Cenedlaethol.
Cymerwyd rhan yn y prosiect gan saith o fusnesau yn cynnwys: Maes Gwersylla Brandy Brook, Parc Gwyliau Plas Llwyngwair, Hostel Ieuenctid Maenorbŷr, May Cottage, Gwesty Penrhiw, Castell Picton a Fferm Tyriet (Bragdy Bluestone).
Bu ecolegydd yn ymweld â phob safle i gynnal arolwg bywyd gwyllt o’u tir yn ogystal â gwneud argymhellion ynglŷn â sut i wella eu tir ar gyfer bywyd gwyllt. Derbyniodd pob busnes eu hadroddiad eu hunain ar y bywyd gwyllt ar eu heiddo ynghyd â gwybodaeth ynglŷn â lleoedd arbennig a phrofiadau bywyd gwyllt yn yr ardal leol ar gyfer eu defnydd eu hunain a hefyd er mwyn eu rhannu gyda’u hymwelwyr.
Buom yn gweithio gyda busnesau i ddod o hyd i brosiect bychan wedi’i anelu at wella neu ddehongli’r amrywiaeth o fywyd gwyllt ar eu tir. Wedyn, roedd y prosiectau hyn wedi cael eu sefydlu gyda chyllideb fechan a chefnogaeth ymarferol gan Barcmyn y Parc Cenedlaethol a’r Prosiect Llwybrau.
Cliciwch ar y ddolen i ddarllen Adroddiad Terfynol Prosiect Cysylltiadau Naturiol. Adroddiad Terfynol Prosiect Cysylltiadau Naturiol.
Castell Picton
Un mlynedd ar bymtheg yn ôl, trawsnewidiodd y garddwyr yng Nghastell Picton ran o lawntiau’r Castell o laswelltir amwynder wedi’i dorri’n isel i ddôl a oedd yn gyfoethog mewn blodau gwyllt drwy reoli dolydd gwair mewn modd traddodiadol. Roedden nhw’n cael eu gwobrwyo y llynedd gydag ymddangosiad eu tegeirian-y-gors deheuol cyntaf.
Tynnodd yr arolwg ecolegol sylw at bwysigrwydd y ddôl hon fel cynefin prin a dirywiol yn Sir Benfro. Yr her i Gastell Picton oedd integreiddio’r ddôl hon i brofiad yr ymwelwyr o’r Castell a’r gerddi. Tynnu sylw yn arbennig at y ddôl a helpu yn ogystal i egluro i ymwelwyr pam mae’r glaswellt yn cael ei adael i dyfu’n hir.
Rhoddodd Cysylltiadau Naturiol gymorth ariannol i ddylunio a phrynu panel dehongli er mwyn tynnu sylw’r ymwelwyr at y cynefin arbennig a phrin hwn.
Cliciwch ar y ddolen i ddarllen yr Adroddiad Bywyd Gwyllt Cysylltiadau Naturiol ar gyfer Castell Picton.
Bragdy Bluestone a Fferm Tyriet
Er bod dyfrgwn wedi ailymddangos yn dda iawn yn ein hafonydd, maen nhw angen llystyfiant trwchus a thomen boncyffion gerllaw er mwyn eu defnyddio fel mannau gorffwys a bridio. Mae’r mathau hyn o leoedd yn parhau i fod yn eithaf anodd dod o hyd iddyn nhw yn y dirwedd sy’n cael ei ffermio, ac felly gwnaethom gymryd y cyfle i osod gwâl newydd ar gyfer dyfrgwn wrth ochr Afon Clydach, llednant Afon Nyfer.
Bu Wardeniaid Gwirfoddol yn gosod gwâl barod wedi’i gwneud o blastig wedi’i ailgylchu a buon nhw’n bondocio rhai o’r coed cyll er mwyn ei chuddio.
Gan fod Tyriet wedi’i leoli mewn ardal yn Ngogledd Sir Benfro lle gwelir nifer fawr o bathewod, roedd yn gyfle da i osod 30 o flychau pathewod newydd yn y coetir a’r perthi o gwmpas y fferm. Treuliodd Wardeniaid Gwirfoddol hanner diwrnod yn gwneud y blychau ac yna hanner diwrnod yn eu gosod nhw ar y fferm.
Bydd gwirfoddolwyr yn archwilio’r rhain ddwywaith y flwyddyn er mwyn gweld a oes pathewod ynddyn nhw; ac os ydyn nhw’n llwyddiannus, gellir ychwanegu’r prosiect at Raglen Rhwydwaith Monitro Pathewod Genedlaethol (RhRhMP).
Cliciwch ar y ddolen i ddarllen yr Adroddiad Bywyd Gwyllt Cysylltiadau Naturiol ar gyfer Fferm Tyriet.
Maes Gwersylla Brandy Brook
Un o’r nodweddion naturiol allweddol ym maes gwersylla Brandy Brook yw’r digonedd o goed aeddfed a hynod. Mae’r coed hyn i gyd o oed tebyg ac roedd perchennog y gwersyll yn awyddus i blannu coed a fyddai’n cysgodi’r genhedlaeth nesaf o wersyllwyr.
Nid yw coed mewn caeau mor gyffredin ag y roedden nhw arfer bod, oherwydd eu bod yn llai cydnaws ag amaethu dwys modern; mae coed sydd newydd gael eu plannu mewn caeau yn brin iawn yn wir, ac felly’r oedd hyn yn gyfle gwych.
Talodd y prosiect am saith o goed safonol (dwy neu dair oed) ynghyd â rhwystrau i ddarparu diogelwch rhag defaid pan mae’r caeau yn cael eu pori yn ystod y gaeaf. Plannwyd y coed gan Barcmon Ardal y Gogledd Orllewin, Ian Meopham a gwirfoddolwyr o Ysgol Portfield.
Plannwyd rhai o’r perthi ar y gwersyll oddeutu 10-15 mlynedd yn ôl, sy’n golygu eu bod yn ddelfrydol ar gyfer eu plygu. Mae plygu perthi yn ffordd draddodiadol o reoli perthi sy’n anelu at wneud perthi yn dew yn y gwaelod, er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel rhag da byw – sydd hefyd, gyda llaw, yn eu gwneud nhw’n well ar gyfer bywyd gwyllt. Gwnaethom ddewis perth a oedd ar hyd llwybr cyhoeddus sy’n rhedeg drwy’r maes gwersylla er mwyn i Tom Iggleden a’r gwirfoddolwyr o brosiect Llwybrau ymdrin â’r berth.
Roedd y grŵp yn ddiolchgar i arbenigwr plygu perthi lleol, Gareth Evans, a roddodd o’i amser i ddangos arddull newydd o blygu perthi er mwyn ychwanegu at eu doniau. Mae sawl peth arall angen eu rheoli yn y maes gwersylla a gobeithiwn ymdrin â’r rhain yn y dyfodol.
Cliciwch ar y ddolen i ddarllen yr Adroddiad Bywyd Gwyllt Cysylltiadau Naturiol ar gyfer Maes Gwersylla Brandy Brook.
Hostel Ieuenctid Maenorbŷr
Gwnaethom roi cefnogaeth i Hostel Ieuenctid Maenorbŷr i osod 20 o flychau adar yn y llain gysgodol o gwmpas eu safle. Plannwyd y llain gysgodol oddeutu 20 mlynedd yn ôl gyda chymorth gan wirfoddolwyr y Parc Cenedlaethol. Mae’r coed wedi dod ymlaen yn eithaf da, o ystyried y lleoliad agored, ond maen nhw’n parhau yn ifanc iawn ac nid oes ganddyn nhw’r nodweddion fel tyllau pydredd ar gyfer adar sy’n nythu.
Cliciwch ar y ddolen i ddarllen yr Adroddiad Bywyd Gwyllt Cysylltiadau Naturiol ar gyfer Hostel Ieuenctid Maenorbŷr.
Parc Gwyliau Maenordy Llwyngwair
Derbyniodd rheolwr y maes gwersylla hyfforddiant i’w galluogi hi i gynnal sesiynau chwilota mewn afonydd a phyllau er mwyn dangos y cynefinoedd gwlyptir yn y maes gwersylla i’r ymwelwyr. Roedd y prosiect yn helpu drwy brynu’r cyfarpar angenrheidiol i’w galluogi hi i gynnig tri sesiwn drwy’r haf a oedd yn boblogaidd gydag ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd. Hysbysebwyd y sesiynau ar Facebook ac roedden nhw yn llawn bron yn syth.
Ar ochr arall i’r afon, ceir dôl ar y maes gwersylla sy’n cael ei defnyddio ar gyfer adloniant anffurfiol gan y gwersyllwyr. Mae gan yr ardal hon botensial anferth ar gyfer datblygu bywyd gwyllt ac adloniant, yn ogystal â hyrwyddo addysg amgylcheddol ynglŷn â chynefinoedd glaswelltir.
Un o’r prif broblemau ar y ddôl hon yw presenoldeb rhywogaethau estron goresgynnol (RhEG), sef y ffromlys chwarennog a chlymog Japan. Mae’r maes gwersylla wedi bod yn rheoli’r ffromlys chwarennog drwy dorri’r ddôl yn rheolaidd. Fodd bynnag, mae’n parhau i oroesi mewn lleoedd sy’n anodd cael atyn nhw yn y coetir ac ar hyd glannau’r afon.
Talodd y prosiect am drin y clymog Japan a bu Carol Owen, Parcmon Ardal y Gogledd a’i grŵp o wirfoddolwyr o’r Cwrs Paratoi ar gyfer y Fyddin o Goleg Sir Benfro, yn rhoi ychydig o help iddyn nhw gyda’r dasg o reoli’r ffromlys.
Cliciwch ar y ddolen i ddarllen yr Adroddiad Bywyd Gwyllt Cysylltiadau Naturiol ar gyfer Parc Gwyliau Maenordy Llwyngwair
Gwesty Penrhiw
Yng Ngwesty Penrhiw yn Nhyddewi, gwnaethom ddarparu cyllid ar gyfer prynu hadau cribellau melyn a gafwyd yn lleol er mwyn gwella’r ddôl wair y maen nhw’n ei rheoli gerllaw’r gwesty. Er bod y ddôl wedi gwneud cynnydd da iawn ac eisoes yn gartref i amrywiaeth o rywogaethau o blanhigion, mae yno lawer o laswellt o’i gymharu â blodau.
Mae cribellau melyn yn barasitig ar laswellt, a bydd yn helpu i leihau eu grym a gwella’r nifer o flodau gwyllt sydd yn y ddôl. Bydd y ddôl ar agor i‘r cyhoedd fel rhan o Lwybr Peillwyr Penrhyn Tyddewi.
Mae hen frochfa moch daear ym Mhenrhiw, a gofnodwyd yn y lle cyntaf yn y 1700au. Mae annog mynediad i weld moch daear yn dod â’r perygl o darfu, ac felly prynwyd camera llwybr i alluogi staff y tir i geisio cael lluniau o’r moch daear a ellir eu rhannu gyda gwesteion ac ar eu Tudalen Facebook.
Cliciwch ar y ddolen i ddarllen yr Adroddiad Bywyd Gwyllt Cysylltiadau Naturiol ar gyfer Gwesty Penrhiw.