Mae iechyd ein bywyd gwyllt yn bryder sylweddol, nid dim ond am ei fod yn ennyn diddordeb ac yn creu amgylchedd naturiol gwych i fyw ynddo, ond am ein bod ni’n dibynnu arno!
Mae safleoedd gwarchodedig fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig neu Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn hynod o bwysig fel y ‘goleuadau peilot’ a allai ailgynnau iechyd bioamrywiaeth yn yr ardaloedd ehangach a’r amgylchedd morol. Ond, nid yw’r safleoedd hyn yn gallu bodoli ar eu pennau eu hunain. Maen nhw’n dibynnu ar allu’r ardaloedd gwledig ehangach i alluogi bywyd gwyllt i symud o amgylch ardaloedd newydd a’u poblogi.
Mae Sir Benfro, a’r dyfroedd gerllaw, yn cael sylw mewn Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol. Mae’r Cynllun hwn yn nodi cynefinoedd a rhywogaethau sydd o bwysigrwydd lleol, cenedlaethol neu ryngwladol ac mae’n nodi’r mesurau cadwraeth sydd eu hangen ar lawer ohonyn nhw.
Mewn arolwg o gynefinoedd a rhywogaethau yn y Cyflwr Bywyd Gwyllt 2016, daethpwyd i’r casgliad fod:
- 22% yn gwella
- 35% yn sefydlog
- 30% yn dirywio
- 13% nad oes digon o ddata i asesu tueddiadau.
Felly, beth mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ei wneud i geisio rhoi sylw i’r materion? Dewch i ddarganfod mwy am ein prosiectau gwarchod natur!
Partneriaeth Natur Sir Benfro
Mae Partneriaeth Natur Sir Benfro’n bodoli i wneud y canlynol:
Cydgysylltu, hyrwyddo a chofnodi gweithrediadau presennol a newydd i warchod, hybu a chyfoethogi natur yn Sir Benfro, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, dyfroedd y glannau a gwely’r môr o gwmpas arfordir Sir Benfro hyd at 12 milltir allan, gan ystyried blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.
I wirfoddoli mewn cadwraeth natur, i gael cyngor ar reoli eich tir er mwyn bywyd gwyllt, neu i gael unrhyw wybodaeth ychwanegol, cofiwch gysylltu â Ant Rogers,
Swyddog Gweithredu Bioamrywiaeth ar 01437 764551 neu biodiversity@pembrokeshire.gov.uk, fel arall, ewch i wefan Cyngor Sir Penfro.