Mae coetiroedd yn adnodd ecolegol pwysig sy’n darparu cynefinoedd allweddol yn ein hamgylchedd bregus. Maen nhw’n ddalfa garbon ar adeg pan fo ein planed dan fygythiad cynyddol gan gynhesu byd-eang. Maen nhw’n cefnogi amrywiaeth eang o rywogaethau sy’n dibynnu ar gyflwr amgylcheddol da'r cynefinoedd hyn.
Yn anffodus, oherwydd nifer o ffactorau dros nifer o flynyddoedd, mae cyfran fawr o’n hadnoddau coetiroedd dan fygythiad ac ar drai. Mae angen i ni wella’r cynefinoedd pwysig hyn i ddiogelu’r rhywogaethau allweddol hyn.
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn berchen ac yn rheoli dros 250 hectar o goetir.
Mae coetiroedd yn gefnlen wych i nifer o ardaloedd yn Sir Benfro, ac fe ddylid ystyried eu bod mor bwysig â’n harfordir rhagorol. Mae yna alw am fynediad a hamdden yng nghefn gwlad. Mae coetiroedd yn darparu cyfleoedd gwych i fwynhau gweithgareddau hamdden sydd o fudd i iechyd a lles pobl, ac i ddod i werthfawrogi ein hamgylchedd arbennig ein hunain yn well. Mae addysg yn mynd yn ôl i’r coed wrth i nifer o Ysgolion Coedwig gael eu sefydlu yn ein sir.
Clefydau Coed
Ers 2009, mae dau glefyd coed difrifol ar goed llarwydd ac ynn wedi bod yn effeithio ar safleoedd yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Mae’n wir fod gan goed llarwydd ganlyniadau economaidd i dyfwyr pren, ond mae’r onnen yn goeden frodorol bwysig ac mae yna wir berygl y gallai ddiflannu o’n hardaloedd gwledig, fel a ddigwyddodd yn y 1970au gyda chlefyd llwyfen yr Iseldiroedd.
Mae chalara fraxinea, neu fel y caiff ei adnabod yn fwy cyffredin, clefyd coed ynn, yn glefyd ffwngaidd sy’n benodol i goed ynn. Caiff ei wasgaru wrth i’r gwynt gario’r sborau ac mae eisoes wedi diffeithio coed yn Nenmarc a thu hwnt ar y cyfandir.
Yn 2012, cadarnhawyd clefyd coed ynn ar safleoedd wedi eu plannu yn y Deyrnas Unedig, ble mewnforiwyd coed o ardaloedd wedi eu heintio yn Ewrop, ac mae eisoes wedi lledaenu i’r amgylchedd ehangach mewn ambell leoliad, gan gynnwys un yng Nglan-y-fferi yng Nghymru.
Y gobaith yw y bydd darganfod y clefyd yn gynnar, a chael gwared ar goed ifainc sydd wedi eu heintio, yn gallu arafu colled y coed ynn a’r coetir sydd gymaint ag 14% o’n hadnodd coetir yng Nghymru, ac efallai’n fwy, hyd yn oed, yn Sir Benfro. Mae yna obaith hefyd y gallai rhai coed fod yn gallu gwrthsefyll y clefyd yn well.
Mae phytophthora ramorum yn glefyd ffwngaidd arall a ledaenir gan ddŵr ac yn yr aer, ac mae’n gallu effeithio ar amrywiaeth o blanhigion. Y prif blanhigion sy’n ei gynnal yw’r rhododendron a’r llarwydden ond mae hefyd yn medru ymosod ar fathau eraill o goed yn ogystal â phlanhigion yr ardd, fel y wifwrnwydden a’r magnolia, a phlanhigion y gweundir, fel llus.
Cafodd ei adnabod am y tro cyntaf yng Nghymru yn 2009 ac roedd wedi effeithio ar ardaloedd helaeth o larwydd yn Ne a Gorllewin Cymru. Cwympodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro tua 400 o goed llarwydd heintiedig ym mis Mehefin 2013.
Beth allwch chi ei wneud i helpu?
1. Dilynwch fesurau bioddiogelwch syml
Os ydych yn byw mewn ardal ble cadarnhawyd clefyd coed, neu’n ymweld ag ardal o’r fath, fe fydd dilyn mesurau bioddiogelwch syml fel y rheiny a nodwyd isod yn helpu cyfyngu ar ledaeniad.
- Parchwch arwyddion ‘ar gau’ – efallai y bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cau llwybrau o amgylch safleoedd sydd wedi eu heintio, er mwyn cyfyngu ar y nifer o bobl sy’n cerdded trwy’r ardal heintiedig.
- Esgidiau a dillad glân – brwsiwch y mwd a’r gweddillion oddi arnynt.
- Gadewch unrhyw ddefnyddiau planhigion ar y safle – fe fydd hyn yn helpu cyfyngu ar ledaeniad.
- Sicrhewch fod cŵn yn cael eu glanhau ar ôl eu cerdded – fe fydd hyn yn helpu cyfyngu ar ledaeniad y sborau.
2. Riportiwch unrhyw achosion o goed wedi eu heintio yr ydych yn eu gweld
Gwelir y symptomau yn y fideos yn y dolenni isod.
Os ydych yn poeni am goed yr ydych wedi eu gweld, gallwch riportio’ch darganfyddiadau (nodwch y lleoliadau a chymerwch ffotograffau) gan ddefnyddio’r dolenni canlynol: