Yn aml, mae'n hanfodol ein bod ni’n pori ein cynefinoedd lled-naturiol i’w cadw nhw mewn cyflwr da. Ar lawer o safleoedd yr ydyn ni’n eu rheoli, nid oedd yr anifeiliaid priodol ar gael bob tro i wneud y gwaith.
Roedd hon yn broblem gyffredin, ac felly fe ymatebodd y Parc Cenedlaethol drwy sbarduno Rhwydwaith Pori Sir Benfro, a’i gydlynu. Nawr, mae’n un o’r prosiectau o’i fath sydd wedi bod yn rhedeg hiraf yng Nghymru.
Y nod yw hwyluso pori er mwyn gwarchod natur, trwy sefydlu system ble mae safleoedd neu stoc sydd ar gael a safleoedd neu’r stoc sydd eu hangen, yn gallu cael eu cyfateb ble’n bosib. Felly, gellir cydlynu ymdrechion mudiadau cadwraeth a’r gymuned ffermio, a’u hintegreiddio, fel bod modd rhannu stoc, safleoedd, offer ac arbenigedd ers lles pawb.
Merlod mynydd Cymreig
Mae llawer o gynefinoedd angen pori er mwyn iddyn nhw fod mewn cyflwr da ar gyfer eu bywyd gwyllt. Ond, mae’r dirywiad mewn pori traddodiadol wedi arwain at ordyfiant eithin, rhedyn a mieri mewn llawer o gynefinoedd, ac efallai y byddwch wedi gorfod ymladd eich ffordd trwyddo ar Lwybr yr Arfordir.
Mae merlod yn arbennig o dda ar gyfer pori arfordirol, ac rydyn ni’n credu eu bod yn ei fwynhau!
Rydyn ni’n gweithio’n agos iawn gyda phartneriaid a pherchnogion tir i sicrhau na fydd problemau potensial yn codi gyda da byw ar yr arfordir a cherddwyr.