Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 sy’n ymdrin â Rhywogaethau Estron Goresgynnol, a restrir yn Atodlen 9, o dan Adran 14. Mae’n drosedd plannu neu ganiatáu i rywogaethau sydd wedi’u rhestru yn Atodlen 9 dyfu/dianc i’r gwyllt.
Golyga hyn y gall camau bwriadol sy’n achosi i Rywogaethau Estron Goresgynnol ledaenu ee strimio, gwaredu deunydd wedi’i halogi, neu ryddhau rhywogaeth, fod yn drosedd. Nid yw cael rhywogaeth sydd wedi’i rhestru ar eich tir yn drosedd. Gall fod yn drosedd camreoli planhigyn neu anifail sydd wedi’i restru, a fyddai’n arwain at ei ryddhau neu ato’n dianc.
Mae pump o Rywogaethau Estron Goresgynnol sydd wedi’u gwahardd rhag cael eu gwerthu: cyfrdwy (Azolla filiculoides), pluen parot (myriophyllum aquaticum), dail-ceiniog arnofiol (hydrocotyle ranunculoides), gwernydd Awstralia/corchwyn Seland Newydd (crassula helmsii), a briallu’r dŵr (ludwigia grandiflora).
Cyfrifoldeb y Tirfeddiannwr
Y tirfeddiannwr sy’n gyfrifol am reoli Rhywogaethau Estron Goresgynnol. Nid yw’n drosedd cael Rhywogaethau Estron Goresgynnol ar eich tir, ond mae’n bosib y bydd trosedd wedi’i chyflawni os bydd rhywogaeth sydd wedi’i rhestru’n dianc neu’n cael ei rhyddhau i’r gwyllt o ganlyniad i gamreolaeth.