Mae'r prosiect Pwyth mewn Pryd yn targedu rhywogaethau estron goresgynnol (INNS), sef clymog Japan, Jac y Neidiwr a rhododendron, y gwyddom eu bod yn bresennol yng Nghwm Gwaun.
Mae rhywogaethau estron goresgynnol yn drech na rhywogaethau brodorol y DU; ac maent yn newid ecosystemau’n ffisegol ac yn gwneud difrod i eiddo. Gall rhai ohonynt, fel yr efwr enfawr, fod yn hynod niweidiol i iechyd pobl.
Nod canolog y prosiect Pwyth mewn Pryd yw cynyddu ymwybyddiaeth ymysg sefydliadau, unigolion, cymunedau a thirfeddianwyr ynglŷn â RhAGau a datblygu capasiti mewn cymunedau lleol i’w monitro a’u rheoli nhw ynghyd ag unrhyw ail bla.
Anaml iawn y bydd trin y rhywogaethau hyn yn dameidiog yn llwyddo i fynd i’r afael â ffynonellau’r haint, sy’n awgrymu y bydd angen parhau i drin y broblem am gyfnod amhenodol.
Nid yw’r driniaeth yn rhad – dywedir bod cost rheoli rhywogaethau estron goresgynnol yn £1.7 biliwn y flwyddyn yn y DU – felly mae atal y broblem yn haws na’i datrys.
Gan fod llawer o rywogaethau goresgynnol yn lledaenu ar hyd cyrsiau dŵr, mae’n ymddangos y byddai’n gost-effeithiol rheoli, ac yna amddiffyn, y dalgylch cyfan mewn ffordd gydgysylltiedig.
Mae’r prosiect Pwyth mewn Pryd wedi bod yn gweithio fel cynllun peilot yn nalgylch Cwm Gwaun ers 2015 ac yn ardaloedd strategol dalgylch Clydach yn ystod 2017.
Yn ogystal, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi bod yn canolbwyntio ymdrech strategol yn nalgylch Porthgain ar bwys Cwm Gwaun.
Mae cefnogaeth gan dirfeddianwyr a’r gymuned yn allweddol tuag at lwyddiant y prosiect ar lawr gwlad yn ogystal ag arbenigedd contractwyr lleol.
Pwyth Cynaliadwy mewn Pryd (2019-2022)
Mae cam newydd o’r prosiect ar y gweill. Mae Pwyth Cynaliadwy mewn Pryd yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru, sef Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles yng Nghymru, gyda chymorth gan Dŵr Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Bydd y prosiect hwn yn parhau er mwyn profi’r dull ar sail y dalgylch i reoli RhAGau mewn dwy ardal newydd: dalgylch Cors Castellmartin ac ardaloedd ehangach yn nalgylch Clydach. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar reoli Ffromlys Chwarennog a Chlymog Japan, gyda chymorth gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Mapiau dalgylch
Cliciwch y delweddau i weld fersiynau mawr o’r mapiau dalgylch.
Y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r prosiect
Bydd y prosiect yn newid o reolaeth dwysedd uchel yn nalgylch Cwm Gwaun a Phorthgain at strategaeth fonitro a chynnal er mwyn adlewyrchu’r llwyddiant yn y dalgylchoedd hyn tra’n sicrhau hefyd y bydd angen llai o adnoddau i gynnal yr ardaloedd hyn lle mae’r RhAGau bron iawn wedi cael eu dileu.
Bydd yr hyn a ddysgir o’r prosiect hwn yn cynorthwyo prosiectau ehangach yng Nghymru a’r DU i ddatblygu model cynaliadwy er mwyn cynyddu hyder mewn buddsoddiad wrth reoli RhAGau ar raddfa’r dalgylch. Yn ogystal, bydd y prosiect yn dechrau grŵp RhAGau cydweithredol yn Ne-orllewin Cymru yn ogystal â chynhyrchu pecyn cymorth ymarferol ar gyfer dull y dalgylch er mwyn rheoli’r RhAGau a dargedir.
Mae’r mapiau isod yn dangos lle gwelir pla o Ffromlys Chwarennog wrth ymyl dŵr (a welir mewn pinc) a geir yn nalgylch Cwm Gwaun ac ardaloedd lle na chofnodwyd unrhyw Ffromlys Chwarennog hyd yma (a welir mewn gwyrdd) yn 2015 ac isod yn 2019.
Map yn dangos pla Jac y neidiwr yng Nghwm Gwaun (2015)
Mae Ffromlys Chwarennog yn lledaenu wrth ymyl dŵr lle mae’n cytrefu ar lannau aberoedd, ffosydd, nentydd a phrif afonydd. Mae’n ymestyn ymhellach i mewn i’r tir i gynefinoedd cyfagos, fel glaswelltir corsiog, coetiroedd a chloddiau, gan greu ardaloedd o bla a ellir fod yn rhai mawr a lle mae’r ungnwd hwn yn goruchafu.
Mae cyfanswm o 8.5 hectar o dir yn nalgylch Cwm Gwaun yn cael ei effeithio gan y planhigyn goresgynnol blynyddol hwn, sy’n amrywio o gannoedd at filoedd o goesynnau.
Mae map 2019 a welir isod yn dangos statws pla’r Ffromlys Chwarennog yn Nalgylch Cwm Gwaun yn 2019, lle mae 80% o saith hectar o dir yn gysylltiedig â’r dalgylch wedi cael ei reoli yn effeithiol gan staff, contractwyr a gwirfoddolwyr a oedd yn defnyddio’r dulliau ymarfer gorau ac mae’n cael ei ddosbarthu fel ‘bron wedi’i ddileu’.
Map yn dangos pla Jac y neidiwr yng Nghwm Gwaun (2019)
Mae’r ardaloedd hyn yn awr yn symud i’r cam monitro a chynnal a chadw, lle mae angen llawer llai o amser ac arian er mwyn sicrhau bod buddsoddiad y prosiect yn cael ei warchod.
Buddsoddi yn awr ar gyfer gwydnwch yn y dyfodol – ‘pwyth mewn pryd’ go iawn
Y brif wers a ddysgwyd yn ystod y gwaith a gwblhawyd gan y prosiect hyd yma, yw mai drwy ddarparu strategaeth reoli drylwyr ac ymrwymedig a mabwysiadu ymarfer gorau a bioddiogelwch, gellir lleihau’r Ffromlys Chwarennog yn sylweddol ar draws tirwedd y dalgylch o fewn 2-4 blynedd.
Gall weddnewid y safle yn weledol mewn un tymor/12mis, cyn belled â bod dull y dalgylch yn cael ei ddefnyddio. Mae hyn angen buddsoddiad o ran amser ac adnoddau, er enghraifft, talu i gontractwyr ac annog gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol. Fodd bynnag, bydd buddsoddi yn awr yn cynyddu gwydnwch y cynefinoedd a’r dirwedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Ymgysylltiad y tu allan i ddalgylchoedd presennol y prosiect
Bydd Cydlynydd y Prosiect Pwyth mewn Pryd yn darparu cyngor y tu allan i ddalgylchoedd y prosiect, ond mae trafodaeth, cydweithrediad ac ymrwymiad yn allweddol ar gyfer yr holl bartïon sydd ynghlwm â phroblemau RhAGau. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn awyddus i glywed gan grwpiau cymunedol a thirfeddianwyr sydd â diddordeb yn y maes lle gellir cyflawni dull cydweithredol a chydlynol.
Mae hyn wedi arwain at gynnwys ardaloedd strategol o ddalgylch Trewyddel, lle gallai rheolaeth mewn tarddleoedd arwain at gynnwys y pla mawr ar y llechwedd arfordirol, gan dderbyn cymorth ariannol gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Phartneriaeth Natur Sir Benfro.
Cofnodion
Mae Pwyth mewn Pryd yn croesawu cofnodion RhAGau ar draws Sir Benfro a gellir cyflwyno’r rhain yn uniongyrchol i gydlynydd y prosiect, Matthew Tebbutt, yn ogystal â cheisiadau am gyngor neu syniadau am brosiectau yn y dyfodol. Gellir cyflwyno cofnodion hefyd drwy’r ganolfan gofnodion leol, sef canolfan wybodaeth Cofnodion Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru (CWBGC) (agor mewn ffenest newydd).
Lawrlwythwch ddogfennau INNS
Jac y neidiwr
Beth yw’r broblem a sut i ymdrin â hi?
Adroddiad Diwedd Prosiect Pwyth Mewn Pryd
Awst 2016