Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro (PODS)

Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn bartner yn Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro (PODS).

Nod Ysgol Awyr Agored Sir Benfro yw annog plant i ymgysylltu’n llawn â’u hamgylchedd lleol, a bod yn gwbl hyderus yn yr amgylchedd hwnnw.

Drwy ymweliadau rheolaidd â’u mannau awyr agored lleol, mae’r plant yn datblygu ymdeimlad cryf o lesiant ac yn mwynhau gweithgarwch corfforol.

Pembrokeshire Outdoor Schools logo

Wedi ei ddatblygu o Gymuned Ddysgu Broffesiynol yn 2010, mae PODS wedi tyfu i fod yn bartneriaeth ddeinamig, gan ddod â phrofiad ac arbenigedd ynghyd o amrywiaeth eang o blith sefydliadau arbenigol, penaethiaid ac ymgynghorwyr Awdurdodau Lleol.

Ymunwch â PODS a’u partneriaid ar gyfer Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru

Mae Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro (PODS) wedi ymuno â phartneriaid ledled y sir i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru rhwng 19 a 26 Ebrill.

Gyda fideos, sesiynau ac adnoddau ar amrywiaeth o bynciau o hadau i adnabod rhywogaethau i fwystfilod bach, gwenyn a choed, bydd digon i helpu plant i ymwneud â’r awyr agored.

Bydd adnoddau’n cael eu darparu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cyngor Sir Penfro, Canolfan Darwin, Tir Coed a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Bydd yr holl adnoddau nad oes angen eu harchebu yn cael eu rhoi ar Facebook Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro and Twitter Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro channels. Am ragor o wybodaeth anfonwch e-bost at bryonyr@pembrokeshirecoast.org.uk.

Amserlen Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Ysgolion Sir Benfro:

Dydd Llun 19 Ebrill

Arwyddion o’r gwanwyn
Fideo yn dangos arwyddion cyntaf y gwanwyn ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro gan Barcmon Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Victoria Sewell. Gydag adnoddau cysylltiedig.

Plannu hadau
Fideo ar sut i dyfu llysiau mewn gofod bach gan Bryony Rees, cydlynydd Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro.

 

Dydd Mawrth 20 Ebrill

Gwyddoniaeth y gwanwyn
9.30am-10.15am – anfonwch e-bost at
darwin@darwincentre.com i archebu lle
Sesiwn rithwir fyw ar Wyddoniaeth y Gwanwyn gyda Chanolfan Darwin.

Bwystfilod bach yr ardd
1.30pm-2.15pm – anfonwch e-bost at
darwin@darwincentre.com i archebu lle
Sesiwn rithwir fyw ar y creaduriaid gwych y gallech ddod o hyd iddynt yn eich gardd neu ar dir eich ysgol gyda Chanolfan Darwin.

 

Dydd Mercher 21 Ebrill

Blodau
Fideo ar sut gallwch chi adnabod blodau gan Tom Bean, Swyddog Addysg Awdurdod y Parc Cenedlaethol, gydag adnoddau ategol.

Gwneud tŷ gwenyn unigol eich hun
Fideo gan Barcmon Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Vicky Sewell, ar sut i wneud tŷ gwenyn unigol o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu.

 

Dydd Iau 22 Ebrill

Coed Campus
Fideo a gweithgareddau i ddysgu am goed gan yr elusen coetiroedd Tir Coed.

Draenogiaid
1.30pm-2.15pm – anfonwch e-bost at
darwin@darwincentre.com i archebu lle
Sesiwn rithwir fyw gydag Ysbyty’r Draenogiaid a Chanolfan Darwin.

 

Dydd Gwener, 23 Ebrill

Gemau awyr agored
Fideos o amrywiaeth o gemau awyr agored gan Chwaraeon Sir Benfro.

Dyddlyfr dysgu yn yr awyr agored
Lluniwch bapur neu ddyddlyfr ar-lein o beth rydych wedi’i ddysgu’r wythnos hon.