Dewch i gerdded Llwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ei gyfanrwydd, yn eich pwysau ac yn eich amser eich hun, ac yna gallwch hawlio tystysgrif am ddim.
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol, sy’n cynnal y Llwybr 186 milltir (gyda chyllid gan Cyfoeth Naturiol Cymru) yn cynnig tystysgrif am ddim i unrhyw un sydd wedi cerdded y 186 milltir yn eu cyfanrwydd – waeth pa mor hir mae’n ei gymryd.
I lenwi ffurflen i hawlio eich tystysgrif, lawrlwythwch y daflen hon: Cymerwch Her Llwybr yr Arfordir.