Dyma adran arw a charegog iawn ac unwaith yr ydych chi wedi ymadael â phentref Angle mae wedi'i rheoli'n fwriadol er mwyn cynnal profiad 'anghysbell a heriol'. Mae'r adran gyfan hon yn arfordirol - dim heolydd, dim tai, ychydig o sticlau a dim amwynderau o gwbl. Prin y bydd y ffôn symudol yn gweithio yma chwaith!
1. Pentref Angle i Flocws y Dwyrain 4.3 Milltir (6.44km)
Adrannau o drac garreg rhwng Angle a thafarn y Point House Inn, ac yng Ngorllewin Angle. Fel arall, llwybrau ar ymyl caeau a thrwy goetiroedd, weithiau gyda defaid. Adran ddelfrydol ar gyfer y cerddwr sy’n methu â cherdded cymaint, gyda graddiannau ysgafn a dim grisiau na sticlau. 17 giât wiced.
Cymeriad y daith: Dim rhwystrau gwneuthuredig i gadeiriau olwyn, mae cyflwr y ddaear yn amrywio..
Cyflesterau
Pentref Angle (Cyfeirnod Grid: SM86570291)
Tafarn yr Hiberia, siop a swyddfa’r post.
Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Safle Bysiau Angle (Cyfeirnod Grid: SM86570291)
Safle bysiau (Gwibfws yr Arfordir – siwrnai ddychwelyd dair gwaith y dydd – Penfro – Freshwater East – Bosherston – Angle – Penfro).
Gwybodaeth
Pentref Angle (Cyfeirnod Grid: SM86570291)
Mae Angle yn bentref bach prydferth sydd â chyfuniad o dai modern a bythynnod traddodiadol. Mae ffiniau’r cae ar y naill ochr i’r pentref a’r llall yn olion systemau cae canoloesol. Mae yma nifer o adeiladau hanesyddol gan gynnwys yr eglwys, capel y pysgotwyr, colomendy a thŷ tŵr canoloesol anarferol iawn.
Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Parcio ym Mhentref Angle (Cyfeirnod Grid: SM86690293)
Nid oes unrhyw fannau parcio ffurfiol ym Mhentref Angle, os ydych yn parcio ger y bont ar ben pellaf Point Lane sydd agosaf at y pentref – gofalwch rhag y llanwau uchel!
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Cadeiriau Olwyn Old Point House (Cyfeirnod Grid: SM86570293)
Angle i Old Point House (tafarn), SM866028 i 873031. Graddiannau o fewn safon Fieldfare ond gall fod tyllau yn yr arwyneb ac mae’n gallu bod yn arw mewn mannau ac o dan y dŵr yn ystod llanwau’r gwanwyn. Trac o garreg, heb gael ei gynnal ar gyfer cadeiriau, graddiannau croes cymedrol mewn mannau, efallai y bydd fwyaf addas i gadeiriau traws gwlad. Weithiau, mae pysgotwyr a thrigolion yn defnyddio’r trac ar gyfer cerbydau modur, mynediad at orsaf y bad achub a’r dafarn. Toiledau yn Freshwater West (nid yw gerllaw). 0.75 km.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr y Pentref a’r Cae (Cyfeirnod Grid: SM86720297)
Mae lôn llwybr troed yn ymuno o Bentref Angle ac yna’n rhedeg yn baralel i Lwybr yr Arfordir am ychydig gannoedd o fetrau. Mae hyn yn darparu llwybr rhannol yn lle Llwybr yr Arfordir pan fydd y llanw’n uchel, gan fod gorlif yn Point Lane adeg y llanwau uwch. 4 sticil, 14 o risiau.
Cyflesterau
Tafarn yr Old Point House (Cyfeirnod Grid: SM87340313)
Wedi cau (Ionawr 2020).
Gwybodaeth
Caer Bae’r Capel (Cyfeirnod Grid: SM85880362)
Mae Llwybr yr Arfordir yn pasio heibio i Gaer Bae’r Capel, un o’r Amddiffynfeydd Fictoraidd, ar yr ochr sydd agosaf at y tir. Mae Caer Bae’r Capel yn strwythur helaeth, sydd wedi’i guddio gan goetir a phrysg, ond gochelwch rhag grwydro yn y goedwig oherwydd mae yna ffosydd dwfn, sydyn. Roedd yn gartref i ddryll pwerus yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd, a gallai danio ymhell allan i’r môr. Erbyn hyn, mae’n gartref i amgueddfa arfau breifat.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Troed Bae’r Capel (Cyfeirnod Grid: SM85940355)
Mae llwybr troed (trac mynediad) yn ymuno yma, cyswllt at isffordd, mae’n cynnig teithiau cylch byr, ar yr heol yn rhannol, o amgylch Angle neu Orllewin Bae Angle. Dim parcio.
Gwerth Edrych
Ynys Thorn (Cyfeirnod Grid: SM84620382)
Un o sawl caer a adeiladwyd ar hyd yr Aber yn y 1850au – 1860au, pan yr oedd Prydain yn ofni goresgyniad gan Ffrainc o dan Napoleon III. Roedden nhw wedi eu lleoli fel eu bod yn gwarchod ei gilydd, gan danio’n barhaus at gychod y gelyn.
Rhybudd
Clogwyni i West Pill (Cyfeirnod Grid: SM85140342)
Ymylon y clogwyni heb eu gwarchod ac yn erydu. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Adrannau byr o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.
Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Gorllewin Bae Angle (Cyfeirnod Grid: SM85390318)
Safle bysiau (Gwibfws yr Arfordir – siwrnai ddychwelyd dair gwaith y dydd – Penfro – Freshwater East – Bosherston – Angle – Penfro). Maes parcio mawr, rhad ac am ddim y Parc Cenedlaethol a thoiledau.
Traeth
Bae Gorllewin Angle (Cyfeirnod Grid: SM85250314)
Traeth tywodlyd canolig ag ysgafellau graddol.
Cyflesterau
Caffi Bae Gorllewin Angle (Cyfeirnod Grid: SM85390318)
Caffi tymhorol.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Cadeiriau Olwyn Bae Gorllewin Angle (Cyfeirnod Grid: SM85390318)
Maes Parcio Gorllewin Bae Angle tuag at Ynys Thorn. Llwybr sy’n codi’n raddol iawn, y graddiant mwyaf serth yw 1 mewn 15 am 30m. Arwyneb o gerrig rhydd, rhai tyllau, y 300m cyntaf ar lwybr mynediad preifat i geir. Cadwch i’r dde wrth y gyffordd gyntaf (mae’r fforch i’r chwith yn arwain i lawr trac anesmwyth anwastad i edrych allan dros y traeth). Cadwch i’r chwith wrth yr ail gyffordd i ddilyn y llwybr am i lawr – 1:15 arall am 30m, llwybr o gerrig wedi’ui rholio a phridd at olygfan draw at Dale. Dim seddau. Toiledau yn Freshwater West (sydd ddim gerllaw). Cadeiriau Olwyn 390m. Efallai y bydd modd i gadeiriau olwyn traws gwlad deithio ymhellach mewn tywydd sych.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Bae Gorllewin Angle Bay South Footpath (Cyfeirnod Grid: SM85280301)
Mae’r llwybr troed cyhoeddus hwn, sy’n croesi caeau, yn cysylltu at heol fynediad, gan ddarparu llwybr gylch (ar yr heol yn bennaf) sy’n dychwelyd i Bentref Angle.
Gwerth Edrych
Blocws y Dwyrain (Cyfeirnod Grid: SM84210274)
Roedd yr adeilad adfeiliedig ar ymyl y clogwyn yn Gaer Elisabethaidd. Mae amddiffynfeydd mwy diweddar yn swatio yn y clogwyni. Mae magnelfa lyngesol a gwrthawyrennau ddyblyg ym Mlocws y Gorllewin. Roedd gorsaf radar yn gweithredu yma hyd nes yn hwyr yn y 1990au.
2. Blocws y Dwyrain i Freshwater West 4.1 Milltir (6.44km)
Yn ystod y 1960au, torrwyd y rhan fwyaf o Lwybr yr Arfordir gan darw dur (bulldozer) – ond ni thorrwyd yr adran hon, sef un o’r diwethaf i’w dynodi fel hawl tramwy. Oherwydd hyn, mae yma naws arbennig o wyllt ac agored. Nifer o fryniau serth iawn, 5 sticil heb unrhyw ddarpariaeth i ganiatáu mynediad i gŵn, 1 giât mochyn, 65 o risiau. Dyma adran arbennig o brydferth sy’n gofyn llawer gan y cerddwr, cyfres o fryniau serth gyda chlogwyni Hen Dywodfaen Coch lliwgar sy’n frith o algai melyn, cildraethau a baeau cudd, a golygfeydd – o Benrhyn Linney yn gyntaf, ac yna ar draws Freshwater West.
Cymeriad y daith: Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1.
Rhybudd
Clogwyni serth, adran ymdrechgar (Cyfeirnod Grid: SM84590217)
Gofalwch nad ydych yn dilyn llwybrau’r defaid sy’n edrych fel ffordd haws, cyfuchlinol tuat at y môr. Paratowch yn dda cyn mynd, oherwydd nid oes unrhyw lwybrau dianc, cyfleusterau na gwasanaethau ar yr adran hon, sy’n 5 milltir o hyd. Ymylon y clogwyni heb eu gwarchod ac yn erydu. Cadwch at y llwybr. Gofalwch mewn tywydd gwyntog. Adrannau eithaf hir o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyni.
Gwerth Edrych
Caer Bentir Oes Haearn Ynys y Defaid (Cyfeirnod Grid: SM84580182)
Caer Bentir o’r Oes Haearn, un o dros 50 safle anheddiad Neolithig i’w gweld ar hyd Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.
Gwybodaeth
Maes Awyr Angle (Cyfeirnod Grid: SM86200162)
Defnyddiwyd y llwyfandir tua’r tir fel maes awyr arall yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond erbyn hyn mae wedi cael ei adfer ar gyfer tir ffermio.
Gwerth Edrych
Caer Bentir Oes Haearn Pickard (Cyfeirnod Grid: SM6230103)
Caer Bentir o’r Oes Haearn, un o dros 50 safle anheddiad Neolithig i’w gweld ar hyd Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.
Gwerth Edrych
Bywyd Gwyllt (Cyfeirnod Grid: SM86780084)
Chwiliwch am y frân goesgoch brin (aderyn tebyg i jac-y-do gyda choesau a phig coch llachar, sy’n hedfan yn chwareus).
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Troed Gravel Bay (Cyfeirnod Grid: SM87760072)
Erbyn hyn, mae dechrau’r llwybr troed hwn, sydd tua’r môr, i’r gorllewin o’r llwybr a farciwyd ar y mwyafrif o fapiau, gan ddilyn y dyffryn. Gellir defnyddio’r llwybr hwn i groesi draw at Fae Angle, er mwyn caniatáu taith diwrnod cyfan ar Benrhyn Angle.
Rhybudd
Adran heriol dros y clogwyni (Cyfeirnod Grid: SM87760072)
Gofalwch nad ydych yn dilyn llwybrau’r defaid, sy’n edrych fel llwybr haws, cyfuchlin at y môr. Cofiwch baratoi’n dda oherwydd nid oes unrhyw lwybrau dianc, cyfleusterau na gwasanaethau ar yr adran 5 milltir hon. Ymylon y clogwyn heb eu gwarchod ac yn erydu. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Adrannau eithaf hir o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.
3. Freshwater West 0.7 Milltir (1.61km)
Traeth hir ar gefndir o dwyni tywod eang, sy’n boblogaidd iawn ymhlith syrffwyr – mae yna ddwy ffordd ar gyfer Llwybr yr Arfordir. Fe fydd y rhan fwyaf o gerddwyr yn defnyddio’r traeth, ond mae’r llwybr a ddynodir gan yr arwyddion yn gwau o gwmpas y twyni, gan gynnig llwybr arall sy’n filltir o hyd ar ymyl yr heol yn ystod stormydd.
Cymeriad y daith: Ffordd.
Traeth
Traeth Freshwater West (Cyfeirnod Grid: SM88110013)
Traeth hir tywodlyd gyda thwyni tywod helaeth yn gefn iddo, sy’n boblogaidd iawn gyda syrffwyr. Gall y syrffio, sydd dros chwe throedfedd o uchder ar adegau, fod bron yn rhy gyffrous, mae’r rhwygiadau, yr afon, cerrynt y lan a’r tywod byw fod yn beryglus iawn. Ni argymhellir nofio ar y traeth hwn, fel y mae’r arwyddion yn cadarnhau. Mae problem wirioneddol yma gyda gwersylla yn y twyni a thanau yn niweidio’r SoDdGA. Os gwelwch yn dda, fel mewn mannau eraill ar y llwybr, defnyddiwch feysydd gwersylla.
Gwybodaeth
Freshwater West (Cyfeirnod Grid: SM88110013)
Mae’r twyni helaeth yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Yn y gorffennol, roedd y traeth yn enwog am y gwymon bwytadwy Porphyra Umbilicalis, y gellir ei olchi, ei goginio a’i stwnsio i wneud danteithfwyd traddodiadol o’r enw bara lawr. Mae hwn yn dal i gael ei werthu mewn rhai siopau bwyd yn Sir Benfro, ond nid yw bellach o ffynhonnell leol. Ar un adeg roedd tua 20 o gytiau bach ar gyfer storio’r gwymon yma. Dim ond un sydd ar ôl, a ailadeiladwyd yn gan Gyfeillion y Parc Cenedlaethol. Mae ymdrochi yma yn beryglus ac mae tywod byw ym mhen gogleddol y traeth. Datgelir coedwig danddwr ar lanw isel.
Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Maes Parcio Twyni Broomhill (Cyfeirnod Grid: SM88430044)
Cyffordd â ffordd yr arfordir. Maes parcio bach, rhad ac am ddim Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Mae’r bws yn stopio yn y maes parcio mawr arall i’r de.
Gweld yr adran hon ar Street View
Angle (Cyfeirnod Grid: SM865029)
Dilynwch Côd Diogelwch Llwybr yr Arfordir
- Cymerwch ofal ar Lwybr yr Arfordir – mae'n dir garw, naturiol
- Cadwch at y llwybr, i ffwrdd oddi wrth ymylon y clogwyni a throsgrogau
- Goruchwyliwch blant ar bob adeg, yn enwedig ger ymylon y clogwyni
- Mae arwynebau cerdded yn gallu amrywio'n sylweddol yn ôl y tywydd. Gwisgwch esgidiau cryfion gyda gafael dda a chynhalwyr pigyrnau bob amser
- Gwisgwch ddillad cynnes sy'n dal dŵr, neu dewch â hwy gyda chi
- Mae'n gallu bod yn beryglus cerdded at gopa clogwyni mewn gwyntoedd uchel
- Byddwch yn ofalus wrth dorri ar draws traethau i arbed amser - efallai y gallai'r llanw eich ynysu. Mae nofio'n gallu bod yn beryglus hefyd
- Peidiwch ag eistedd o dan glogwyni na'u dringo
- Cadwch eich cŵn dan reolaeth agos
- Rheolir Llwybr yr Arfordir ar gyfer cerddwyr; nis yw'n ddiogel nac yn gyfreithlon marchogaeth na beicio ar hyd mwyafrif Llwybr yr Arfordir
- Gadewch y clwydi a'r eiddo fel y cawsoch nhw
- Cofiwch nad yw signal ffôn symudol yn ddibynadwy ar yr arfordir.