Mae yna ddigon o glogwyni serth dramatig ar yr adran hon, ble mae erydiad arfordirol yn broses amlwg. Bob blwyddyn, mae Sir Benfro ychydig yn llai na'r flwyddyn gynt ac mae'n rhaid adolygu Llwybr yr Arfordir yn gyson er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel.

Pwll Deri tuag at Penbwchdy 1 mile, (1.6 km)

Mae’r adran ogleddol yn isffordd (cul de sac). Golygfeydd gwych ar draws Pwll Deri tuag at Strwmbwl a Garn Fawr. Graddiannau ysgafn gan fwyaf, gyda sedd ar yr ochr ddeheuol. Llethr eithaf serth, 0 sticil, 5 o risiau a giât.

Cymeriad y daith: Sticlau, resi o staerau neu fryniau serth.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Garn Fawr (Cyfeirnod Grid:
SM892397)
Llwybr yn ymuno â thyle serth i fyny i Garn Fawr. Ceir cyfres o deithiau cylch gan gynnwys taith ar y grib i Wdig.

Gwerth Edrych
Garn Fawr a Thal-y-Gaer (Cyfeirnod Grid: SM894388)

Mae Garn Fawr yn fryngaer drawiadol o’r Oes Haearn, ac mae yna olygfeydd gwych o’r brig. Mae brigiadau caregog naturiol y bryn wedi’u cysylltu gyda waliau o gerrig rhydd i ffurfio amddiffynfeydd niferus. Wrth ymyl y trac sy’n arwain at fferm Tal-y-Gaer mae yna olion corbelog isel, a allai fod yn gell meudwy o’r Oesoedd Canol neu ynghynt.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Maes Parcio Pwll Deri (Cyfeirnod Grid:
SM893386)
Maes parcio bach gyda golygfeydd, lle i rhyw chwe char yn unig.

Gwybodaeth
Cofeb Dewi Emrys
(Cyfeirnod Grid: SM893385)
Carreg goffa Dewi Emrys (1879-1952), y mae ei gerdd, Pwllderi, yn dathlu’r ardal hon. Ger clogwyni Penbwchdy, sy’n debyg i wrthglawdd, gwelwyd nifer o longddrylliadau dros y blynyddoedd.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Arosfan Bysiau
(Cyfeirnod Grid: SM896376)
Mae’r arosfan bysiau (a blwch ffôn) yma 0.6 milltir (0.9km) o Lwybr yr Arfordir.


2. Penbwchdy i Aber Mawr 2.8 Milltir (4.83Km)

Adran wyllt sy’n eithaf anodd mewn mannau. Golygfeydd gwych tuag at Benmaendewi, Strwmbwl a Garn Fawr. 20 o risiau, 8 giât. Mae defaid, gwartheg a cheffylau’n pori rhannau o’r adran hon.

Cymeriad y daith: Sticlau, resi o staerau neu fryniau serth.

Rhybudd
Llethrau Caregog
(Cyfeirnod Grid: SM885377)
Llethrau Caregog. Rhai llethrau caregog serth – byddwch yn arbennig o ofalus mewn tywydd gwlyb.

Rhybudd
Ymyl y Clogwyn (Cyfeirnod Grid: SM879372)
Ymyl y Clogwyn. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Rhai rhannau o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Pwllcrochan
(Cyfeirnod Grid: SM886362)
Llwybr dianc i’r heol. Dim lle i barcio.

Rhybudd
Traeth Pwllcrochan
(Cyfeirnod Grid: SM885363)
Traeth eithaf mawr pan fydd y llanw’n isel ond dim traeth o gwbl pan fydd y llanw’n uchel! Yn anffodus nid oes llwybr diogel i lawr ato.

Rhybudd
Ymyl y Clogwyn
(Cyfeirnod Grid: SM882354)
Ymyl y clogwyn. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Rhai rhannau o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Rhybudd
Aber Bach
(Cyfeirnod Grid: SM883350)
Yn ystod y rhan fwyaf o’r flwyddyn, mae’r nant fechan o gyfeiriad y tir yn diferu trwy’r banc o gerrig mân. Yn ystod storom neu dywydd gwlyb iawn, mae’n gallu bod yn anodd croesi’r nant neu’r banc. Yn yr achos yma, dylech aros am y llanw isel neu ddilyn y llwybr arall ar hyd yr heol a’r llwybr troed o amgylch y dyffryn.

Traeth
Traeth Aber Bach (Cyfeirnod Grid: SM883350)
Traeth bach tywodlyd sydd heb ei ddifetha. Mae yma fanc o gerrig mân.


3. Aber Mawr i Abercastell 3 Milltir (4.83Km)

Mae Llwybr yr Arfordir yn codi’n gyflym at y clogwyni sy’n 150 troedfedd o uchder. Mae’r llwybr ar hyd copa’r clogwyni’n eithaf gwastad heblaw am ddisgyniad a chodiad serth ym Mhwllstrodur. Yn yr adran hon, mae Llwybr yr Arfordir yn agos at ymyl y clogwyni gwaddodol serth. 13 giât, 40 o risiau a graddiannau serth. Mae defaid a gwartheg yn pori rhannau o’r adran hon.

Cymeriad y daith: Sticlau, resi o staerau neu fryniau serth.

Car Park / Public Transport
Aber Mawr
(Cyfeirnod Grid: SM884348)
Arosfan bysiau ym Melin Wlân Tregwynt (Gwibiwr Strwmbwl – dychwelyd dair gwaith y dydd – Tyddewi i Abergwaun). Nifer cyfyngedig o lefydd parcio wrth ymyl yr heol i rhyw 12 o geir.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Golygfan sy’n Hygyrch i Gadeiriau Olwyn (Cyfeirnod Grid: SM883348)
Mae’r giât isaf yn arwain ymlaen at adran fer gydag arwyneb at fan gwylio sy’n edrych allan ar draws Aber Mawr.

Gwybodaeth
Aber Mawr ac Aber Bach (Cyfeirnod Grid: SM882348)

Aber Mawr. Tua 20,000 o flynyddoedd yn ôl, tua diwedd Oes yr Iâ, gwelwyd haenen iâ Môr Iwerddon yn gadael gwaddodion morol mewn sawl man yng ngogledd Sir Benfro. Gellir gweld y clai porffor-las hyn, a elwir yn g og-glai Môr Iwerddon, o hyd, rhwng haenau o glai caregog yn Aber Mawr. Dywedir yn aml fod y banciau o gerrig mân yn Aber Bach ac Aber Mawr wedi eu creu mewn storom fawr yn 1859, ond, mewn gwirionedd, fe’u ffurfiwyd gan brosesau graddol sy’n gysylltiedig â chodiad yn lefel y môr ar ôl diwedd Oes yr Iâ. Ond, roedd y storom yn gyfrifol am longddrylliad y cwch hwylio Charles Holmes, a gollwyd ynghyd â phob un arno, ychydig i’r gogledd o Aber Bach. Yr adeilad bach yn Aber Mawr oedd y derfynfa ar gyfer cebl telegraff tanddwr cyntaf yr Atlantig yn 1873.

Traeth
Traeth Aber Mawr
(Cyfeirnod Grid: SM881345)
Traeth tywodlyd llydan sydd heb ei ddifetha. Mae yma fanc o gerrig mân. Dyma un o’r rhannau o Lwybr Arfordir Sir Benfro sy’n erydu gyflymaf. Mae rhannau o’r traeth yn symud tua’r tir ar gyfradd o hyd at 1 metr bob blwyddyn.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybrau Aber Mawr (Cyfeirnod Grid: SM881344)
Dau lwybr ceffylau ac un cilffordd. Mae’r llwybrau ceffylau’n cynnig estyniad dymunol i’r daith sy’n mynd trwy goetir, neu lwybr cyswllt i Fathry. Mae’r ‘heol wen’ (mae hon yn isffordd gyhoeddus fach iawn sydd ddim yn cael ei defnyddio ers i’r môr fynd â rhan ohoni) yn cynnig taith gylch arall neu deithiau byr i Abercastell neu Fathry.

Rhybudd
Ymyl Clogwyn Morfa
(Cyfeirnod Grid: SM871345)
Ymylon y clogwyni’n erydu. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Rhannau eithaf hir o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Traeth
Pwllstrodur
(Cyfeirnod Grid: SM866338)
Traeth bach caregog diarffordd.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Pwllstrodur (Cyfeirnod Grid: SM866337)

Rhan serth i fyny’r tyle, yn aml yn fwdlyd gyda stoc, dychwelyd at isffordd – cyfle i ddilyn taith gylch arall eto neu lwybrau byr i Abercastell neu Fathry.

Rhybudd
Ymyl y Clogwyn
(Cyfeirnod Grid: SM852338)
Ymyl y Clogwyn. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Rhannau eithaf hir o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Cyflesterau
Mathry
(Cyfeirnod Grid: SM879320)
Mae tafarn y Farmers yn gweini bwyd a chwrw, siop, ysgol ddeifio/siarter. 1.6 milltir o Lwybr yr Arfordir.


4. Abercastell i Aber Draw (Aber Felin) 3 Milltir (4.83km)

Adrannau byr o fynediad mwy hwylus ar bob pen, heb unrhyw rwystrau wedi’u cyflwyno i gadeiriau olwyn. Mae’r llwybr ei hun yn adran ddramatig gyda golygfeydd gwych o’r clogwyni. 2.7 milltir 4.3km 11 giât, 50 o risiau. Defaid, gwartheg a cheffylau’n pori rhannau o’r adran hon.

Cymeriad y daith: Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Parcio yn Abercastell
(Cyfeirnod Grid: SM852336)
Parcio’n gyfyngedig iawn, anodd troi a dod allan eto. Lle i rhyw bedwar car ar lan y môr – mae angen i chi fod yn gynnar iawn i gael un! Toiled.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Arosfan Bysiau Abercastell
(Cyfeirnod Grid: SM853335)
Mae’r arosfan bysiau wrth y bont fechan ar yr heol, tua 100m o’r traeth. (Gwibiwr Strwmbwl – dychwelyd dair gwaith y dydd – Tyddewi i Abergwaun)

Traeth
Traeth Abercastell (Cyfeirnod Grid: SM852336)
Traeth tywodlyd y mae’r pentref yn edrych allan drosto. Caiff ei ddefnyddio’n dda hefyd gan y cychod niferus, gan gynnwys cychod pysgota crancod a chimychiaid a’r ysgol ddeifio leol.

Gwybodaeth
Abercastell
(Cyfeirnod Grid: SM85263364)
Yr enw arall ar Abercastell yw Cwm Badau. Ers canrifoedd, allforiwyd corn, menyn a cheirch o’r fan yma i Fryste a Lerpwl, a mewnforiwyd carreg galch a glo caled. Mae’r odyn galch yn dal i fod mewn cyflwr da ac roedd yr adfail yn arfer bod yn ydlofft. Ym 1876, fe angorodd Alfred Johnston ei gwch 20 troedfedd, Centennial, yma, wedi cwblhau’r daith unigol gyntaf ar draws yr Atlantig.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Carreg Samson (Cyfeirnod Grid: SM849337)

Dychwelyd at isffordd, cyfle i gymryd llwybr tarw i Drefin.

Gwerth Edrych
Carreg Sampson (Cyfeirnod Grid: SM848335)
Ychydig bach oddi ar Llwybr yr Arfordir, heibio i Gwm Badau, mae Carreg Samson, siambr gladdu Neolithig wych. Yn ôl y chwedl, fe osododd Sant Samson y capfaen yn ei le gan ddefnyddio ei fys bach yn unig. Dywedir bod y bys yma wedi’i gladdu ar Ynys-y-Castell, yr ynysig garegog wrth fynedfa’r cildraeth.

Rhybudd
Clogwyni Cwm Badau
(Cyfeirnod Grid: SM850337)
Ymylon clogwyni heb eu hamddiffyn. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Rhannau hir o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Gwerth Edrych
Castell Coch
(Cyfeirnod Grid: SM840338)
Caer Benrhyn o’r Oes Haearn, un o dros 50 o safleoedd aneddiadau Neolithig i’w gweld ar hyd Llwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro. Sylwch ar y ffos allanol trawiadol, wedi’i phalu mewn craig solid.

Gwybodaeth
Clogwyn yn Erydu (Cyfeirnod Grid: SM842336)

Mae Staff y Parc Cenedlaethol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cydweithio yma i symud y wal gerrig gyfan yn ôl i fyny i bedwar metr. Mae’r wal yn wledd o ludlys a chlustog Fair yn y Gwanwyn. A wnewch chi ddilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio ar y safle.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Trefin – y Gogledd
(Cyfeirnod Grid: SM840332)
Llwybr â chaniatâd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – llwybr ar draws caeau at heol ger Trefin.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Trefin – y De
(Cyfeirnod Grid: SM834329)
Llwybr cyhoeddus ar hyd lôn â mynediad hwylus i Drefin.

Traeth
Traeth Aberfelin
(Cyfeirnod Grid: SM833325)
Traeth caregog gyda phyllau glan môr da.

Gwybodaeth
Melin Trefin (Aberfelin) (Cyfeirnod Grid: SM833324)
Nid yw’r hen felin yn Aberfelin wedi malu ers 1918. Gellir gweld cafnau’r felin o hyd ar ochr arall yr heol. Erbyn hyn, Awdurdod y Parc Cenedlaethol sy’n cynnal a chadw’r felin a ysbrydolodd yr Archdderwydd Crwys i ysgrifennu ei gerdd enwog, Melin Trefin.

Cyflesterau
Trefin
(Cyfeirnod Grid: SM839325)
Pentref gyda llety ac ystafelloedd te. Mae tafarn y Ship Inn yn gwerthu bwyd a chwrw. Tua hanner milltir o Lwybr yr Arfordir.


5. Aber Draw (Aber Felin) i Borthgain 1.7 Milltir (3.22Km)

Mae yna adran 250m serth ar yr heol ger Trefin. Mae Llwybr yr Arfordir yn dilyn y llwyfandir arfordirol gweddol wastad, ychydig tua’r tir o’r clogwyni yr holl ffordd, gydag adran fechan yn dilyn ymyl y cae i ffwrdd oddi wrth yr arfordir. 0 grisiau, 8 giât wiced, 2 gatiau mochyn, 6 bryn serth byr. Defaid, gwartheg a cheffylau’n pori rhannau o’r adran hon.

Cymeriad y daith: Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Parcio yn Aber Felin / Arosfan Bysiau
(Cyfeirnod Grid: SM834324)
Parcio cyfyngedig iawn wrth ymyl yr heol – 2 gar yn unig os ydyn nhw wedi parcio’n ofalus. Mae’r arosfan bysiau yn Nhrefin ond mae’r bws i gerddwyr yn fws ‘galw a theithio’ ac yn pasio Aber Felin. Toiled yn Nhrefin.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Porthgain (Cyfeirnod Grid: SM819325)
Llwybr tarw ar ymyl caeau i Borthgain, gyda chyfle i gymryd taith gylch fer o Borthgain.

Rhybudd
Porthgain i Glogwyni Gribinau (Cyfeirnod Grid: SM816328)
Ymyl y clogwyn heb ei amddiffyn. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog.

Gwybodaeth
Porthgain (Cyfeirnod Grid: SM814325)

Yn ystod y 19eg ganrif ac yn gynnar yn yr 20fed ganrif, roedd Porthgain yn borthladd diwydiannol llewyrchus. Chwarelwyd y garreg leol, sef craig galed, igneaidd, a elwir yn ‘diorit’, i’w defnyddio fel carreg adeiladu ac fel arwyneb ar gyfer heolydd. Wedi’i malu a’i graddio, fe’i storiwyd yn yr hopranau mawr sy’n dal i edrych dros y porthladd, cyn ei hallforio ar y môr. Roedd yna waith briciau a ddefnyddiai glai lleol hefyd, a danfonwyd llawer o’r llechi a chwarelwyd yn Abereiddi oddi yma. Dirywiodd y masnachu ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf a chaeodd y gwaith cerrig ei ddrysau am y tro olaf yn 1932. Erbyn hyn, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gyfrifol am warchod yr harbwr a’r olion diwydiannol. Mae’r Rhes (The Row), sef teras o fythynnod ar ochr orllewinol y pentref, wedi cael to newydd yn ddiweddar, gan ddefnyddio llechi Abereiddi a adferwyd o gargo a suddodd yn y 19eg ganrif.

Cyflesterau
Pentref Porthgain
(Cyfeirnod Grid: SM815325)
Tafarn y Sloop Inn – un o’r ychydig dafarndai ar lwybr Llwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro. Orielau celf, bwyty ac ystafelloedd te.

Gweld yr adran hon ar Street View

Pwll Deri (Cyfeirnod Grid: SM892387)

Dilynwch Côd Diogelwch Llwybr yr Arfordir

  • Cymerwch ofal ar Lwybr yr Arfordir – mae'n dir garw, naturiol
  • Cadwch at y llwybr, i ffwrdd oddi wrth ymylon y clogwyni a throsgrogau
  • Goruchwyliwch blant ar bob adeg, yn enwedig ger ymylon y clogwyni
  • Mae arwynebau cerdded yn gallu amrywio'n sylweddol yn ôl y tywydd. Gwisgwch esgidiau cryfion gyda gafael dda a chynhalwyr pigyrnau bob amser
  • Gwisgwch ddillad cynnes sy'n dal dŵr, neu dewch â hwy gyda chi
  • Mae'n gallu bod yn beryglus cerdded at gopa clogwyni mewn gwyntoedd uchel
  • Byddwch yn ofalus wrth dorri ar draws traethau i arbed amser - efallai y gallai'r llanw eich ynysu. Mae nofio'n gallu bod yn beryglus hefyd
  • Peidiwch ag eistedd o dan glogwyni na'u dringo
  • Cadwch eich cŵn dan reolaeth agos
  • Rheolir Llwybr yr Arfordir ar gyfer cerddwyr; nis yw'n ddiogel nac yn gyfreithlon marchogaeth na beicio ar hyd mwyafrif Llwybr yr Arfordir
  • Gadewch y clwydi a'r eiddo fel y cawsoch nhw
  • Cofiwch nad yw signal ffôn symudol yn ddibynadwy ar yr arfordir.

Darganfyddwch fwy am Lwybr yr Arfordir