Oherwydd y traethau godidog yn yr ardal a'r cyfleusterau a'r atyniadau i dwristiaid o amgylch Dinbych-y-pysgod, fwy na thebyg mai dyma rhan brysuraf y llwybr cyfan ac mae yma olygfeydd gwych o Ynys Bŷr, ac arfordiroedd Gŵyr ac Exmoor.
1. Skrinkle i Draeth Lydstep 1.3 Milltir (1.61km)
Mae yna gerdded gwastad ar y ddau bentir, gyda chyfleoedd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, a rhyngddynt mae yna ddyffryn serth iawn. Tyle hefyd rhwng Traeth a Phenrhyn Lydstep – adran fer o gilffordd ag arwyneb. 0 sticil, 1 giât mochyn, 4 giât wiced, 115 o risiau. Mae yna rai enghreifftiau gwych o nodweddion carreg galch o’r fan hon i Ddinbych-y-pysgod.
Cymeriad y daith: Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1.
Gwybodaeth
Skrinkle Haven (Cyfeirnod Grid: SS08029764)
Am flynyddoedd lawer, roedd y rhan hon o’r arfordir yn ardal filwrol ac roedd ar gau i’r cyhoedd. Defnyddir Penrhyn yr Hen Gastell o hyd fel maes tanio, ac felly efallai y clywch sŵn ergydion uchel wrth i chi gerdded heibio, ond mae Llwybr yr Arfordir ar agor ar bob adeg. Prynodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol tua 18 hectar (45 erw) o hen dir y fyddin ym 1982. Trawsnewidiwyd yr Hostel Ieuenctid, a’i chynllun trawiadol, o adeilad milwrol. Mae’r bae’n cynnwys traeth tywodlyd a childraeth creigiog, wedi ei wahanu gan ddarn tenau o galchfaen a elwir yn Ddrysau’r Eglwys, oherwydd y mynedfeydd bwaog mawr i’r ogofau. Mae Skrinkle Haven yn nodi ailymddangosiad y ffin rhwng yr Hen Dywodfaen Coch a’r Calchfaen Carbonifferaidd. Mae’r clogwyni yma’n ansefydlog iawn ac mae mynediad at y traeth yn gyfyngedig.
Cyflesterau
Hostel Ieuenctid Skrinkle Haven (Cyfeirnod Grid: SS08029764)
Bwriad cynllun rhyfedd yr Hostel Ieuenctid oedd cuddio’i hen ddefnydd fel adeilad milwrol.
Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Parcio yn Skrinkle (Cyfeirnod Grid: SS08349749)
Safle bysiau gwasanaeth ar ddiwedd yr heol 0.5 milltir tua’r tir, gorsaf drenau 2 filltir tua’r tir. Ardaloedd parcio mawr, rhad ac am ddim y Parc Cenedlaethol.
Rhybudd
Clogwyni Skrinkle a Lydstep (Cyfeirnod Grid: SS08349749)
Ymylon y clogwyni heb eu gwarchod. Godiroedd serth iawn. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Adrannau byr o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Cadeiriau Olwyn Skrinkle Haven (Cyfeirnod Grid: SS08349749)
Roedd yn arfer bod yn rhan o faes profi taflegrau’r Weinyddiaeth Amddiffyn ond mae nawr yn eiddo i Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Mae’r llwybr yn dilyn heolydd tarmac a safleoedd prawf concrid. Mae’r 500m cyntaf yn 1 mewn 20 neu’n llai, y 100m olaf yn 1 mewn 12 neu’n llai. Mae’r ffordd at yr ail olygfan yn fwy serth, dros laswellt, ac efallai na fydd modd i bawb ei ddilyn. (Mae’r llwybr troed cyhoeddus at y traeth a ddangosir ar y map Arolwg Ordnans ar gau am fod y clogwyn yn cwympo). Efallai y bydd yn bosib i gadeiriau antur deithio ychydig ymhellach. Dim seddau. Toiledau ym maes parcio traeth Maenorbŷr. Llwybr cadeiriau olwyn 0.6 km.
Traeth
Traethau Skrinkle a Drysau’r Eglwys (Cyfeirnod Grid: SS08079741)
Mae Skrinkle yn draeth tywodlyd canolig, a thraeth Drysau’r Eglwys yn draeth o glogfeini. Perygl o gael eich ynysu. Serth am i lawr.
Rhybudd
Llwybr Troed Traeth Skrinkle Ar Gau (Cyfeirnod Grid: SS08079741)
Dangosir y llwybr mynediad at y traeth ar nifer o fapiau fel rhan o’r Llwybr Cenedlaethol, er nad ydyw erioed wedi ei gynnwys. Erbyn hyn mae’r llwybr hwn ar gau trwy Orchymyn, oherwydd mae’n croesi clogwyn sy’n cwympo. I gyrraedd y traeth, defnyddiwch y llwybr nesaf, i lawr grisiau serth iawn, at Ddrysau’r Eglwys, yna trwy dwnnel naturiol at y prif draeth. Byddwch yn ofalus, mae’n llithrig ac nid yw’n amlwg pan fydd y twnnel yn cael ei dorri i ffwrdd wrth i’r llanw ddod i mewn. Perygl o gael eich ynysu gan y llanw.
Traeth
Traeth y Ceudwll (Cyfeirnod Grid: SS08709758)
Traeth tywodlyd canolig. Gellir cyrraedd y traeth hwn pan fydd y llanw’n isel yn unig. Ogofau calchfaen anferth.
Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Maes Parcio Penrhyn Lydstep (Cyfeirnod Grid: SS08789777)
Safle bysiau gwasanaeth ym Mhentref Lydstep (0.25 Milltir). Maes parcio canolig, rhad ac am ddim yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar y Penrhyn.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Mynediad i Benrhyn Lydstep i Gadeiriau Olwyn (Cyfeirnod Grid: SS08789777)
Mae’r trac mynediad i gerbydau i faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn arw. Ewch tua’r de o’r maes parcio – llwybr glaswelltog yn bennaf. Nid oes unrhyw raddiannau o bwys, na graddiannau croes, ond mae’n arw mewn mannau. Llwybr Mynediad Hwylus (400m+) i’r dwyrain – yn wastad i bob pwrpas, yn fwdlyd mewn mannau pan yn wlyb, dan goed yn rhannol, gyda golygfeydd o Fae Lydstep a Chlogwyni Giltar. Un sedd wrth y clogwyn. Toiledau ym maes parcio traeth Maenorbŷr a maes parcio Gorsaf Penalun. Llwybr cadeiriau olwyn 400m; Llwybr Mynediad Hwylus 400m.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Cilffordd Pentref Lydstep (Cyfeirnod Grid: SS08749784)
Mae cilffordd yn ymuno ar hyd cysylltiad trac mynediad at y brif heol a Phentref Lydstep. Mae’n cynnig taith gerdded gylch, hir trwy St. Florence a Dinbych-y-pysgod.
Cyflesterau
Pentref Lydstep (Cyfeirnod Grid: SS0865832)
Tafarn Lydstep
Gwybodaeth
Penrhyn Lydstep (Cyfeirnod Grid: SS08979767)
Mae’r llwybr swyddogol yn torri ar draws gwddf y pentir hwn, ond mae llwybr sydd wedi’i ddiffinio’n dda yn dilyn copa’r clogwyni ac yn daith ddiddorol oddi ar y prif lwybr. Mae’r pentir wedi bod yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers 1936. Mae’r clogwyni mawreddog ar yr ochr ddeheuol yn dangos gwelyau calchfaen wedi eu codi i fyny i safle fertigol. Fe ddigwyddodd hyn wrth i gyfandiroedd arnofiol wrthdaro tua 290 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae rhai o’r gwelyau wedi gwrthsefyll erydiad ac yn sefyll allan fel pinaclau creigiog, a wahenir gan gilfachau a ffurfiodd ar hyd llinellau ffawt. Ar ochr ogleddol y pentir mae yna lwyfandir ble’r arferai’r cychod hwylio angori i dderbyn calchfaen o’r chwarel gerllaw. Allforiwyd y cerrig i borthladdoedd ar hyd Môr Hafren.
2. Lydstep i Glogwyn y De, Dinbych-y-pysgod 3.8 Milltir (6.44km)
Traeth ac yna bryniau serth ar bob pen gyda chopa clogwyn carreg galch tonnog ysgafn. Mae’r fynedfa fwyaf hwylus trwy lwybr amgen maes y gorllewin. Oherwydd statws Banner Las Traeth Lydstep, mae’n rhaid i gerddwyr sydd â chŵn ddilyn llwybr y maes carafannau sydd ag arwyddion. 0 sticil, 100 o risiau, 8 giât wiced. I ffwrdd oddi wrth ymyl y clogwyn y rhan fwyaf o’r ffordd, chwythdyllau’n agos at y llwybr mewn mannau. Golygfeydd o Lydstep, Ynys Bŷr ac ar hyd Traeth y De i Ddinbych-y-pysgod.
Cymeriad y daith: Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1.
Traeth
Lydstep Haven (Cyfeirnod Grid: SS09119805)
Traeth mawr tywodlyd a graean gyda pharc gwyliau mawr tŷ ôl. Mae cychod pŵer yn aml yn gweithredu yma.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Parc Carafannau Lydstep (Cyfeirnod Grid: SS09339858)
Mae llwybr troed yn cysylltu, trwy’r carafanau, â’r briffordd. Nid oes parcio ar gael, mae mynediad i gerbydau i Lydstep ar ffordd breifat.
Rhybudd
Twll chwythu Proud Giltar (Cyfeirnod Grid: SS09939860)
Ogof fôr wedi cwympo yn agos at y llwybr. clogwyn serth. Byddwch yn ofalus.
Rhybudd
Clogwyn ‘Frank’s Shore’ (Cyfeirnod Grid: SS10529860)
Ymyl y clogwyn yn cwympo yn agos at y Llwybr. Cadwch at y Llwybr.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Proud Giltar i Bubbleton (Cyfeirnod Grid: SS10039854)
Mae llwybr troed yn cysylltu â’r briffordd. Dim Parcio.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Amgen (Gorllewin) Maes y Weinyddiaeth Amddiffyn (Cyfeirnod Grid: SS10959843)
Mae llwybr troed yn cysylltu â’r briffordd a Penalun. Mae hwn yn llwybr amgen ar gyfer Llwybr yr Arfordir pan fydd maes saethu yn cael ei ddefnyddio – os yw’r baneri coch yn hedfan, peidiwch â defnyddio llwybr y clogwyn.
Rhybudd
Maes Saethu Penalun (Cyfeirnod Grid: SS11679839)
Os bydd y maes saethu ym Mhenalun yn cael ei ddefnyddio, mae’r rhan ddwyreiniol y clogwyni yn waharddedig, baneri coch yn hedfan i rybuddio cerddwyr (y gwarchodwyr yn gorfodi hyn), llwybr arall wedi’i arwyddo.
Traeth
Traeth y De, Dinbych-y-pysgod (Cyfeirnod Grid: SS12709928)
Traeth tywodlyd 1.5 milltir o hyd yw Traeth y De, gyda thwyni tywod helaeth yn gefn iddo. Faniau hufen iâ symudol a chaffi pen tref Dinbych-y-pysgod. Mae llwybr amgen wedi’i farcio ar gyfer ffyrdd o lanw neu storm uchel iawn.
Rhybudd
Byddwch yn ofalus rhag banciau tywod ar Llanw Isel (Cyfeirnod Grid: SS12469888)
Mae’r banc tywod hwn, a rhai tebyg iddo, yn ymddangos ar lanw isel iawn a phan arnyn nhw mae’n anodd iawn gweld y llanw sy’n dod i mewn yn rasio o amgylch y glannau, sy’n golygu bod dianc o’r ardal bron yn amhosibl oherwydd dyfnder sydyn y dŵr o’i amgylch. Y rhai sydd ddim yn ymwybodol o symudiadau llanw yw’r rhai mwyaf agored i niwed. Felly, mae’n syniad da ceisio gwybodaeth am gyflwr llanw wrth ymweld ag unrhyw draethau lleol. Gellir cael y wybodaeth hon o lyfrynnau ‘Tide Table’ a werthir mewn asiantau newyddion, Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid Lleol, Papurau Newydd Lleol a Radio ac wrth gwrs Gorsaf Gwylwyr y Glannau yn Aberdaugleddau ar 01646 690909, 24 awr y dydd. PEIDIWCH AG OFNI CEISIO CYNGOR AC ARHOSWCH YN DDIOGEL.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Amgen (Dwyrain) Maes y Weinyddiaeth Amddiffyn (Cyfeirnod Grid: SS12269887)
Mae llwybr troed ag arwyneb gwastad yn cysylltu Traeth y De â Phenalun a’r briffordd. Parcio a thoiled yng ngorsaf reilffordd Penally. Mae hwn yn llwybr amgen ar gyfer Llwybr yr Arfordir pan fydd y maes saethu yn cael ei ddefnyddio – os yw’r baneri coch yn hedfan, peidiwch â defnyddio llwybr y clogwyn.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Kiln Park (Cyfeirnod Grid: SS12759959)
Mae llwybr troed caniataol yn cysylltu, trwy’r twyni, ar draws y cwrs golff trwy garafanau Kiln Park i’r briffordd neu Phenalun, dim parcio.
3. Valleyfield Top i Glogwyn y De, Dinbych-y-pysgod 2.4 Milltir (3.22km)
Llwybrau amgen Cadwyn Penalun Traeth y De. Dim mynediad ar draws Clogwyni Giltar pan fydd y baneri coch yn chwifio. Rhai isffyrdd. Adran ar y brif heol gyda phalmant. Llwybrau cysgodol. Graddiannau ysgafn, 5 giât mochyn, 2 giât wiced, 0 sticil, 0 grisiau.
Cymeriad y daith: Dim sticlau neu resi o staerau, graddiannau llai na 1:6.
Gwybodaeth
Maes Penalun (Cyfeirnod Grid: SS11419865)
Defnyddiwyd i hyfforddi’r fyddin ar ryfela mewn ffosydd 100 mlynedd yn ôl ac mae’r system ffosydd ar ben gorllewinol y safle o bwysigrwydd hanesyddol.
Cyflesterau
Pentref Penalun (Cyfeirnod Grid: SS11799958)
Siop fach a Swyddfa’r Post. Llety Gwely a Brecwast. Tafarndai.
Cyflesterau
Bwyty Overlander (Cyfeirnod Grid: SS11759902)
Bwyty Overlander.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Cadeiriau Olwyn Traeth y De (Cyfeirnod Grid: SS11859914)
Gorsaf Penalun i Draeth y De SS118990. Llain o darmac yn dod i ben wrth olygfan y dderwen. Byddai angen tipyn o help i fynd i lawr i’r traeth, yna mae cam i lawr ac yna 20m o dywod meddal – gosodwyd grisiau yn lle’r ramp! Nid oes unrhyw raddiannau o bwys ac eithrio ar y pen dwyreiniol – 20m tua 1 mewn 12. Dim graddiannau croes. Rhan gyntaf y llwybr yn croesi’r maes reifflau. Toiledau yn y maes parcio.
Llwybr cadeiriau olwyn 550m.
Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Gorsaf Drenau Penalun (Cyfeirnod Grid: SS11819908)
Maes parcio canolig, rhad ac am ddim y Parc Cenedlaethol. Toiledau.
4. Trwy neu o amgylch Dinbych-y-pysgod 1.2 Milltir (1.61km)
Mae llawer o gerddwyr yn dewis defnyddio’r traeth pan fydd y llanw allan. Ond, mae’r llwybr sy’n cael ei argymell, ac nid os arwyddion ar ei gyfer, yn dilyn rhodfeydd ar ymyl clogwyni a lonydd cyswllt sy’n cynnig cyflwyniad da i’r dref furiog hudolus hon.
Cymeriad y daith: Ffordd.
Cyflesterau
Dinbych-y-pysgod (Cyfeirnod Grid: SN13390044)
Tref wyliau o faint gweddol gyda’r holl wasanaethau, gan gynnwys tafarndai, gwestai, bwytai da iawn, banciau, archfarchnad, gorsaf drenau ayb. Adeiladwyd y dref ar benrhyn ac mae yna draethau da ar dair ochr!
Gwybodaeth
Dinbych-y-pysgod (Cyfeirnod Grid: SN13390044)
Mae’r dref gaerog hynafol hon yn enwog am ei thraethau gwych a’i phorthladd prydferth. Ystyr Dinbych yw “caer fechan” ac cheir sôn am y dref am y tro cyntaf mewn cerdd a gyfansoddwyd yn y 9fed ganrif. Daw’r amddiffynfeydd Normanaidd ar Rhiw’r Castell o’r 12fed ganrif ac adeiladwyd waliau’r dref ganrif yn ddiweddarach. Daw nifer o’r tai yn Stryd Fawr a Sgwâr Tudor o’r 16eg ganrif neu ynghynt. Roedd Dinbych-y-pysgod yn borthladd pwysig ar yr adeg hon, â’i chychod yn masnachu ar draws Môr Hafren a draw at gyfandir Ewrop. Mewnforiwyd yr orennau cyntaf i’w gweld yng Nghymru i’r dref ym 1556. Dirywiodd y dref ar ôl y Rhyfel Cartref a phla 1650-51, ond daeth gwelliant i’w rhan yn y 18fed ganrif pan ddaeth yn gyrchfan wyliau boblogaidd. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Dinbych-y-pysgod, galwch i mewn i’r Ganolfan Croeso yn Nhŷ Rhiwabon, Rhodfa’r De.
Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Gorsaf Drenau Dinbych-y-pysgod (Cyfeirnod Grid: SN12930057)
Cysylltiadau i’r dwyrain i Abertawe, Caerdydd, Llundain ayb. Gellir cysylltu hefyd at Abergwaun, Hwlffordd ac Aberdaugleddau trwy Hendy-gwyn. Mae’r trenau’n parhau tua’r gorllewin i Benalun, Maenorbŷr, Llandyfái, Penfro a Doc Penfro. Mae’n golygu bod modd cerdded nifer o deithiau llinol gan ddefnyddio’r trên.
Traeth
Traeth y Castell (Cyfeirnod Grid: SN13720044)
Traeth tywodlyd canolig gyda chaffi.
Gwerth Edrych
Ynys Bŷr (Cyfeirnod Grid: SN13750043)
Cychod rheolaidd i Ynys Bŷr o’r Porthladd neu Draeth y Castell.
Traeth
Traeth y Gogledd (Cyfeirnod Grid: SN13390089)
Traeth tywodlyd mawr gyda chaffi a phorthladd.
5. Dinbych-y-pysgod i Saundersfoot 3.5 Milltir (6.44km)
Adran arw a charegog iawn o goetir cymysg a chefn gwlad agored. Disgyn dro ar ôl tro i lefel y môr ac yn ôl i gopa’r clogwyn, sy’n 60m o uchder! 0 sticil, 342 o risiau, 1 giât mochyn, 11 giât wiced.
Cymeriad y daith: Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1.
Rhybudd
Llanwau (Cyfeirnod Grid: SN13770196)
Mae’r llanwau’n codi ac yn disgyn ar ddyfnderoedd gwahanol bob dydd. Ar y diwrnodau sydd â’r amrediad llanwol mwyaf, pan fydd y llanw’n isel, mae’n bosib cerdded ar y traeth o Waterwynch i Ddinbych-y-pysgod. Hefyd i gerdded rhan o’r ffordd tuag at Monkstone. Pan fydd y llanw’n uchel mae traethau’n diflannu ac mewn mannau gallech gael eich dal i fyny yn erbyn clogwyni uchel, ansefydlog.
Traeth
Traeth Waterwynch (Cyfeirnod Grid: SN13770196)
Traeth bach tywodlyd gyda banc o gerrig crynion, gyda wal uchel yn gefndir. Pan fydd y llanw ar drai, mae’n agor arno i draeth mawr gyda baeau tywodlyd hyfryd i’r chwith a’r dde. Byddwch yn ofalus rhag i chi gael eich torri i ffwrdd gan y llanw.
Peidiwch â thorheulo o dan y clogwyni – mae creigiau’n disgyn.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Troed Waterwynch (Cyfeirnod Grid: SN13380220)
Mae llwybr troed cyhoeddus yn croesi o’r brif ffordd i’r traeth. Mae’r rhan orllewinol yn heol breifat, nid oes unlle i barcio.
Rhybudd
Clogwyni o Waterwynch i Saundersfoot (Cyfeirnod Grid: SN14320292)
Ymylon y clogwyni heb eu gwarchod. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Adrannau byr o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.
Traeth
Traeth Monkstone (Cyfeirnod Grid: SN14630313)
Traeth mawr tywodlyd. Llwybr mynediad serth iawn.
Mae Traeth Monkstone yn lle hyfryd i nofio, ond gwyliwch rhag y creigiau ar yr hanner gorllewinol. Mae’r dyfroedd bas o Ddinbych-y-pysgod tua’r dwyrain yn cynhesu’n gyflym ac yn gallu bod yn ddymunol o gynnes o fis Ebrill ymlaen os yw’r llanw i mewn yn ystod y prynhawn a’r haul yn boeth. Mae’n bosib cerdded oddi yma i Saundersfoot pan fydd y llanw allan yn gyfan gwbl, ond byddwch y ofalus rhag cael eich torri i ffwrdd mewn nifer o wasgleoedd.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr o Trevayne i Draeth Monkstone (Cyfeirnod Grid: SN14460324)
Mae llwybr troed caniataol yn cysylltu at ddiwedd yr isffordd at Fferm Trevayne. Parcio cyfyngedig iawn wrth ymyl yr heol. Mae yna lwybr troed cyhoeddus hefyd at y traeth.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Trwyn Monkstone (Cyfeirnod Grid: SN14700329)
Mae gan Lwybr yr Arfordir ddau lwybr ym Monkstone, sef llwybr byr a llwybr dros y penrhyn sy’n rhoi golygfa wych o Ddinbych-y-pysgod a golygfeydd draw at y Gwyr. Cystradau Glo Carbonifferaidd – gwelir rhai o’r tirlithriadau arfordirol mwyaf amlwg sy’n effeithio ar Lwybr yr Arfordir ar yr adran hon, sy’n golygu bod angen adlinio’r llwybr yn rheolaidd ymhellach tua’r tir.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Swallowtree / Coed Rhode (Cyfeirnod Grid: SN14130380)
Cysylltiad llwybr troed cyhoeddus, o’r ystad dai at y traeth, ar hyd trac sy’n aml yn fwdlyd, at yr heol.
Traeth
Swallowtree Traeth (Cyfeirnod Grid: SN14180385)
Traeth mawr, tywodlyd. Cildraeth pan fydd y llanw’n uchel – uno gyda Saundersfoot pan fydd y llanw allan.
Gwybodaeth
Coetir Swallowtree (Cyfeirnod Grid: SN14190374)
Rhwng Dinbych-y-pysgod a Llanrhath mae Llwybr yr Arfordir yn aml mewn coetir. Mae’r coetir yn rhan o weddillion coedwig hynafol. Gellir gweld olion pyllau glo ar ochrau’r Llwybr.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Traeth Glen – Llwybr Amgen (Cyfeirnod Grid: SN139800431)
Mae’n bosib cerdded ar hyd y traeth rhwng Y Glen a Phorthladd Saundersfoot, ac eithrio pan fydd y llanw’n uchel. Byddwch yn ofalus wrth groesi’r creigiau llithrig. Mae’r llwybr a argymhellir yn dilyn heolydd am 600m ond nid oes palmant am tua 250m ohono.
Rhybudd
Llwybrau Amgen sy’n Dibynnu ar y Llanw (Cyfeirnod Grid: SN13830454)
Mae’n bosib cerdded o Draeth Porthladd Saundersfoot i Swallowtree neu Monkstone pan fydd y llanw’n isel. Gofalwch rhag cael eich torri i ffwrdd. Mae angen dealltwriaeth drylwyr o dablau llanw a gwybodaeth o bwyntiau mynediad.
6. Saundersfoot i Lanrath 3.5 Milltir (6.44km)
Mae mwyafrif yr adran hon naill ai ar yr heol neu ar lwybr beiciau. Mae’r graddiannau’n weddol heblaw am yr adran ar yr heol i’r dwyrain o Wisemans Bridge ac i’r gorllewin o Lanrhath. Mae’r adran i’r gorllewin o Lanrhath yn dyle serth gyda grisiau, ond mae’n bosib cerdded ar yr heol yn lle (dilynwch arwyddion y llwybr beiciau). 1 giât wiced ac ar ochr orllewinol adran Llanrhath – 1 giât mochyn, 1 giât wiced, 60 o risiau, 0 sticl.
Cymeriad y daith: Adeiladwyd y llwybr i Safon ‘BT’ ar gyfer cadeiriau olwyn.
Cyflesterau
Saundersfoot (Cyfeirnod Grid: SN13590471)
Tref lan-môr brysur gydag amrywiaeth lawn o wasanaethau.
Gwybodaeth
Saundersfoot (Cyfeirnod Grid: SN13590471)
Mae datblygiad y pentref yn ddyledus i’r diwydiant glo. Yn y 19eg ganrif, dyma’r man allforio ar gyfer glo a gludwyd ar dramffordd o’r pyllau o amgylch Cilgeti. Cwblhawyd yr harbwr erbyn 1834 ar gost o £7,000. Erbyn 1864, allforiwyd dros 30,000 tunnell o lo oddi yma bob blwyddyn, ac erbyn y 1880au roedd y ffigurau’n agos i 100,000 tunnell. Allforiwyd brics tân a chastinau haearn o waith haearn Stepaside ger Wiseman’s Bridge hefyd, i Fryste, Ffrainc ac Iwerddon yn bennaf, er i rai fynd mor bell â Hong Kong. Erbyn 1939 roedd y llwyth diwethaf wedi hwylio o Saundersfoot a’r olaf o’r pyllau lleol wedi cau. Erbyn hyn, mae’r pentref yn ganolfan wyliau boblogaidd a’r porthladd yn fan angori diogel i gychod hwylio.
Rhybudd
Llwybrau sy’n Dibynnu ar y Llanw (Cyfeirnod Grid: SN13830468)
Mae’r llanw’n codi ac yn disgyn i wahanol ddyfnderoedd bob diwrnod. Ar y diwrnodau gyda’r amrediad llanw mwyaf, pan fydd y llanw’n isel, mae’n bosib cerdded ar y traeth am ran o’r ffordd tuag at Ddinbych-y-pysgod. Hefyd tuag at Lanrhath. Pan fydd y llanw’n uchel, mae’r traethau’n diflannu ac mewn mannau gallech gael eich dal yn erbyn clogwyni ansefydlog uchel.
Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Maes Parcio Coppet Hall (Cyfeirnod Grid: SN13930537)
Cysylltiad at heol yr arfordir. Maes parcio mawr, wedi ei reoli’n breifat, tâl yn ystod y tymor. Toiledau. Os yw meysydd parcio Saundersfoot yn llawn, mae’n daith o 0.4 milltir ar droed ar hyd llwybr yr arfordir neu’r traeth at Saundersfoot.
Traeth
Traeth Saundersfoot (Cyfeirnod Grid: SN13760482)
Traeth tywodlyd hir, gwastad. Poblogaidd iawn yn yr haf. Pan fydd y llanw’n isel gellir cael llinell di-dor o draeth tywodlyd sy’n ymestyn am 5 milltir.
Traeth
Traeth Coppit Hall (Cyfeirnod Grid: SN14040533)
Traeth tywodlyd gwastad, canolig. Mae’n ymuno â thraethau Saundersfoot a Wiseman’s Bridge pan fydd y llanw’n isel.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Cadeiriau Olwyn y Dramffordd (Cyfeirnod Grid: SN14040533)
Dramffordd – Wiseman’s Bridge SN144059 tuag at Borthladd Saundersfoot SN139053. Llwybr ag arwyneb fel llwybr beiciau. Weithiau, mae’r llwybr ar gau er mwyn sefydlogi’r clogwyni. Nid oes unrhyw raddiannau croes o bwys. I gychwyn, rheilffordd oedd hi a bwerwyd gan geffylau, ac felly nid oes unrhyw raddiannau amlwg. Ac eithrio’r twnelau, mae’r adran o Coppit Hall i Wiseman’s Bridge â golygfeydd diderfyn. Seddau tua 300m i’r dwyrain o Coppit Hall. Toiledau ym Mhorthladd Saundersfoot SN136046, Coppit Hall (tâl i barcio ceir yn ystod y tymor) SN138053, ac yn Wiseman’s Bridge. Canolfan Wybodaeth ym Mhorthladd Saundersfoot (tâl ar gyfer y maes parcio) SN136048. Llwybr cadeiriau olwyn 1.225 km.
Gwybodaeth
Twnelau a Thirlithriadau (Cyfeirnod Grid: SN14120544)
Ar y darn hwn, mae Llwybr yr Arfordir yn rhedeg trwy dwnelau, a adeiladwyd i gludo’r cysylltiad rheilffordd o byllau glo Cilgeti a gwaith haearn Stepaside i borthladd Saundersfoot. Ym 1980, gorchuddiodd tirlithriad enfawr yr hen lwybr gyda chreigiau. Gwaredwyd y cerrig erbyn hyn a sefydlogwyd y clogwyni gyda rhwydi, ond mae yna berygl i greigiau ddisgyn o hyd. Mae yna lwybr arall ar hyd copa’r clogwyn. I’r gogledd o’r twnelau, pan fydd y llanw’n isel, fe allwch chi weld patrwm hanner cylch yn y creigiau ar hyd y blaendraeth. Dyma ble mae erydiad morol wedi torri trwy frig anticlin (uwchblygiad) i ffurfio llwyfandir a dorrwyd gan donnau. Yn y clogwyni gerllaw, mae yna hen dwnelau mwynau, sydd bellach wedi eu ffensio i ffwrdd.
Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Parcio yn Wiseman’s Bridge (Cyfeirnod Grid: SN14530610)
Safle bysiau gwasanaeth. Parcio anffurfiol, cyfyngedig iawn wrth y banc o gerrig crynion. Os yw’r tywydd yn stormus, peidiwch â pharcio yma pan fydd y llanw’n uchel – mae’r cerrig yn gallu cael eu taflu ar draws yr heol gan y môr tymhestlog. Toiledau. Blwch ffôn. Llwybrau troed mewndirol i Stepaside.
Gwybodaeth
Wisemans Bridge (Cyfeirnod Grid: SN14710610)
Ar y traeth hwn y cynhaliwyd ymarferion graddfa lawn glaniadau D-Day ym mis Awst 1943. Daeth Churchill ac Eisenhower ill dau i wylio’r digwyddiad. Yn gynnar yn y 19eg ganrif, allforiwyd glo a mwynglawdd haearn oddi yma.
Traeth
Traeth Wiseman’s Bridge (Cyfeirnod Grid: SN14710610)
Traeth canolig o dywod a chreigiau. Mae’n ymuno â thraethau Saundersfoot a Llanrhath pan fydd y llanw’n isel.
Cyflesterau
Tafarn y Wiseman’s Bridge (Cyfeirnod Grid: SN14750622)
Llety Gwely a Brecwast. Bwyd a chwrw gyda golygfeydd.
Rhybudd
Heol Wiseman’s Bridge (Cyfeirnod Grid: SN14730632)
Perygl. Adran 250m ar heol gul, brysur, heb balmant.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Cadeiriau Olwyn Wiseman’s Bridge i Lanrath (Cyfeirnod Grid: SN15060653)
Wiseman’s Bridge i Lanrhath (Hen Heol yr Arfordir) SN160070. Trac beicio ag arwyneb wedi’i selio tua 3m o led; dim graddiannau croes. Adran gyntaf o’r ardal parcio uwchlaw Wiseman’s Bridge yn codi’n ysgafn, 1 mewn 12. Ar y pen dwyreiniol mae’r llwybr yn disgyn yn fwy serth, tua 1 mewn 8 am 60m. Giât ar bob pen. Ar ôl cael cymorth i ddod dros yr adran serth, byddai isradd hir o tua 1 km wrth deithio o’r dwyrain i’r gorllewin. 1 sedd. Toiledau yn Wiseman’s Bridge a Llanrhath. Llwybr cadeiriau olwyn 0.75 km; Antur 250m.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Wiseman’s Bridge i Lanrath (Cyfeirnod Grid: SN15240668)
SN15460679. Dau lwybr troed byr yn cysylltu at heol yr arfordir.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Cyffordd y Llwybr Beicio Celtaidd (Cyfeirnod Grid: SN15890694)
Heol wen (llwybr ceffylau) (Llwybr Beicio Celtaidd) yn ymuno â llwybr yr arfordir.
Cyflesterau
Pentref Llanrath (Cyfeirnod Grid: SN16170700)
Pentref glan-môr â gwasanaethau cyfyngedig. Llety Gwely a Brecwast. Tafarndai. Siop. Caffi. Bwyty. Safle bysiau gwasanaeth. Toiledau.
Traeth
Traeth Llanrath (Cyfeirnod Grid: SN16260697)
Traeth tywodlyd mawr gydag amddiffynfeydd enfawr. Ymuno â thraethau Saundersfoot a Thelpyn pan fydd y llanw’n isel.
Gwybodaeth
Llanrath (Cyfeirnod Grid: SN16170700)
Datblygodd Llanrhath fel pentref glofaol. Mae Castell Llanrhath yn dŷ o’r 18fed ganrif a adeiladwyd ar safle amddiffynfa ganoloesol. Ar un adeg, roedd yna res o fythynnod ar ochr yr heol sydd agosaf at y môr, ond cawsant eu golchi i ffwrdd gan stormydd yn y 1930au. Pan fydd y llanw’n isel, fe allwch weld mawn a bonion coed ychydig oddi ar y lan. Dyma olion coetir hynafol, a foddwyd wrth i lefelau’r môr godi ar ddiwedd yr Oes Ia, rhwng 10,000 a 5,000 o flynyddoedd yn ôl.
Cyflesterau
Temple Bar (Cyfeirnod Grid: SN16190702)
Bwyd a chwrw.
Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Maes Parcio Llanrath (Cyfeirnod Grid: SN16270707)
Parcio cyfyngedig ar lan y môr a safle bysiau ar ben gorllewinol y pentref. Maes parcio bach, rhad ac am ddim y Parc Cenedlaethol, ymhellach ymlaen – cymerwch y troad cyntaf ar y chwith yn y pentref (wrth deithio tua’r dwyrain), ac yna trowch i’r chwith eto.
Cyflesterau
Tafarn yr Amroth Arms (Cyfeirnod Grid: SN16380706)
Bwyd a chwrw.
Traeth
Traeth y Castell, Llanrath (Cyfeirnod Grid: SN16940709)
Traeth tywodlyd mawr â bariau pren i fesur erydiad. Posib cerdded i Ben Tywyn (7km) neu Saundersfoot (3km) pan fydd y llanw’n isel.
Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Castell Llanrath (Cyfeirnod Grid: SN16720715)
Safle bysiau gwasanaeth. Parcio anffurfiol, cyfyngedig iawn wrth ymyl yr heol. Rhybudd: Yn ystod stormydd deheuol, pan fydd y llanw’n uchel, mae’r môr yn codi cerrig o’r banc o gerrig crynion ac yn eu taflu ar draws yr heol – nid yw’n ddoeth parcio ger y fan hon ar adegau felly.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Marciwr Dechrau / Diwedd (Cyfeirnod Grid: SN17270724)
Os nad ydych wedi cael digon ar gerdded yr arfordir, mae Llwybr Arfordir Bae Caerfyrddin yn dechrau / gorffen yn Nhelpyn – 0.6 milltir i’r dwyrain. Ar yr adran rhwng Telpyn a Phen Tywyn mae yna odiroedd hyfryd, heb eu datblygu neu draeth gwastad arall (Cyngor Sir Gâr sy’n cynnal Llwybr Arfordir Bae Caerfyrddin).
Cyflesterau
Tafarn y New Inn (Cyfeirnod Grid: SN17270728)
Bwyd a chwrw.
Gweld yr adran hon ar Street View
Skrinkle Haven (Cyfeirnod Grid: SS080976)
Dilynwch Côd Diogelwch Llwybr yr Arfordir
- Cymerwch ofal ar Lwybr yr Arfordir – mae'n dir garw, naturiol
- Cadwch at y llwybr, i ffwrdd oddi wrth ymylon y clogwyni a throsgrogau
- Goruchwyliwch blant ar bob adeg, yn enwedig ger ymylon y clogwyni
- Mae arwynebau cerdded yn gallu amrywio'n sylweddol yn ôl y tywydd. Gwisgwch esgidiau cryfion gyda gafael dda a chynhalwyr pigyrnau bob amser
- Gwisgwch ddillad cynnes sy'n dal dŵr, neu dewch â hwy gyda chi
- Mae'n gallu bod yn beryglus cerdded at gopa clogwyni mewn gwyntoedd uchel
- Byddwch yn ofalus wrth dorri ar draws traethau i arbed amser - efallai y gallai'r llanw eich ynysu. Mae nofio'n gallu bod yn beryglus hefyd
- Peidiwch ag eistedd o dan glogwyni na'u dringo
- Cadwch eich cŵn dan reolaeth agos
- Rheolir Llwybr yr Arfordir ar gyfer cerddwyr; nis yw'n ddiogel nac yn gyfreithlon marchogaeth na beicio ar hyd mwyafrif Llwybr yr Arfordir
- Gadewch y clwydi a'r eiddo fel y cawsoch nhw
- Cofiwch nad yw signal ffôn symudol yn ddibynadwy ar yr arfordir.