I'r Gogledd-orllewin o Niwgwl, mae yna gyfres o fryniau serth iawn gyda hyd at 100 o risiau. I'r De o Niwgwl, mae yna gyfres o fryniau llai serth wrth i'r 'Havens' dorri'r llwyfandir. Nid oes unrhyw sticlau ar yr adran hon.
1. Solfach Isaf i’r Gribin 0.4 Milltir (0Km)
Mae’r llwybr yn codi i fyny trwy goetir sy’n edrych dros yr harbwr. Sylwch ar yr odynnau galch ger yr harbwr, hefyd olion safle anheddiad o’r Oes Haearn ar y copa. 10 o risiau.
Cymeriad y daith: Sticlau, resi o staerau neu fryniau serth.
Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Arosfan Bysiau Gwaelod Solfach (Cyfeirnod Grid: SM806244)
Arosfan bysiau ar y brif stryd (Y Pâl Gwibio – dychwelyd dair gwaith y dydd – Tyddewi i Aberdaugleddau). Maes parcio mawr, rhad ac am ddim, y Parc Cenedlaethol. Toiled hygyrch.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybrau’r Gribin 1 (Cyfeirnod Grid: SM805242)
Cyfres o lwybrau sy’n ymuno, gyda chyfle i gymryd teithiau cylch byr o amgylch Solfach gyda golygfeydd da o’r dref a’r harbwr.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybrau’r Gribin 2 (Cyfeirnod Grid: SM802239)
Cyfres o lwybrau sy’n ymuno, gyda chyfle i gymryd teithiau cylch byr o amgylch Solfach gyda golygfeydd da o’r dref a’r harbwr.
2. Y Gribin i Borthmynawyd 2.1 Milltir (3.22km)
Dramatic views towards Ramsey, Newgale and across St Brides Bay. This section has steep hills with many steps at each end and gentle gradients between. Grazing cattle usually west of Dinas Fawr. 5 kissing gates, 3 wicket gates, 140 steps.
Cymeriad y daith: Sticlau, resi o staerau neu fryniau serth.
Traeth
Traeth Gwadn (Cyfeirnod Grid: SM802237)
Traeth tywodlyd canolig gyda banc o gerrig crwn.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Gwadn i Llaneilw (St Elvis) (Cyfeirnod Grid: SM803238)
Cyfle i ddychwelyd tua’r tir at Solfach, trwy’r Gribin, a chylch daith mwy o faint trwy Lochvane a Phorthmynawyd. Cyswllt hefyd at y brif ffordd trwy drac mynediad fferm.
Rhybudd
St Elvis Ymyl y Clogwyn Heb ei Amddiffyn (Cyfeirnod Grid: SM810236)
Ymylon y clogwyni’n erydu. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Rhannau eithaf hir o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Porth y Bwch i St Elvis (Cyfeirnod Grid: SM812236)
Porth y Bwch (Dinas Fawr). Cyfle i ddychwelyd tua’r tir at Solfach, trwy’r Gribin, cylch daith hirach trwy Lochvane a Phorthmynawyd. Cyswllt hefyd at brif ffordd trwy drac mynediad fferm.
Rhybudd
Llwybr Dinas Fawr (Cyfeirnod Grid: SM813231)
Osgowch unrhyw demtasiwn i ddefnyddio’r llwybr ar hyd Dinas Fawr. Oherwydd erydiad arfordirol, mae’n beryglus iawn. Nid yw’r llwybr hwn yn rhan o’r Llwybr Cenedlaethol, er bod rhai mapiau’n dangos ei fod.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Lochvane (Cyfeirnod Grid: SM822234)
Taith gylch fer trwy Gastell Pointz, neu un hirach trwy Lochvane.
Rhybudd
Ymyl y Clogwyn Heb ei Amddiffyn (Cyfeirnod Grid: SM822231)
Ymyl y Clogwyn Heb ei Amddiffyn. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Rhai rhannau o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.
3. Porthmynawyd i Niwgwl 1.8 Milltir (3.22km)
Mae’r golygfeydd yn parhau i fod yn drawiadol, fel y craig-ffurfiadau arfordirol. Pump darn serth i fyny ac i lawr gyda grisiau, ac felly mae hon yn adran egniol. Os ydych yn ei gyrraedd trwy lwybr Cwm Bach, mae yna daith ysgafnach ar gopa’r clogwyn. 2 giât mochyn, 3 giât wiced, 250 o risiau.
Cymeriad y daith: Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Castell Pointz (Cyfeirnod Grid: SM826232)
Dargyfeiriwyd y llwybr hwn yn gyfrethlon yn ddiweddar, dilynwch yr arwyddion ar y safle. Mae’n gyswllt byr at y brif ffordd (ble mae yna fan-tynnu-i-mewn). Mae’r llwybr hwn yn cynnig taith gylch hanner diwrnod llawn o amgylch Solfach, gan ddychwelyd trwy Gastell Pointz, Lochvane a St Elvis, isffordd, lonydd gwyrdd ac ymyl cae.
Traeth
Traeth Porthmynawyd (Cyfeirnod Grid: SM826229)
Cildraeth bach tlws, yn aml heb unrhyw un yno. Lle da i nofio pan na fydd y llanw i mewn yn llwyr. Traeth tywodlyd gyda banc o gerrig crwn.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Cwm Bach (Cyfeirnod Grid: SM840231)
Dargyfeiriwyd y llwybr hwn yn gyfreithlon yn ddiweddar, dilynwch yr arwyddion ar y safle. Cyswllt byr at y brif ffordd.
Traeth
Cwm Mawr (Traeth Pen y Cwm) (Cyfeirnod Grid: SM842228)
Traeth bach i ganolig gyda thywod a chreigiau. Rhybudd – mae yna glogwyni uchel, ansefydlog wrth gefn y traeth! Mae’n ymuno â thraeth enfawr Niwgwl pan fydd y llanw’n isel.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybrau Cwm Mawr i Ben y Cwm (Cyfeirnod Grid: SM843228)
Er bod tri llwybr wedi’u marcio ar y map, dim ond y llwybr dwyreiniol sy’n rhoi mynediad didrafferth i’r brif ffordd. Defnyddiwch y llwybr hwn (trac mynediad) fel y llwybr byraf at Hostel Ieuenctid YHA White House.
Gwybodaeth
Cwm Mawr (Cyfeirnod Grid: SM843229)
Cwm Mawr yw hen safle’r gwaith briciau a ddefnyddiai’r clai golau sydd i’w weld yno.
Rhybudd
Clogwyni Cwm Mawr (Cyfeirnod Grid: SM844227)
Ymyl y Clogwyn Heb ei Amddiffyn. Ymylon y clogwyni’n ansefydlog ac yn erydu. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Rhannau byr o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.
4. Traeth Niwgwl 1.1 Milltir (1.61km)
Mae llwybr dynodedig Llwybr yr Arfordir ar yr heol. Ond, opsiwn llawer mwy dymunol yw tynnu’ch esgidiau a cherdded ar ymyl y tonnau, gan wylio syrffwyr a physgod bach fflat yn y dŵr bâs. I osgoi problemau wrth fynd i’r de o Niwgwl, mae’n well ailymuno â’r heol wrth y maes parcio deheuol. Mae Llwybr yr Arfordir yn gadael yr heol ar ôl 450m.
Cymeriad y daith: Ffordd.
Cyflesterau
Pentref Niwgwl (Cyfeirnod Grid: SM847223)
Caffi, meysydd pebyll, tafarn. Hurio dillad syrffio a gwersi syrffio, hufen iâ, toiled.
Cyflesterau
Tafarn y Duke of Edinburgh (Cyfeirnod Grid: SM848221)
Bwyd a chwrw.
Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Arosfan Bysiau Niwgwl (Cyfeirnod Grid: SM848221)
Wrth Dafarn y Duke of Edinburgh. Y Pâl Gwibio – dychwelyd dair gwaith y dydd – Tyddewi i Aberdaugleddau.
Traeth
Traeth Niwgwl (Cyfeirnod Grid: SM847219)
Traeth tywodlyd hir sy’n boblogaidd ymhlith syrffwyr, syrffwyr gwynt a nofwyr. Nid yw dyfroedd Bae San Ffraid yn rhy oer o fis Gorffennaf ymlaen, ac maen nhw’n gallu bod yn eithaf cynnes pan fydd y llanw’n dod i mewn a’r môr wedi tynnu gwres wrth y tywod. Gallwch gerdded ar y traeth yr holl ffordd o Gwm Mawr i Trefrane, ond dim ond pan fydd y llanw’n isel iawn oherwydd mae yna berygl y gallech gael eich torri i ffwrdd – mae angen gwybodaeth o’r llanw.
Gwybodaeth
Traeth Niwgwl (Cyfeirnod Grid: SM847219)
Mae’r traeth gwych hwn, sy’n ymestyn am dros 3 km (2 filltir), yn boblogaidd ymhlith trigolion ac ymwelwyr. Crewyd y grib hir o gerrig mân wrth i lefelau’r môr godi ar ddiwedd Oes yr Iâ. Mae’n cynnwys creigiau o ardal Tyddewi a hyd yn oed o’r Alban, a gludwyd tua’r de gan haenen iâ Môr Iwerddon. Weithiau, gellir gweld boncyffion du coedwig a foddwyd oddi ar ochr ogleddol y traeth pan fydd y llanw’n isel. Mae Niwgwl dan fygythiad parhaus gan y môr. Roedd tafarn gwreiddiol y Duke of Edinburgh ar ochr yr heol sydd agosaf at y môr, ond fe’i golchwyd i ffwrdd gan storom yn 1896. Mae nant y Brandy Brook, sy’n llifo i’r môr yma, yn cynrychioli ochr orllewinol Llinell y Landsger, sef cyfres o wrthfuriau Normanaidd sy’n dal i nodi’r ffin ddiwylliannol rhwng y gogledd Cymraeg ei iaith a’r de Saesneg ei iaith yn Sir Benfro.
Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Maes Parcio Traeth Niwgwl (Cyfeirnod Grid: SM850217)
Maes parcio mawr Cyngor Sir Penfro, tâl. Toiled hygyrch.
Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Arosfan Bysiau De Traeth Niwgwl (Cyfeirnod Grid: SM853210)
Arosfan bysiau Pebbles – (Y Pâl Gwibio – dychwelyd dair gwaith y dydd – Tyddewi i Aberdaugleddau). Maes parcio mawr y Parc Cenedlaethol. Toiled.
Cyflesterau
Caffi Pebbles (Cyfeirnod Grid: SM853210)
Caffi Tymhorol, sydd hefyd yn gwerthu nwyddau ar gyfer y traeth. Golygfeydd gwych.
Rhybudd
De Niwgwl (Cyfeirnod Grid: SM850209)
Mae’r llwybr sydd wedi’i farcio ar y mapiau, o ben deheuol Traeth Niwgwl i safle Pwll Glo Trefrane, yn un serth iawn, ac yn croesi creigiau llyfn a sgri ansefydlog – nid oes arwydd. Nid ydym yn argymell y llwybr hwn. Mae yna berygl y gallech anelu i’r de, gan fwriadu defnyddio llwybr Trefrane, ond yna penderfynu nad ydyw’n addas i chi, a gallai’r llanw fod wedi eich torri i ffwrdd a’ch hatal rhag dychwelyd i Niwgwl. I osgoi problemau wrth anelu i’r de o Niwgwl, mae’n well ailymuno â’r heol wrth faes parcio Pebbles. Mae Llwybr yr Arfordir yn gadael yr heol ar ôl 450m.
5. Niwgwl i Nolton Haven 1.9 Milltir (3.22km)
Adran fer sy’n gofyn llawer gan y cerddwr, oherwydd pedwar bryn serth iawn, ond gellir mynd at rhannau ysafnach y llwybr o faes parcio Maidenhall ar lwybr Trefrane. 2 giât mochyn, 4 giât wiced, 9 o risiau. Mae ceffylau’n pori’r godiroedd uwchben Maidenhall, gwartheg yn Nhrefrane. Views of the full length of Newgale and of the cliffs all the way to Ramsey.
Cymeriad y daith: Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1.
Rhybudd
Clogwyni Maidenhall (Cyfeirnod Grid: SM854206)
Ymyl y Clogwyn Heb ei Amddiffyn. Ymylon y clogwyni’n erydu. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Rhai rhannau o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Maes Parcio Maidenhall (Cyfeirnod Grid: SM856200)
Cyswllt trwy lwybr byr â chaniatâd (nid yw’n ymddangos ar unrhyw fapiau) at faes parcio rhad ac am ddim, maint canolig, y Parc Cenedlaethol wrth ochr heol yr arfordir.
Rhybudd
Llwybr Anodd (Cyfeirnod Grid: SM855197)
Llwybr wedi’i farcio ar y mapiau o ochr ddeheuol Traeth Niwgwl i Bwll Glo Trefrane. Mae’n llwybr serth iawn, yn croesi creigiau llyfn a thir ansefydlog. Nid ydym yn argymell dilyn y llwybr hwn. Byddech yn debygol iawn o syrthio yma, yn enwedig os ydych yn cario gwarbac (backpack). Perygl arall yw’r posibilrwydd o gael eich torri i ffwrdd gan y llanw cyn dod o amgylch Pwynt Maidenhall.
Gwybodaeth
Gwythiennau Glo – Niwgwl (Cyfeirnod Grid: SM857196)
O Niwgwl i ychydig y tu hwnt i Little Haven, mae’r clogwyni wedi’u torri’n bennaf i mewn i’r Gwythiennau Glo, a ffurfiwyd rhyw 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn ystod y cyfnod Carbonifferaidd. Cloddiwyd am lo yn Niwgwl mor gynnar â’r 15fed ganrif. Mae olion pwll glo Trefran, a welir wrth simnai dal ei ystafell injan, yn edrych allan dros ben deheuol y traeth. Defnyddiwyd y pwll hwn o ganol y 19eg ganrif i 1905,ac roedd rhai o’i alerïau yn rhedeg o dan y môr. Llwythwyd y glo ar droliau ac fe’u tynnwyd gan injan dyniad i Nolton Haven i’w cludo ar gychod.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Trefrane (Cyfeirnod Grid: SM856195)
Cyswllt byr trwy lwybr at isffordd yr arfordir.
Rhybudd
Ricket’s Head (Cyfeirnod Grid: SM8552189)
Llethrau Caregog. Llethr serth a charegog – byddwch yn arbennig o ofalus mewn tywydd gwlyb. Gan fynd tua’r gogledd, dilynwch yr arwyddion – mae’r llwybr hwylus yn diweddu wrth glogwyn!
Rhybudd
Clogwyni Davey Williams Haven (Cyfeirnod Grid: SM856185)
Ymyl y Clogwyn Heb ei Amddiffyn. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Rhan fer o’r llwybr yn agos at ymyl y clogwyn.
6. Nolton Haven i Druidston Haven 1.4 Milltir (1.61km)
Mae yna glogwyni serth iawn ar yr adran hon ac mae erydiad yn bygwth y Llwybr Cenedlaethol. Mae yna raddiannau ysgafn ar y llwybr dros y clogwyni ac eithrio’r disgyniad serth gyda grisiau i Druidston Haven. 0 sticil, 45 o risiau. Mewn mannau, mae Llwybr yr Arfordir yn agos at glogwyni cafniog – osgowch y demtasiwn i edrych dros yr ymyl! Sylwch ar y garreg fawr sy’n sownd mewn gyli.
Cymeriad y daith: Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1
Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Arosfan Bysiau Nolton Haven (Cyfeirnod Grid: SM859186)
Arosfan bysiau (Y Pâl Gwibio – dychwelyd dair gwaith y dydd – Tyddewi i Aberdaugleddau). Maes parcio rhad ac am ddim, maint canolig. Toiled. Tafarn. Stablau.
Traeth
Traeth Nolton Haven (Cyfeirnod Grid: SM858185)
Traeth bach tywodlyd cysgodol.
Cyflesterau
Tafarn y Mariners Inn (Cyfeirnod Grid: SM859185)
Gwely a Brecwast. Cwrw a bwyd.
Rhybudd
Tanglogwyni (Cyfeirnod Grid: SM857182)
Ymyl y Clogwyn Heb ei Amddiffyn. Ymylon y clogwyni’n erydu. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Rhannau eithaf hir o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Dianc Madoc’s Haven (Cyfeirnod Grid: SM859179)
Codiad serth ac anodd o’r traeth – hynod o beryglys i fynd i lawr y ffordd yma. Nid ydym yn ei argymell o gwbl. Byddwch yn ofalus rhag y creigiau llyfn a llithrig.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr o Druidston Haven i’r Heol (Cyfeirnod Grid: SM862172)
Mynediad traeth y Gogledd. Cyswllt trwy lwybr byr at isffordd yr arfordir. Grwpiau mawr o geffylau’n ei ddefnyddio.
Traeth
Traeth Druidston (Cyfeirnod Grid: SM860171)
Mae Druidston yn draeth arall sy’n dda i nofio pan na fydd y llanw i mewn yn llwyr, er, mae grwpiau o farchogion yn aml yn trotian ar draws y traeth. Traeth tywodlyd o faint canolig ar gefndir o glogwyni ansefydlog.
Gwerth Edrych
Malator neu’r ‘Tŷ Tele Tubby’ (Cyfeirnod Grid: SM863171)
Tŷ modern anarferol o dan y ddaear.
7. Druidston Haven i Druidston Chins 0.6 Milltir (1.61km)
Mae adran y Gogledd ar isffordd gul heb unrhyw balmant. Mae’r adran ddeheuol yn croesi caeau ac mae yna raddiannau bach. Mae’r adran ddeheuol yn llwybr newydd oddi ar yr heol (nid yw wedi’i farcio ar rai mapiau). 0 sticil, 3 giât wiced, 5 o risiau. Mae asyn a defaid yn pori’r caeau hyn.
Cymeriad y daith: Sticlau, resi o staerau neu fryniau serth.
Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Arosfan Bysiau Druidston Haven (Cyfeirnod Grid: SM863170)
Arosfan bysiau (Y Pâl Gwibio – dychwelyd dair gwaith y dydd – Tyddewi i Aberdaugleddau). Cyffordd gydag isffordd yr arfordir. Parcio cyfyngedig iawn wrth ochr yr heol. RHYBUDD: os ydych yn parcio yma, cofiwch fod tractorau a threlars mawr gydag ymylon caled hefyd yn defnyddio’r heol!
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Pentref Druidston (Cyfeirnod Grid: SM864170)
Mae’r llwybr tua’r tir yn cynnig llwybr cylch byr.
Cyflesterau
Druidston Hotel (Cyfeirnod Grid: SM862168)
Gwesty a bwyty gyda golygfeydd da.
Rhybudd
Druidston Villa (Cyfeirnod Grid: SM862168)
Dilynwch arwyddion Llwybr yr Arfordir ar hyd yr heol – mae’r llwybrau o amgylch y plas yn apelio ond maen nhw’n rhai preifat ac nid ydyn nhw’n cysylltu at y llwybrau cyhoeddus!
8. Druidston Chins i Black Point 1.1 Milltir (1.61km)
Mae’r tua 300m gogleddol ag arwyneb ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae’r tua 1km deheuol wedi cael ei ailraddio’n ddiweddar ac nid oes unrhyw rwystrau wedi’u cyflwyno i gadeiriau olwyn. 3 giât wiced, dim sticlau, dim grisiau, graddiannau ysgafn. Weithiau mae gwartheg a cheffylau’n pori rhwng y giatiau. Golygfeydd gwych ar draws Druidston Haven tuag at Niwgwl ac ar draws Bae San Ffraid.
Cymeriad y daith: Adeiladwyd y llwybr i Safon ‘BT’ ar gyfer cadeiriau olwyn.
Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Maes Parcio Haroldston Chins (Cyfeirnod Grid: SM861164)
Cyswllt byr ar hyd llwybr sydd ag arwyneb, at isffordd yr arfordir, a maes parcio bach iawn i bobl sydd â bathodyn glas.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Haroldston Chins i Gadeiriau Olwyn (Cyfeirnod Grid: SM861164)
Parciwch yn y maes parcio bach wrth ymyl yr ail grid gwartheg ar yr isffordd o Broad Haven i Druidston Haven. Llwybr asffalt ac yna cerrig wedi’u rholio; dim goleddf croes o bwys. 20m diwethaf heb fod yn fwy serth nag 1 mewn 12; gweddill y llwybr heb fod yn fwy serth nag 1 mewn 20, gyda’r rhan fwyaf tua 1 mewn 50. Mae’r llwybr hwn wedi ennill Gwobr Cefn Gwlad i Bawb BT. Dau fan gwylio, un ar ôl 130m a’r llall ar ôl 370m, a seddau tua 130m, 210m a 370m. Toiledau ym meysydd parcio Broad Haven a Nolton.
Cadeiriau Olwyn 130m, Antur 240m.
Rhybudd
Clogwyni Haroldston (Cyfeirnod Grid: SM861163)
Ymylon y clogwyni’n erydu. Cadwch at y llwybr. Mae nifer o graciau wedi agor tua’r tir o’r clogwyn!
Gwerth Edrych
Haroldston Chins (Cyfeirnod Grid: SM860161)
Haroldston Chins – Man gwylio gyda sedd o flociau o garreg galch, wedi’i mewnforio. Mae’r Chins yn gyfres o slipiau cylchdro sy’n symud yn rhyfeddol tua’r môr.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Mynediad Hwylus Haroldston Chins (Cyfeirnod Grid: SM860161)
Haroldston Chins tua’r de SM860161. Lefelwyd 1200m pellach tuag at Broad Haven ac fe’i ailraddiwyd, ond nid ydyw wedi cael arwyneb newydd. Mewn mannau mae’r llwybr yn rychiog ac mae yna raddiannau byr sy’n fwy serth nag 1 mewn 10. (Mae cadair olwyn fodur ‘Sterling EX3 (Classic)’ wedi ei daclo heb unrhyw drafferth). Dau giât. Tua 900m ar hyd y darn garw mae yna Gaer o’r Oes Haearn sy’n llithro i’r môr. Toiledau ym meysydd parcio Broad Haven a Nolton. Llwybr Mynediad Hwylus 1.2 km.
Gwerth Edrych
Caer Benrhyn Black Point o’r Oes Haearn (Cyfeirnod Grid: SM860152)
Caer Benrhyn o’r Oes Haearn, un o dros 50 o safleoedd aneddiadau Neolithig i’w gweld ar hyd Llwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro. Mae’r pentir hwn, gyda’i gaer, yn llithro’n araf i’r môr. Mae’r tirlithriad wedi bod ar waith ers y 1940au. Credir yn lleol ei fod wedi dechrau o ganlyniad i dorpido neu ffrwydryn coll, ond mae ffactorau daearegol ac erydiad y môr yn ddigon o esboniad. Wrth i chi barhau tua’r de, edrychwch yn ôl i weld golygfeydd gwych o’r gyli anferth a agorodd ar hyd un o blanau methiant y tirlithriad. Sylwch ar y ffos allanol drawiadol mewn craig solid.
9. Black Point i Aberllydan 0.5 Milltir (0Km)
Bryn hir – hanner milltir gyda graddiant o 1:10 – gyda golygfeydd ar hyd y traeth – sylwch ar y craig-ffirfiadau tua’r môr, sydd wedi’u llunio gan y tywydd. 2 giât mochyn, 0 sticil, 5 o risiau. Mae ceffylau’n pori rhwng y giatiau weithiau.
Cymeriad y daith: Sticlau, resi o staerau neu fryniau serth.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Coed Haroldston (Cyfeirnod Grid: SM860149)
Cyswllt byr ar lwybr troed â chaniatâd, i isffordd yr arfordir, gyda chyfle i ddilyn taith gylch o amgylch Broad Haven, trwy Goed Haroldston.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr De Haroldston (Cyfeirnod Grid: SM861145)
Cyswllt byr ar hyd llwybr troed i isffordd yr arfordir.
Rhybudd
Clogwyni Gogledd Broad Haven (Cyfeirnod Grid: SM860141)
Ymyl y Clogwyn Heb ei Amddiffyn. Ymylon y clogwyni’n erydu. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Rhannau byr o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.
Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Mynediad Hwylus Carn Llew (Lion Rock) (Cyfeirnod Grid: SM860141)
Carn Llew (Lion Rock), Broad Haven, tua’r gogledd SM860141. O’r man parcio wrth ymyl yr heol (dau neu dri char) ar y bryn i’r gogledd o Broad Haven, mae llwybr pridd yn cwrdd â’r palmant. Adran yn codi’n ysgafn am 200m, llethr bach iawn i’r ochr, ond mae’n dod yn eithaf serth am 50m cyn cyfres o risiau carreg. Meddal mewn mannau heblaw am adegau o dywydd sych iawn. Toiledau y meysydd parcio Broad Haven.
Gweld yr adran hon ar Street View
Solva (Cyferinod Grid: SM805242)
Dilynwch Côd Diogelwch Llwybr yr Arfordir
- Cymerwch ofal ar Lwybr yr Arfordir – mae'n dir garw, naturiol
- Cadwch at y llwybr, i ffwrdd oddi wrth ymylon y clogwyni a throsgrogau
- Goruchwyliwch blant ar bob adeg, yn enwedig ger ymylon y clogwyni
- Mae arwynebau cerdded yn gallu amrywio'n sylweddol yn ôl y tywydd. Gwisgwch esgidiau cryfion gyda gafael dda a chynhalwyr pigyrnau bob amser
- Gwisgwch ddillad cynnes sy'n dal dŵr, neu dewch â hwy gyda chi
- Mae'n gallu bod yn beryglus cerdded at gopa clogwyni mewn gwyntoedd uchel
- Byddwch yn ofalus wrth dorri ar draws traethau i arbed amser - efallai y gallai'r llanw eich ynysu. Mae nofio'n gallu bod yn beryglus hefyd
- Peidiwch ag eistedd o dan glogwyni na'u dringo
- Cadwch eich cŵn dan reolaeth agos
- Rheolir Llwybr yr Arfordir ar gyfer cerddwyr; nis yw'n ddiogel nac yn gyfreithlon marchogaeth na beicio ar hyd mwyafrif Llwybr yr Arfordir
- Gadewch y clwydi a'r eiddo fel y cawsoch nhw
- Cofiwch nad yw signal ffôn symudol yn ddibynadwy ar yr arfordir.