Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro oedd y cyntaf i'w hagor yng Nhgymru ym mis Hydref 1970. Mae 75% o'r Llwybr o fewn safleuoedd cadwraeth dynodedig ac 85% o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Mae’r Llwybr nid yn unig yn cynnig golygfeydd odidog a bywyd gwyllt anhygoel, rydych chi hefyd yn teithio drwy tirweddau a ddylanwad y bobl sydd wedi byw ynddi dros y canrifoedd.
Mae hwn yn ardal sydd wedi’i ffurfio i raddau helaeth o weithgareddau pysgota a ffermio, fel y dangosir gan yr aneddiadau arfordirol bach a’r dirwedd a ffermir.
Nid darparwyr bwyd yn unig oedd y pentrefi hyn; roeddent hefyd yn cysylltu Sir Benfro â’r môr – y priffordd fawr yn y dyddiau cyn ffyrdd a’r rheilffordd.
Ar hyd y Llwybr gwelir nifer fawr o olion o’r traddodiad arforol o’r cromlechi Neolithig a chaerau Oes Yr Haearn, i eglwysi a chapeli y Celtiaid cynnar, y seintiau a’r pererinion.
Cymrodd y Ficingiaid ddiddordeb yn yr ardal, fel a ddengys heddiw gyda enwau lleyfydd fel “Goodwick” ger Abergwaun, ac ynysoedd “Skomer” a “Skokholm.”
Mae enwau lleoedd ar hyd y Llwybr hefyd yn adlewyrchu’r rhaniad diwylliannol traddodiadol rhwng gogledd Cymreig y sir a ‘Little England’ yn y de.”
Cododd y Normaniaid gestyll mawreddog i ddangos eu hawdirdod, fel ym Mhenfro, Dinbych y Pysgod a Maenorbŷr. Mae’r cestyll hyn heddiw yn ein hatgoffa eu bod nhw, er gwaethaf eu lleoliad ar yr ymylon, wedi bod unwaith yn chwarae rhan flaenllaw yn nigwyddiadau mawr ein hanes.
Cafodd Harri Tudur (Harri VII) ei eni yng Nghastell Penfro, ac ar ôl cael ei alltudio i Ffrainc, glaniodd yn Mill Bay ger Dale yn 1485, ar ei ffordd i gipio’r goron ym mrwydr Bosworth. Yn y 17eg ganrif roedd y sir yn lleoliad gwrthdaro yn ystod y Rhyfel Cartref, gydag Oliver Cromwell yn gosod gwarchae ar Gastell Penfro.
Pan laniodd Ffrancod di-drefn ger Abergwaun ym 1797, fe’u maeddwyd gan wragedd lleol wedi gwisgo i fyny fel dynion, a Gŵyr y Gard o Gastellmartin. Ar hyd y Llwybr Cenedlaethol gwelir garreg heddiw, allan ar Garreg Wastad i ddanos y fan lle bu ymosodiad olaf y Ffrancod ar ein tir. Adeiladodd y Fictoriaid res o gaerau Napoleonaidd ar hyd arfordir y de ac ar gamlesi Aberdaugleddau, am fod ofn arnynt ymosodiad o’r Gorllewin.
Drwy gydol y 186 milltir o Lwybr gwelir olion o’r traddodiad diwydiannol – ceiau bach, odynnau calch, warysau, a safle gwaith brics ym Mhorthgain yng nghogledd Sir Benfro. Fodd bynnag, does dim llawer ar ôl ddangos beth oedd unwaith yn ddiwydiant glo llewyrchus yn y de.
Heddiw mae dyfrffordd Aberdaugleddau, gyda’i harbwr naturiol a wnaeth argraff mor fawr ar Nelson, yn dal i fod yn ganolbwynt diwydiannol.
Er bod nifer wedi cau, mae un byrfa olew dal ar agor, yn ogystal â dwy derfynell LNG a gorsaf bŵer nwy.
Nid ydy’r datblygiadau hyn â llawer o ddylanwad ar y rhan fwyaf o’r Llwybr, ond y diwydiant fwyaf a welir yw twristiaeth.
Tybed, yn yr ardaloedd tawel, anghysbell, gwyllt, lle welir ond adar yn bennaf, a’r morloi llwyd yn ymgartrefi o dro i dro, a fyddwch chi’n teimlo swyn Gwlad yr Hud a Lledrith?