Mae Llwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro yn pasio drwy rhai o gynefinoedd mwyaf arbennig Prydain fel clogwyni, pentiroedd, godiroedd, rhostiroedd a thwyni tywod
Mae’r hinsawdd cefnforol fwyn gyda’r phrif-wyntoedd de-orllewinol yn dylanwadu i greu amrywiaeth eang o gynefinoedd a nifer helaeth o wahanol rhywogaethau. Wrth gwrs, daw dylanwadau eraill, er enghraifft, o’r daeareg, y pridd, cyfeiriad mae’r clogwyni’n gwynebu, yn ogystal a bod yn agored i’r gwynt, glaw a’r halen.
Mae’r clogwyni a’r pentiroedd sy’n agored i gwynt yn llawn o halen, yn garped o flodau gwahanol yn y Gwanwyn, fel Seren y Gwanwyn, Clustog Fair, Gludlys Arfor a Llwynhidydd Arfor, ac ar ddiwedd Mai gwelir Clychau Glas a Clatsh y Cwn yn ymuno yn y wledd hefyd.
Rhywogaethau eraill a welir yw Pysen y Ceirw (Basged Bysgota), Plucen Felen, a Gruw Gwyllt, tra bod porfeydd gwyllt fel Peisgwellt Coch yn creu glaswellt meddal cysurus.
Ar gopa’r clogwyni gwelir Grug, Eithin a Rhedyn yn gryf, ac yn yr ardaloedd cysgodol mae olion helaeth o goedwigoedd arfordirol fel yr rhai a welir yn ‘Dale’ neu ‘Borough Head’.
Mae clogwyni creigiog y tir mawr a’r ynysoedd gerllaw, yn gartref i nifer fawr o adar y môr sydd yn nythu, ac sy’n bwysig yn genedlaethol ac yn gydwladol. Ar ynys Gwalas, er enghraifft, mae tua 32,000 o barau o Hugannod yn nythu, gyda Balod ac Adar Drycin Manaw niferus yn cartrefi ar ynysoedd Sgomer a Sgogwm.
Yr adar mwyaf cyfarwydd a welir ar gopa’r clogwyni yw’r Llurs, Gwylog, Gwylan Goesddu, Aderyn Drycin y Graig, gyda’r Mulfran , Mulfran Werdd, Fran Goesgoch a’r Gwalch Glas prin, heb son am lu o wahanol fathau o wylanod. Yn y llaid ar dir gwastad Bae ‘Angle’ neu ar hyd Afon Penfro, cartrefa gwahanol mathau o hwyaid a rhydwyr.
Bydd anifeiliaid megis Llwynogod, Cwningod a Wiwerod yn aml i’w gweld o’r llwybr, gyda nifer o dyllau Moch Daear hefyd. Yn ystod yr Hydref, yn y baeau cysgodol o dan y clogwyni, gwelir Morloi Llwydion, yn magu eu teulu bach, tra bod y dolffiniaid a’r Llamhidyddion i’w gweld yn nofio allan yn y môr.
Ar gopa’r clogwyni gwelir Grug, Eithin a Rhedyn yn gryf, ac yn yr ardaloedd cysgodol mae olion helaeth o goedwigoedd arfordirol fel yr rhai a welir yn ‘Dale’ neu ‘Borough Head’.
Mae clogwyni creigiog y tir mawr a’r ynysoedd gerllaw, yn gartref i nifer fawr o adar y môr sydd yn nythu, ac sy’n bwysig yn genedlaethol ac yn gydwladol. Ar ynys Gwalas, er enghraifft, mae tua 32,000 o barau o Hugannod yn nythu, gyda Balod ac Adar Drycin Manaw niferus yn cartrefi ar ynysoedd Sgomer a Sgogwm.
Yr adar mwyaf cyfarwydd a welir ar gopa’r clogwyni yw’r Llurs, Gwylog, Gwylan Goesddu, Aderyn Drycin y Graig, gyda’r Mulfran , Mulfran Werdd, Fran Goesgoch a’r Gwalch Glas prin, heb son am lu o wahanol fathau o wylanod.
Yn y llaid ar dir gwastad Bae ‘Angle’ neu ar hyd Afon Penfro, cartrefa gwahanol mathau o hwyaid a rhydwyr.
Bydd anifeiliaid megis Llwynogod, Cwningod a Wiwerod yn aml i’w gweld o’r llwybr, gyda nifer o dyllau Moch Daear hefyd.
Yn ystod yr Hydref, yn y baeau cysgodol o dan y clogwyni, gwelir Morloi Llwydion, yn magu eu teulu bach, tra bod y dolffiniaid a’r Llamhidyddion i’w gweld yn nofio allan yn y môr.