Wrth gynnal a chadw Llwybr yr Arfordir, nod Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw taro cydbwysedd rhwng ansawdd y profiad cerdded a diogelwch y cerddwr.
Mae’r Swyddog Llwybr Cenedlaethol yn archwilio holl Lwybr yr Arfordir bob blwyddyn, ac mae’r arolwg o’i gyflwr sy’n deillio o hynny’n cofnodi’r holl waith atgyweirio a thrwsio sydd angen ei gyflawni ac yn tynnu sylw at welliannau posibl hefyd.
Mae’r tri Rheolwr Warden Ardal yn cyflawni’r gwaith gan gadw mewn cysylltiad â’r holl dirfeddianwyr ar hyd yr arfordir. Mae pedwar Tîm o Wardeiniaid yn cyflawni’r gwaith ar Lwybr yr Arfordir. Caiff staff dros dro ychwanegol eu cyflogi dros yr haf er mwyn helpu i dorri’r tyfiant tymhorol a llystyfiant yr ymylon.
Mae Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn ariannu 100% o waith y Swyddog Llwybr Cenedlaethol, yn ogystal â’r gwaith gwella. Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru sy’n ariannu 75% o’r gwaith cynnal a chadw arferol, a’r Awdurdod Parc Cenedlaethol sy’n talu’r 25% sy’n weddill.
Mae cynnal a chadw Llwybr yr Arfordir yn waith y mae’n rhaid ei gyflawni drwy gydol y flwyddyn. Yn yr haf rydym yn torri llystyfiant yr ymylon. Pan na chaiff rhannau o Lwybr yr Arfordir ei bori, gall chwyn dyfu hyd at 1.5 metr o uchder a llesteirio’r llwybr yn gyflym iawn.
Un o atyniadau Llwybr yr Arfordir yw’r blodau gwyllt sydd i’w gweld ar ddechrau’r haf. Mae’r amrywiaeth o fflora yn ymylon y llwybr yn deillio o drefn dorri sydd heb newid yn y bôn ers deng mlynedd ar hugain.
Mae’r Timau o Wardeiniaid yn gwneud gwaith ardderchog i sicrhau bod y blodau gwyllt yn gwasgaru eu hadau i bob man drwy ddechrau torri mewn gwahanol lefydd bob blwyddyn. Oherwydd hynny, efallai bydd tyfiant cymharol uchel mewn rhai mannau cyn iddynt gael eu torri, felly rydym bob amser yn eich cynghori i wisgo dillad ac esgidiau addas.
Yn y gaeaf rydym yn cynnal a chadw eitemau mynediad megis arwyddbyst, gatiau, camfeydd a phontydd. Rydym hefyd yn cynnal a chadw’r arwyneb at ddraeniau a grisiau. O bryd i’w gilydd bydd rhannau o Lwybr yr Arfordir yn beryglus gan fod clogwyni wedi cwympo a bydd yn rhaid ailgyfeirio’r llwybr yn ôl i ganol y tir at dir mwy sefydlog.
Ein nod yw sicrhau mynediad mor hwylus â phosibl. Os gwnaethoch chi gerdded holl Lwybr yr Arfordir yn 1995, bu’n rhaid i chi groesi 536 o gamfeydd; yn 2005, roedd 249 ohonynt; heddiw, dim ond 38 sydd ar ôl. Felly mae bron i 500 o gamfeydd wedi’u disodli â gatiau neu wedi’u tynnu’n gyfan gwbl. Rydym yn ddiolchgar i’r holl dirfeddianwyr a ffermwyr am eu cydweithrediad i wella hygyrchedd Llwybr yr Arfordir.
Ein nod yw cadw Llwybr yr Arfordir mor naturiol â phosib, ac rydym hefyd yn ceisio sicrhau amrywiaeth o heriau a phrofiadau sy’n addas i bawb. Mae tua 4000 o risiau a dim ond pan fydd yn rhaid osgoi rhigolau wedi erydu ar arwyneb y llwybr y bydd yn rhaid eu defnyddio fel arfer. Mae’r 533 o arwyddbyst derw ar gyffyrdd ar hyd Llwybr yr Arfordir wedi’u cynllunio i beidio â tharfu ond i fod yn amlwg.
Rydym bob amser eisiau clywed am y pethau gorau a’r pethau gwaethaf am eich taith gerdded. Gallwch ebostio’r Swyddog Llwybr Cenedlaethol neu ffoniwch (01646 624800). Gallwch hefyd adolygu eich profiad ar TripAdvisor.