Wrth gerdded ar hyd Llwybr Cenedlaethol Parc Arfrodirol Sir Benfro rydych chi’n cerdded, nid yn unig drwy tirlun daearyddol, ond rydych chi hefyd yn cymryd taith drwy amser.
O gromlechi Neolithig i gaerau amlwg Oes yr Haearn, trwy adfeilion odynnau calch a hen gaerau harbwr i ganolfannau syrffio a phorthladdoedd fferi modern, mae’r Llwybr Cenedlaethol yn daith drwy hanes dynoliaeth dan ddylanwad y môr.
Hyd yn gymharodd ddiweddar – cyn ffyrdd a’r rheilffyrdd – y môr oedd y brif ffordd i Sir Benfro, gan ei bod hi’n amgylchynu’r sir ar dair ochr.
Wrth i chi gerdded heddiw ar hyd y llwybr, gwelwch lu o olion i’ch hatgoffa ogapeli ac eglwysi Celtaidd, seintiau a cherrig cestyll lle ymosododd y Normaniaid, caerau a adeiladwyd yn oes Victoria i amddiffyn Aberdaugleddau, Hyn i gyd yn dangos yn gryf y traddodiad arforol.
Mae’r pentrefi bach a welir ar hyd y llwybr yn rhoi cip olwg i ni o’r amser lle roedd pysgota a gwerthu o’r môr – hyd yn oed mewn rhai enghreifftiau smyglo – yn du hwnt o bwysig, a hyd yn oed heddiw mae gan rhai bobl stori neu ddwy i ddweud.
Cymrodd y Llyngesydd Nelson diddordeb mawr yn natblygiad aber Aberdaugleddau, ond cafodd Neyland sy’n gyfagos ei ddylanwadu gan Brunel, peiriannydd pwysig o oes Victoria.
Ond dyw hanes ddim yn aros yn llonydd i neb. Mae hanes yn cael ei greu heddiw gyda thwf y diwydiant twristaidd a datblygiadiau canolfannau gwyliau.
Er bod hyn yn arddangos yn newydd, mae Sir Benfro a’i lwybr arfordirol wedi croesawu ymwelwyr ers tro byd. Cerddodd miloedd o bererinion yn y Canol Oesoedd ar hyd y llwybr ar eu ffordd i’r Eglwys Gadeiriol yn Nhŷ Ddewi.
Er bod cerddwyr heddiw a gwahanol pen i’w taith efallai, meant i gyd yn dilyn yr un hen lwybr.