Mae’r llanwau uchaf yn gorchuddio rhannau o Lwybr yr Arfordir am ryw awr. Mae’n daith ychwanegol hir i fynd o’u cwmpas. Byddai’n well aros hyd nes i’r dŵr ddisgyn.
Mae’r rhain:
- Rhwng y Bont Haearn, Trefdraeth, a Thraeth Trefdraeth
- Bae Bullwell yn Popton, ger Angle.
- Point Lane, Angle.
Mewn dau fan, mae Llwybr yr Arfordir o dan bob llanw am dros chwe awr:
- Yn yr adran rhwng Dale ac Aberdaugleddau, mae yna ddau groesfan llanw isel yn y Gann a Sandy Haven. Gellir ond croesi’r rhain ddwy awr a hanner bob ochr i’r llanw isel.
- Mae’r llwybr llanw uchel ar gyfer pob un yn 4 milltir, y mwyafrif ar yr heol. Mae’n werth cyrraedd yr un cyntaf 3 awr cyn y llanw isel, er mwyn sicrhau digon o amser i groesi’r ddau.
- Fe allwch chi ddarllen tablau’r llanw ar-lein ar gyfer y tymor (mae’r rhain hefyd wedi eu cyhoeddi ym mhapur newydd Coast to Coast).
Rhybudd
Efallai y cewch eich temtio i ddilyn y traeth yn lle Llwybr yr Arfordir. Mae llawer o gerddwyr yn credu eu bod yn gallu ailymuno â Llwybr yr Arfordir ar ddiwedd y traeth.
Os oes llwybr, fe all fod yn anodd ei ddarganfod. Mae’r rhan fwyaf o’r llwybrau dianc hyn o’r traeth yn anodd iawn ac yn beryglus. Mae’r stormydd yn golchi’r droed i ffwrdd.
Erbyn i chi sylweddoli bod yn rhaid i chi fynd yn ôl efallai y bydd y llanw wedi eich torri i ffwrdd!
Caution
It is tempting to follow the beach instead of the Coast Path. Many walkers think that they can rejoin the Coast Path at the end of the beach.
If there is a path it can be hard to find. Most of these beach escape paths are very difficult and dangerous. The storms keep washing the foot away. By the time you realise that you have to go back you may be cut off by the tide!
Note that high pressure will reduce the height of high tides and low pressure systems with lift the tide up!