Hwyl hunllefus hanner tymor yng Nghastell Caeriw dros Galan Gaeaf
Mae Castell Caeriw, un o’r adeiladau mwyaf arswydus yn Sir Benfro, yn paratoi ar gyfer profiadau Calan Gaeaf bythgofiadwy dros hanner tymor, gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau gwefreiddiol i bob oed. O deithiau ysbryd dychrynllyd i anturiaethau adrodd straeon i ymgolli ynddynt, mae’r safle hanesyddol arobryn hwn yn cynnig rhywbeth i bawb yn ystod yr amser arswydus hwn o’r flwyddyn.
Caiff ymwelwyr iau gymryd rhan yn Helfa Hudolus y Dewin lle byddant yn chwilota ym mhob twll a chornel o’r Castell i ddod o hyd i eitemau hudolus cudd. Bydd y rhai sy’n dod o hyd i bob eitem yn ennill y teitl ‘Dewin Doeth’. Cynhelir yr helfa o ddydd Sadwrn 26 Hydref tan ddydd Sul 3 Tachwedd, rhwng 10am a 4pm. Mae’n costio £2 y plentyn, yn ogystal â’r pris mynediad safonol.
I’r rhai sy’n chwilio am antur fwy arswydus, mae’r Felin Arswydus yn ôl! Gwahoddir unrhyw un sy’n ddigon dewr i fentro i mewn i’r Felin Heli a chrwydro drwy ei choridorau tywyll, erchyll. Gyda bwganod brawychus yn llechu yn y cysgodion, argymhellir y profiad arswydus hwn ar gyfer plant 4 oed a hŷn, gyda disgresiwn y rhieni. Mae’r gweithgaredd hwn wedi’i gynnwys am ddim yn y pris mynediad arferol, a bydd ar agor o ddydd Sadwrn 26 Hydref tan ddydd Sul 3 Tachwedd. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn bob amser.
Gall teuluoedd hefyd fwynhau Taith Ysbrydion Calan Gaeaf, lle cânt glywed straeon sy’n ddigon i godi gwallt eich pen – am ddigwyddiadau dychrynllyd ac am achlysuron lle gwelwyd ysbrydion – wrth iddynt grwydro o gwmpas y castell. Cynhelir y daith o ddydd Llun 28 Hydref i ddydd Iau 31 Hydref, rhwng 4.30pm a 5.30pm, Mae tocynnau’n costio £8.50 i oedolion a £6.50 i blant 5 oed a hŷn. Rhaid archebu lle ymlaen llaw yn www.castellcaeriw.com
Am 1pm ddydd Llun 28 a dydd Mawrth 29 Hydref, bydd antur adrodd straeon ryngweithiol dan arweiniad yr awdur poblogaidd Oliver McNeil yn cael ei chynnal yn y Castell. Yn y digwyddiad The Storymaster’s Tales: Dracodeep Dungeon, bydd y cyfranogwyr yn rheoli tynged eu harwr mewn byd o ddreigiau, trysorau a maglau. Mae tocynnau ar gyfer y profiad unigryw hwn ar gael am £6 y pen. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn sy’n talu, a rhaid prynu tocynnau i’r Castell ar wahân.
Yn y Gweithdy Adrodd Stori: Wwsh ar y Brwsh, bydd gwrach ni yma yng Nghaeriw yn dod â stori boblogaidd Julia Donaldson yn fyw drwy ddigwyddiad rhyngweithiol llawn straeon, crefftau, a hud a lledrith. Bydd y sesiwn hudolus hon yn cael ei chynnal ddydd Iau 31 Hydref a dydd Gwener 1 Tachwedd am 11am a 2pm, a bydd yn costio £3 y plentyn. Rhaid archebu lle ymlaen llaw, a bydd angen talu pris mynediad safonol.
Yn olaf, i’r bobl ddewraf un, cynhelir Ymchwiliad Goruwchnaturiol Calan Gaeaf, dan arweiniad arbenigwyr o ‘Science Beyond the Grave’. Bydd cyfranogwyr yn defnyddio offer ymchwilio arloesol a dulliau traddodiadol, fel byrddau Ouija, i archwilio ochr oruwchnaturiol y Castell. Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal ddydd Iau 31 Hydref rhwng 6pm a 10pm, a bydd yn costio £40 y pen. Mae’n addas ar gyfer pobl 18 oed a hŷn, ac mae’n rhaid archebu lle ymlaen llaw.
Bydd Ystafell De Nest ar agor drwy gydol yr hanner tymor. Mae’n cynnig detholiad hyfryd o luniaeth a danteithion tymhorol blasus mewn lleoliad braf lle gall ymwelwyr ymlacio cyn parhau â’u hanturiaethau Calan Gaeaf.
I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu tocynnau, ewch i www.castellcaeriw.com