Adfer cennau coll yng nghoedwig law Geltaidd Sir Benfro

Posted On : 14/03/2025

Mae llwyddiant cen yn cael ei ddathlu mewn coedwig law hynafol yng Nghwm Gwaun diolch i ymdrechion cadwraeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae Cwm Gwaun yn un o drysorau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, sy’n enwog nid yn unig am ei ddiwylliant Cymreig a’r iaith Gymraeg, sydd â gwreiddiau mor ddwfn yno, ond hefyd am ei goedwig law Geltaidd hynafol. Mae’r dirwedd unigryw hon yn gartref i bum Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), pob un yn arwyddocaol yn genedlaethol am ei choetiroedd sy’n gyforiog o gen.

Mae cennau’n ffynnu mewn amgylcheddau llaith sydd wedi’u goleuo’n dda gydag aer eithriadol o lân. Ond, dros y degawdau diwethaf, mae’r ecosystemau bregus hyn wedi dirywio oherwydd newidiadau mewn arferion pori coetir traddodiadol ac effaith amaethyddiaeth a diwydiant ar ansawdd yr aer.

Cofnodwyd un o’r cennau mwyaf trawiadol, Llysiau’r Ysgyfaint y Coed (Lobaria pulmonaria), ar ddim ond pum coeden yn y dyffryn yn 2007. Ond, yn galonogol, mae arwyddion diweddar yn awgrymu bod amodau unwaith eto’n dod yn ffafriol o ran ei adferiad.

Digwyddodd rhywbeth pwysig iawn yn 2017 pan ddaeth un o Swyddogion Cadwraeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro o hyd i damaid bach o Lysiau’r Ysgyfaint y Coed ar y ddaear yn dilyn storm yn safle picnic Sychpant. Gan ddefnyddio rhwyd o fag ffrwythau, llwyddwyd i roi’r tamaid yn sownd mewn onnen gerllaw ac mae’n ffynnu yno byth ers hynny.  Arweiniodd y llwyddiant annisgwyl hwn at ymdrech ar raddfa fwy i adfer y rhywogaeth hanfodol hon.

Fel rhan o brosiect Cysylltu Natur 25×25, mae arbenigwr cen bellach wedi trawsblannu 46 o dameidiau bach o Lysiau’r Ysgyfaint y Coed i 20 o goed ar draws tri safle dethol yng Nghwm Gwaun. Dewiswyd y lleoliadau hyn yn dilyn arolygon trylwyr, a gadarnhaodd bod cennau eraill sy’n tyfu ar hen goed ac sydd ag anghenion tebyg o ran cynefin yn bresennol.

Mae pob coeden wedi cael ei mapio a’i labelu, gan ganiatáu i wirfoddolwyr fonitro cynnydd y trawsblaniadau yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod. Yn y pen draw, efallai y bydd y storm oedd yn gyfrifol am ddisodli tamaid o Lysiau’r Ysgyfaint y Coed yn helpu i anadlu bywyd newydd i gymunedau cen rhyfeddol Cwm Gwaun.

Dywedodd Mary Chadwick, Swyddog Cadwraeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, “Mae llysiau’r ysgyfaint y coed yn gen syfrdanol sy’n ymgorffori hanfod coedwigoedd glaw’r Iwerydd. Mae’n gyffrous cyfrannu at ei adferiad graddol ar draws Cwm Gwaun.

Caiff y prosiect hwn ei ariannu gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur a’i ddarparu gan y Gronfa Dreftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru.