Adnoddau dysgu newydd yn dod â Thirweddau Cymru i’r ystafell ddosbarth a’r tu hwnt

Posted On : 17/03/2025

Fe lansiwyd Tirlun yn y Senedd ddydd Iau 13 Mawrth, sef adnodd addysgiadol dwyieithog sydd wedi ei ddylunio i gysylltu plant o bob rhan o Gymru gydag wyth o dirweddau dynodedig. Bu dathlu yn y Senedd ddydd Iau i nodi'r cam cadarnhaol hwn ymlaen ym maes dysgu yn yr awyr agored.

Mae Tirlun yn brosiect cydweithredol rhwng Parciau Cenedlaethol Cymru, a Thirweddau Cymru, sy’n cynnig dros 90 o weithgareddau rhyngweithiol sy’n gysylltiedig â’r Cwricwlwm i Gymru. Mae’r adnodd ar gael ar Hwb, sef llwyfan addysgu digidol unigryw i Gymru, ac ar wefan benodedig Tirlun. Dyluniwyd yr adnodd i gefnogi addysgu yn y dosbarth ac yn yr awyr agored er mwyn ysbrydoli pobl ifanc i fanteisio ar y tirweddau sydd ar eu stepen drws.

Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd:

“Mae Tirlun yn enghraifft wych o sut y dylen ni wneud yn siŵr bod ein hymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur yn rhan o bopeth a wnawn. Mae prosiectau fel hyn yn hanfodol i ddatblygu’r rhai a fydd yn gwarchod ein tirweddau tecaf a’n bioamrywiaeth fregus yn y dyfodol.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y cam hwn yn cael ei gymryd, gyda chyllid drwy raglen Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, a hoffwn ddiolch i’r holl ysgolion, athrawon a thimau’r Parciau Cenedlaethol a’r Tirweddau Cenedlaethol am helpu i wireddu hyn.”

Mae’r adnoddau yn cynnwys cynlluniau gwersi, cyflwyniadau rhyngweithiol, a gweithgareddau i annog plant i weld mwy o fyd natur yn eu hardal leol ac mewn lleoliadau newydd. Mae’r prosiect yn dod ag arbenigwyr o bob un o Dirweddau Dynodedig Cymru ynghyd er mwyn sicrhau bod Tirlun yn adlewyrch cyfoeth diwylliannol ac amgylcheddol yr holl ardaloedd hyn.

Dywedodd Graham Peake, arweinydd y prosiect yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:

“Mae Tirlun yn cynnig gweithgareddau cyffrous a chyflwyniadau rhyngweithiol, a gobeithio y bydd hyn yn cyfoethogi taith ddysgu plant ym mhob rhan o Gymru.

“Bydd y 90 a mwy o weithgareddau sy’n gynwysedig yn Tirlun yn rhoi cyfle i blant fentro i’r awyr agored yn eu hardal leol, a gan fod Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol Cymru yn fwy na 20% o’r tir, mae’r adnodd hefyd yn rhoi cyfle iddynt grwydro mwy ar yr ardaloedd hyn.”

Dywedodd un o’r athrawon a oedd yn rhan o’r broses o ddatblygu a phrofi’r gweithgareddau:

“Rydym ni’n defnyddio Tirlun i wella ein gwersi yn yr awyr agored, mae’n adnodd trawsgwricwlaidd arbennig. Mae’r cyflwyniadau a’r gweithgareddau yn ysgogi’r plant, ac mae eu diddordeb yn para trwy gydol y gweithgareddau cyffrous. Mae’r adnoddau yn darparu popeth sydd ei angen ac yn cysylltu’n berffaith gyda’r Cwricwlwm i Gymru a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.”

Daeth addysgwyr a chynrychiolwyr o Dirweddau Dynodedig Cymru at ei gilydd yn y lansiad yn y Senedd. Yn y digwyddiad, fe gafwyd cyflwyniadau gan blant oedd eisoes wedi defnyddio adnoddau Tirlun er mwyn dangos fod y prosiect yn barod yn gwneud gwahaniaeth mewn ystafelloedd dosbarth ar hyd a lled y wlad.

Mae athrawon ac addysgwyr yn gallu cael gafael ar yr adnoddau ar y wefan benodedig https://tirlun.cymru/.

I ddysgu rhagor am Dirweddau Dynodedig Cymru a’r rhan allweddol sydd ganddynt yn y gwaith o warchod a hyrwyddo ein treftadaeth naturiol a diwylliannol, ewch i  https://tirweddaucymru.org.uk/.

A child tries out Tirlun's new learning resources at the launch at the Senedd.