Annog perchnogion cŵn i gadw eu cŵn ar dennyn er mwyn cadw anifeiliaid yn ddiogel yng nghefn gwlad ac ar yr arfordir

Cyhoeddwyd : 20/03/2023

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn tynnu sylw at y camau syml gall perchnogion cŵn eu cymryd i gadw eu hanifeiliaid anwes yn ddiogel ac i osgoi digwyddiadau diangen gyda da byw ac adar sy’n nythu ar y ddaear.

Wrth gerdded ar hyd Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn ogystal â llwybrau troed a llwybrau ceffylau eraill, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud y canlynol:

  • Cadw cŵn ar dennyn byr ac o dan reolaeth agos bob amser pan fydd defaid a da byw eraill gerllaw.
  • Glanhau ar ôl eich ci; rhowch y baw mewn bag a’i roi yn y bin os gallwch chi, neu fynd ag ef gyda chi – peidiwch â gadael bagiau baw yng nghefn gwlad.

Fluffy white lamb standing in a grassy field on a sunny day.

Dywedodd Anthony Richards, Arweinydd Tîm Mynediad Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Y ffordd hawsaf o sicrhau nad yw eich ci yn achosi unrhyw ofid yw ei gadw ar dennyn byr. Mae defaid cyfoen, ŵyn ifanc ac adar sy’n nythu ar y ddaear mewn perygl arbennig ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Mae ymosodiadau gan gŵn hefyd yn achosi straen diangen i ffermwyr, ac yn colli incwm iddyn nhw.

“Nid yn unig bydd rhoi tennyn ar eich ci yn ei gwneud yn haws i’w gadw dan reolaeth a’i gadw i ffwrdd o anifeiliaid sy’n agored i niwed, bydd hefyd yn cadw eich ci i ffwrdd o beryglon posib eraill, fel ochrau clogwyni. Mae Gwylwyr y Glannau ac RNLI yn cael eu galw bob blwyddyn i achub cŵn sydd wedi disgyn dros ochrau clogwyni.”

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys Cod Ymddygiad Cerdded eich Ci Awdurdod y Parc Cenedlaethol, ewch i’n tudalen Cerdded Eich Ci.