Annog ymwelwyr i gynllunio ymlaen llaw wrth i Sir Benfro baratoi am benwythnos prysur iawn
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Chyngor Sir Penfro yn annog ymwelwyr i wirio, archebu a chynllunio cyn ymweld â’r sir y penwythnos hwn.
Mae llawer o’r cyfyngiadau wedi’u llacio, mae’r atyniadau’n ailagor ac mae’r rhagolygon yn addo tywydd poeth a braf, felly mae disgwyl i nifer yr ymwelwyr gynyddu’n sylweddol dros y dyddiau nesaf.
Bydd y timau newydd ar gyfer croesawu ymwelwyr yn barod i helpu gydag ymholiadau ac i wneud yn siŵr bod pawb yn gallu mwynhau i’r eithaf yr hyn sydd gan y sir i’w gynnig – mewn ffordd ddiogel a dymunol.
Gan fod angen archebu ymlaen llaw ar gyfer llawer o’r atyniadau ac oherwydd bod y llefydd parcio yn gyfyngedig, cynghorir ymwelwyr i gynllunio ymlaen llaw a gwneud eu gwaith ymchwil cyn teithio.
Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:
“I’r rheini ohonom sy’n byw yn y gornel brydferth hon o Gymru, fydd e’n fawr o syndod pa mor boblogaidd yw hi ar yr adeg hon o’r flwyddyn pan fo’r tywydd ar ei orau. Rydyn ni’n gofyn i’r ymwelwyr sy’n bwriadu aros dros nos gefnogi’r safleoedd gwersylla dynodedig a’r llety sydd ar gael ledled y sir.
“Hefyd, mae’n bwysig cofio bod y canllawiau cadw pellter cymdeithasol yng Nghymru yn nodi bod rhaid i’r rheini sydd ddim yn rhan o aelwyd estynedig aros 2m i ffwrdd o bobl eraill, hyd yn oed yn yr awyr agored.”
“Dylai ymwelwyr fod yn barod i newid eu trefniadau os yw’r safleoedd yn brysur. Mae cael cynllun wrth gefn ar gyfer eich diwrnod bob amser yn syniad da.”
Gofynnir i’r rheini sy’n ymweld â’r Parc Cenedlaethol i droedio’n ofalus a pharchu ei gilydd, y tir, a’r cymunedau wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio’n ddiogel yn y sir.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Baker, ac Aelod o Gabinet Seilwaith y Cyngor Sir: “Mae’n hyfryd gallu teithio Sir Benfro unwaith eto. Mae’n ardal arbennig iawn. Mae’n arbennig oherwydd ei bod yn hardd, yn lân ac yn cael ei diogelu. Rydyn ni’n gweithio’n galed iawn i’w chadw felly, gyda’r gobaith y gall pawb ei mwynhau’n gyfrifol.
“Yn ddiweddar, er bod y mwyafrif o bobl wedi parchu a dilyn y canllawiau, mae lleiafrif bach wedi’u hanwybyddu, gyda rhywfaint o enghreifftiau fel ysbwriel mewn mannau prydferth, pobl yn parcio’n flêr ac yn atal mynediad i gerbydau brys, a llif o wersylla gwyllt heb ganiatâd.
“Bydd swyddogion yn patrolio’r sir dros y penwythnos, ac os bydd rhaid, bydd hysbysiadau cosb yn cael eu rhoi i’r rheini nad ydynt yn dilyn y rheolau neu sy’n parcio’n anghyfreithlon dros nos.
“Mae ymddygiad hunanol rhai pobl yn bygwth difetha beth ddylai fod yn haf gwych i bawb, ac mae hyn yn bryder i’r cymunedau lleol sy’n gorfod glanhau’r llanast y mae’r gwersyllwyr anghyfreithlon yn ei adael.”
Gellir dod o hyd i wybodaeth am ymweld â Sir Benfro yn ddiogel yn https://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb, ac mae gwybodaeth gyfredol am y meysydd parcio a gwybodaeth i ymwelwyr yn cael ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol trwy @VisitPembs.
Gellir dod o hyd i’r canllawiau a’r cyngor ynghylch ymweld â’r Parc Cenedlaethol yn http://www.arfordirpenfro.cymru.