Anturiaethau arswydus a hwyl Calan Gaeaf yn Oriel y Parc
Mae teuluoedd yn cael eu gwahodd i fwynhau hwyl Calan Gaeaf hunllefus yn Oriel y Parc yn ystod yr hanner tymor. Gyda chyfuniad cyffrous o anturiaethau datrys posau a gweithgareddau creadigol ymarferol, mae pawb yn siŵr o gael amser brawychus wrth eu bodd yng Nghanolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol yn Nhyddewi. Mae yno rywbeth i bawb ei fwynhau yn ystod yr adeg arswydus hon o’r flwyddyn.
I’r rhai sy’n ddigon dewr i fentro ar fwrdd y llong, bydd Llwybr Rhith-Long yn cael ei gynnal rhwng dydd Sadwrn 19 Hydref a dydd Sul 3 Tachwedd, gan roi cyfle i deuluoedd fynd ar antur fythgofiadwy. Mae’r helfa hon yn berffaith i archwilwyr ifanc chwilfrydig sy’n awyddus i roi eu sgiliau datrys problemau ar waith. Bydd y plant yn cael eu gwahodd i fentro ar fwrdd y llong ddirgel, lle byddant yn datgloi cistiau trysor i adfer eiddo coll y morwyr. Dim ond £4 y plentyn mae’n ei gostio i gymryd rhan yn y profiad hunllefus a hwyliog yma, ac mae gwobr arbennig i’r rhai sy’n cwblhau’r her.
Caiff ein hymwelwyr ifanc creadigol edrych ymlaen at y Gweithdy Llusernau Calan Gaeaf Arswydus ddydd Mercher 30 Hydref rhwng 11am a 3pm. Yn ystod y sesiwn galw heibio hon, caiff y plant gyfle i ddylunio ac addurno eu llusern eu hunain, gan roi eu stamp unigryw ar eu dathliadau Calan Gaeaf. Am ddim ond £4 y plentyn, byddant yn cael llusern grefftus, hardd i fynd adref gyda nhw – yr union beth i oleuo’r nosweithiau tywyll.
Yn ogystal â’r gweithgareddau Calan Gaeaf, mae Oriel y Parc yn ganolfan berffaith i unrhyw un sy’n awyddus i grwydro o gwmpas Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ystod yr hanner tymor. Mae’r ganolfan yn cynnig cyngor defnyddiol ar lefydd i aros a phethau i’w gwneud, yn ogystal ag argymell teithiau cerdded – sy’n golygu ei bod yn fan cychwyn delfrydol ar gyfer eich anturiaethau. Gall ymwelwyr hefyd fwynhau amrywiaeth o arddangosfeydd celf sy’n cynnwys gweithiau gan artistiaid lleol a chenedlaethol, yn ogystal â siop anrhegion sy’n rhoi cyfle i chi ddod o hyd i rywbeth bach i gofio eich amser yma, neu anrheg unigryw sydd wedi’i wneud â llaw.
Mae rhagor o wybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau’r gaeaf yn Oriel y Parc ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc.