Archwiliad o gyfrifon ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2020
Hysbysir drwy hyn bod Archwiliad o Gyfrifon Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2020 wedi’i gwblhau a bod Datganiad Cyfrifon yr Awdurdod ar gael i’w archwilio yn Swyddfeydd y Parc, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY neu ar ein gwefan.
Y mae’r ddogfen y cyfeirir ati uchod ar gael i’w harchwilio gan unrhyw etholwr Llywodraeth Leol o Sir Benfro, a gall y cyfryw berson gymryd copi ohoni neu ddarn ohoni, a bydd ganddo/i yr hawl i ofyn am gopïau gael eu hanfon ato/i am bris rhesymol y copi.
Richard Griffiths,
Prif Swyddog Cyllid,
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro,
Parc Llanion,
Doc Penfro,
Sir Benfro,
SA72 6DY
Ffôn: 01646 624800
Lawrlwythwch Archwiliad o Gyfrifon 2019/20
Archwiliad o Gyfrifon Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2019/20