Archwilio gorffennol Sir Benfro – Diwrnod Archaeoleg 2024

Posted On : 10/10/2024

Mae pobl sy’n frwd dros archaeoleg a hanes am gael gwledd ym mis Tachwedd wrth i Ddiwrnod Archaeoleg poblogaidd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ddychwelyd.

Mae pobl sy’n frwd dros archaeoleg a hanes am gael gwledd ym mis Tachwedd wrth i Ddiwrnod Archaeoleg poblogaidd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ddychwelyd.

Mae’n para diwrnod cyfan ac yn rhoi cyfle prin i archwilio’r darganfyddiadau archaeolegol anhygoel a wnaed yn lleol, gyda siaradwyr arbenigol yn rhannu eu gwaith arloesol ac yn datgelu gorffennol cudd y rhanbarth.

Eleni, bydd yr arlwy’n cynnwys Ken Murphy, a fu’n arwain Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed dros flynyddoedd lawer nes iddi uno â’r pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol ranbarthol arall yng Nghymru fel Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru. Mae’n argoeli i fod yn sgwrs ddiddorol iawn, pan fydd Ken yn myfyrio ar lwyddiannau rhyfeddol yr Ymddiriedolaeth dros gyfnod o bron i hanner can mlynedd.

Bydd Dr. Rob Dinnis, arbenigwr ar archaeoleg Palaeolithig, yno hefyd i rannu gwybodaeth am ei waith diweddar yng Ngheudwll Wogan, Penfro – a ddatgelwyd yn sgil gwaith cloddio diweddar i fod yn safle cynhanesyddol cynnar o arwyddocâd rhyngwladol.

Siaradwr arall fydd Luke Jenkins, archaeolegydd maes a chynhanesydd gyda Heneb, a fydd yn taflu mwy o oleuni ar orffennol cynhanesyddol Sir Benfro gyda sylw ar ddarganfyddiadau a wnaed yn ystod y gwaith cloddio cyn y gwelliannau i’r A40.

Bydd sgwrs gan yr arbenigwr celf cynhanesyddol a chyfoes, yr Athro George Nash, yn canolbwyntio ar Siambr Gladdu Neolithig Trellyffaint, lle mae ymchwil wedi datgelu tirwedd ddefodol llawer ehangach sy’n dyddio’n ôl i tua 3000 CCC.

Yn ychwanegu at y cyffro, bydd yr Athro Mike Parker Pearson, arbenigwr blaenllaw ar gynhanes Prydain, yn cyflwyno canfyddiadau diweddaraf prosiect Cerrig Côr y Cewri, gan gynnwys gwybodaeth newydd am gerrig gleision Preseli a gwaith cloddio diweddar yn Ffynnon-Groes.

Ac yn olaf, bydd Tomos Jones, archaeolegydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol, yn rhoi cyflwyniad difyr ar gynllun monitro henebion gwirfoddol sy’n diogelu safleoedd archaeolegol lleol ers 2020.

Dywedodd Tomos: “Mae’r Diwrnod Archaeoleg yn cael ei ystyried ers sbel yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn, gan gynnig cyfle anhygoel i’n cymuned gysylltu â threftadaeth gyfoethog Sir Benfro. Gyda rhestr anhygoel o siaradwyr, mae’r digwyddiad hwn yn argoeli i fod yn wledd wirioneddol i unrhyw un sy’n frwd dros ddatgelu straeon diddorol ein gorffennol.”

Cynhelir Diwrnod Archaeoleg 2024 yng Ngholeg Sir Benfro ddydd Sadwrn 9 Tachwedd 2024, rhwng 9.30am a 4.30pm. Mae tocynnau ar gael gan https://pembrokeshirecoast.bookinglive.com/book/add/p/238 am £25 y pen, sy’n cynnwys cinio a lluniaeth.

Gellir gweld cyflwyniadau o ddigwyddiadau Diwrnodau Archaeoleg blaenorol ar sianel YouTube y Diwrnod Archaeoleg yn https://www.youtube.com/c/DiwrnodArchaeolegArchaeologyDay.