Arolwg archaeolegol i gychwyn yng Ngogledd Sir Benfro
Bydd gwylwyr awyr yng Ngogledd Sir Benfro yn sylwi ar awyren anarferol yn cylchu gofod awyr Sir Benfro yn ddiweddarach y mis hwn wrth i arolwg archaeoleg o'r awyr ddechrau.
Mae’r arolwg yn cynnwys awyrluniau cydraniad uchel a data Lidar yn cael eu cipio o awyren fechan, ac mae’n rhan o Gynllun Rheoli Cynaliadwy ‘Dawnsio ar y Dibyn’, a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Defnyddir hwn i adeiladu modelau topograffig o’r dirwedd ac o bosibl datgelu gwybodaeth archeolegol newydd. Bydd yr arolwg yn canolbwyntio ar adran ogleddol y Parc Cenedlaethol a’r ardal o amgylch Pen Caer.
Bydd y data a gasglwyd yn cael ei ddadansoddi i adnabod nodweddion archeolegol hysbys ac anhysbys yn y dirwedd. Gwneir hyn gan ddefnyddio cymorth archaeolegwyr a gwirfoddolwyr, a fydd yn edrych ar y data’n ddigidol ac yna’n cynnal arolygon maes i gadarnhau’r hyn a nodwyd.
Dywedodd Tomos Ll. Jones, Archeolegydd Cymunedol Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:
“Dyma gyfle cyffrous i ddarganfod mwy am dirwedd Sir Benfro a’i hanes hir o fod yn gartref i bobl.
“Mae’r amgylchedd hanesyddol yn rhan o’r hyn sy’n gwneud Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn lle mor arbennig. Mae pobl wedi byw a gweithio yn y Parc ers miloedd o flynyddoedd, ac wedi llunio’r ffordd y mae’n edrych heddiw.
“Gellir defnyddio lidar a ffotograffiaeth o’r awyr i wneud delweddau trawiadol o’r dirwedd. Rydym yn gobeithio, drwy ddarparu hyfforddiant i wirfoddolwyr, yn ddigidol ac allan yn y maes, y bydd dadansoddiad o’r data yn parhau am amser hir i ddod, gan gynyddu ymhellach ein gwybodaeth am archaeoleg a threftadaeth yn y dirwedd unigryw hon.”
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr arolwg hwn ac i ddysgu am gyfleoedd i gymryd rhan, cofrestrwch ar ein tudalen rhestr e-bostio Archaeoleg y Parc Cenedlaethol.
Mae rhagor o wybodaeth am Lidar ar gael drwy fynd i wefan Historic England.