Arolwg y Parc Cenedlaethol yn tynnu sylw at bwysigrwydd Arfordir Penfro ar gyfer llesiant meddyliol a chorfforol

Posted On : 09/07/2024

Mae arolwg sy’n gofyn am fewnbwn cymunedol ar y gwaith o reoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi arwain at gyfres o leisiau yn pwysleisio ei bod yn bwysig diogelu ei rinweddau unigryw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol yn gynllun partneriaeth ar gyfer ardal y Parc Cenedlaethol, sy’n cael ei ddatblygu a’i adolygu bob pum mlynedd. Mae’n ffordd o gydlynu ymdrechion llawer o sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda’i gilydd i gefnogi dibenion y Parc Cenedlaethol, sef cadwraeth, mwynhad a dealltwriaeth.

Fel rhan o’r adolygiad presennol, cafodd aelodau’r cyhoedd eu gwahodd i rannu eu barn ynglŷn â’r hyn sy’n gwneud y Parc Cenedlaethol yn arbennig, yn ogystal ag awgrymu beth sydd angen ei wneud i warchod ac adfer y nodweddion nodedig hyn.

Nid yw’n synod bod tirweddau a morweddau wedi ymddangos yn aml yn yr ymatebion, gydag un cyfranogwr yn disgrifio’r Parc fel “adnodd enfawr a amhrisiadwy ar gyfer iechyd meddwl a chorfforol pobl.”

Cafodd yr arfordir ysblennydd, yr ynysoedd ar y môr a’r morweddau mawr sylw arbennig hefyd, gyda rhai yn dweud bod y traethau yn Sir Benfro yn well na llawer o’r rhai a geir dramor.

I lawer o bobl, roedd golygfeydd panoramig a thrawiadol y sir a’r hwnt o fryniau a phentiroedd, fel y Preseli, Penrhyn Dewi a Phentir Sant Gofan, wedi’u rhestru fel rhai o nodweddion mwyaf arbennig y Parc Cenedlaethol.

Ymddengys mai cerdded yw’r gweithgaredd mwyaf poblogaidd yn y Parc, a hynny oherwydd Llwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r rhwydwaith helaeth o lwybrau a hawliau tramwy sy’n galluogi defnyddwyr archwilio dyffrynnoedd cudd, coetiroedd hynafol, ac afonydd tawel.

The headland at Treginnis, looking out to Ramsay Island on a fine summer's day, with wildflowers in the foreground.

“Mae angen lleoedd fel hyn arnom lle gallwn ailwefru ein batris corfforol a seicolegol,” meddai un ymatebydd. Eto, mae hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd y Parc ar gyfer llesiant meddyliol a chorfforol.

Cafodd llonyddwch y Parc ei restru hefyd fel un o’i nodweddion arbennig, ynghyd â’r wyth Safle Darganfod Awyr Dwyll cwbl hygyrch, lle mae’r Llwybr Llaethog yn weladwy i’r llygaid ar nosweithiau pan nad oes cwmwl na lloer yn yr awyr.

Er hynny, mae Arfordir Penfro yn golygu mwy i’w drigolion ac ymwelwyr na golygfeydd godidog a lle i ymlacio. Yn ôl yr arolwg, mae treftadaeth a diwylliant yr ardal, gan gynnwys y Gymraeg, yn rhywbeth i’w drysori a’i ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Dyma beth nododd un o’r ymatebwyr: “Pentre Ifan, Carn Ingli a Chwm Gwaun. Mae gan y lleoedd hyn arwyddocâd diwylliannol dwfn i Gymru. Maen nhw’n parhau i ddal gafael yn yr iaith Gymraeg a’i diwylliant… rydyn ni’n dal i allu cysylltu â’n gorffennol dwfn drwy fod yn ystyriol yn y lleoedd hardd hyn.”

Mae’r holl sylwadau a wnaed fel rhan o’r ymgynghoriad hwn wedi cael eu defnyddio fel sail i Gynllun drafft, sy’n amlinellu cynigion ac yn nodi partneriaid allweddol y mae angen iddyn nhw gymryd rhan.

Dechreuodd yr ymgynghoriad ar hyn yn gynharach y mis hwn a bydd yn dod i ben ddydd Llun 30 Medi. Bydd aelodau o’r cyhoedd yn gallu rhoi sylwadau ar-lein yn www.arfordirpenfro.cymru/cymryd-rhan/ymgynghoriadau-cyhoeddus.

Bydd nifer o gyfleoedd hefyd i gyfrannu at yr ymgynghoriad mewn digwyddiadau drwy gydol yr haf.

Bydd newidiadau arfaethedig yn cael eu cyflwyno i Aelodau’r Awdurdod yn nes ymlaen yn y flwyddyn, er mwyn i’r Cynllun Partneriaeth newydd fod ar waith ar gyfer 2025-2029.