Atyniadau’r Parc Cenedlaethol yn paratoi ar gyfer hwyl Calan Gaeaf ysbrydoledig a fydd yn ddigon i godi gwallt eich pen
Gall pobl leol ac ymwelwyr o bob oed edrych ymlaen at gael hwyl gwerth chweil yr hanner tymor hwn mewn tri atyniad sy’n cael eu rhedeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Bydd Castell Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn cynnal rhaglen lawn o weithgareddau a digwyddiadau i apelio at bob oed drwy gydol wythnos olaf mis Hydref.
Yng Nghastell Caeriw, bydd Llwybr Sgerbydau yn rhedeg drwy’r hanner tymor, gan herio ymwelwyr iau i chwilio’r Castell am esgyrn anifeiliaid er mwyn hawlio gwobr.
Cynhelir sesiynau ‘Straeon y Pentan’ yn rhad ac am ddim, sy’n addas ar gyfer plant dros bedair oed, yn y Castell ddydd Sadwrn 23 Hydref a dydd Sul 24 Hydref rhwng 11:30am a 12:30pm, lle bydd y gwesteion yn cael eu gwahodd i setlo o amgylch y tân yn y Neuadd Fach wrth i storïwr mewn gwisg draddodiadol adrodd straeon arswydus am farchogion dewr a thywysogesau hardd.
Bydd y sgyrsiau Hanes Atgas (Horrid Histories) rhyngweithiol a phoblogaidd hefyd yn chwarae rhan flaenllaw gydol yr wythnos, gan gynnig y cyfle i ddarganfod yr holl bethau erchyll a gwaedlyd na chawsant erioed eu dysgu mewn dosbarth hanes. Cynhelir y sgyrsiau rhwng 11am a 11.30am ddydd Llun 25 a dydd Mawrth 26 Hydref, dydd Gwener 29 Hydref, dydd Sadwrn 30 Hydref a dydd Sul 31 Hydref, ac maent yn cael eu cynnig yn rhad ac am ddim gyda’r pris mynediad arferol.
I gael golwg fwy hudolus ar Galan Gaeaf, beth am ymuno â Chyfeillion Tylwyth Teg y Goedwig yng Nghaeriw ddydd Mercher 27 Hydref a dydd Iau 28 Hydref, wrth iddyn nhw fynd ar daith i baratoi’r goedwig ar gyfer y gaeaf? Bydd gweithdai rhyngweithiol, sy’n llawn gemau, dawnsio, adrodd straeon, canu a hwyl Calan Gaeaf i bob oed, yn cael eu cynnal rhwng 10:30am a 4pm. Nid oes angen archebu lle, ond cynghorir y rhai sydd am fod yn bresennol i gyrraedd 10 munud cyn pob sesiwn. Bydd ffi o £3, arian parod yn unig, yn cael ei chasglu gan y perfformwyr.
Ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys, mae ias yn yr awyr wrth i ŵyl hynafol Samhain, neu Galan Gaeaf, agosáu. Drwy gydol yr hanner tymor, bydd ymwelwyr yn gallu dilyn llwybr pwmpen arswydus drwy goetir hudol, cyn cyrraedd y pentref ei hun, lle byddant yn cwrdd ag ysbrydion pentrefwyr Oes yr Haearn a oedd yn byw yno dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl.
I’r rhai sy’n fwy celfyddydol eu hawydd, bydd gweithdy Creadigaethau Clai Dychrynllyd yn cael ei gynnal ddydd Gwener 29 Hydref, gan gynnig cyfle i lunio creadigaeth iasol i gael gwared ag ysbrydion drwg, neu i gadw cwmni i chi dros Galan Gaeaf.
Y prif ddigwyddiad, fodd bynnag, fydd Dathliad Samhain ddydd Sadwrn 30 Hydref, a fydd yn cynnwys taith ysbrydion, perfformiad tân ac, wrth gwrs, llosgi’r dyn gwiail. Mae’n hanfodol archebu lle’n gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi.
Mae llond crochan o weithdai crefft arswydus hefyd yn mud-ferwi yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi, lle bydd Llwybr Calan Gaeaf brawychus gyda chliwiau cryptig a gwobr yn rhedeg ledled y ganolfan a’r tir o gwmpas yn ystod wythnos hanner tymor.
Cynhelir gweithdai dan arweiniad Parcmon ddydd Llun 25, dydd Mawrth 26 a dydd Iau 28 Hydref, a byddant yn cynnwys sesiynau ar thema ystlumod a phryfed cop, yn ogystal â gweithgareddau eraill fel adeiladu gwestai chwilod, gwneud bomiau gwenyn a phaentio cerrig.
Mae gweithdy creu Llusernau a Lleuad o Bapur Sidan gyda Deborah Withey hefyd wedi’i drefnu ar gyfer dydd Mercher 27 Hydref, lle bydd cyfranogwyr yn gallu gwneud eu llusernau eu hunain ar thema fotanegol, gan chwilota am eitemau o dir Oriel y Parc.
Ac yn olaf, os yw’r syniad o siopa Nadolig yn fwy brawychus nag unrhyw erchyllterau sy’n gysylltiedig â Chalan Gaeaf, efallai mai’r farchnad grefftau fach dros dro ar dir Oriel y Parc ddydd Mercher 27 Hydref yw’r ateb perffaith. Gyda rhoddion a nwyddau wedi’u gwneud yn lleol, bydd y farchnad ar agor rhwng 10am a 3pm ac mae mynediad am ddim.
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn ac i drefnu lle ar eich cyfer, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.