Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn croesawu’r Prif Weinidog i ddigwyddiad trawiadol Parêd y Ddraig Goch
Roedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn falch o gynnal Parêd y Ddraig Goch yn Nhyddewi ddydd Sadwrn 1 Mawrth, dan arweiniad Prif Weinidog Cymru a gwesteion nodedig eraill.
Roedd y digwyddiad yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi gan arddangos ysbryd cymunedol, creadigrwydd a threftadaeth Cymru.
Roedd yr orymdaith fywiog wedi dechrau o Oriel y Parc, gan lenwi strydoedd Tyddewi â lliw, egni a seiniau dynamig y grŵp drymio Samba Doc.
Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan:
“Roedd parêd Dydd Gŵyl Dewi eleni yn achlysur gwych. Mae’r ddinas wastad yn le arbennig ar ddiwrnod ein nawddsant, a braf oedd gweld gwaith celf y plant ysgol a Kate Evans, a roddodd thema hyfryd a Chymreig i’r orymdaith.
“Diolch i Awdurdod Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro am drefnu digwyddiad mor gofiadwy. Roedd yn anrhydedd cael ymuno â Gorymdaith y Ddraig – da iawn i bawb a gymerodd ran am eu gwaith caled.”
Ymysg y rhai a gymerodd ran yn yr orymdaith roedd grwpiau cymunedol ac ysgolion, gan gynnwys Gofal yn y Gymuned, Ysgol Penrhyn Dewi (Campws Non) Blynyddoedd 2 a 3, Ysgol Croesgoch (Blynyddoedd 3 a 4) a Chylch Meithrin Croesgoch.
Wrth i’r orymdaith ddychwelyd i Oriel y Parc, parhaodd y dathliadau gyda pherfformiad gwefreiddiol gan Samba Doc yn yr iard. Uchafbwynt y digwyddiad oedd cael gweld y ddraig fach eto, sef creadigaeth a ddatblygwyd ar y cyd â’r artist lleol Kate Evans. Bu ysgolion a grwpiau cymunedol yn gweithio’n agos gyda Kate i ddod â’r gosodiad creadigol hwn yn fyw.
Ochr yn ochr â’r dathliadau, cynhaliwyd marchnad fywiog drwy gydol y dydd – gyda stondinwyr lleol dethol yn cynnig amrywiaeth o grefftau wedi’u gwneud â llaw a nwyddau wedi’u cynhyrchu’n lleol. Roedd y farchnad yn gyfle gwych i ymwelwyr gefnogi crefftwyr lleol a mwynhau blas ar gymuned greadigol gyfoethog Sir Benfro.
I nodi’r achlysur, cyflwynodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, brint retro wedi’i fframio sy’n dangos Capel Santes Non i Brif Weinidog Cymru i nodi dathliadau Dydd Gŵyl Dewi.
Wrth siarad am y diwrnod, dywedodd Tegryn Jones: “Roedd yn bleser gennym groesawu’r Prif Weinidog i arwain Parêd y Ddraig Goch eleni, ynghyd â gwesteion nodedig a llu o gynrychiolwyr o’r gymuned, a oedd i gyd wedi helpu i wneud y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol. Mae’r orymdaith wedi tyfu o ran ei harwyddocâd dros y blynyddoedd ac mae bellach yn rhan bwysig o ddathliadau diwylliannol y ddinas ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi.
“Ar ran yr Awdurdod, hoffwn ddiolch i’r holl gyfranogwyr, gwirfoddolwyr a gwylwyr am ymuno â ni ar y diwrnod ac am sicrhau bod y digwyddiad poblogaidd hwn wedi rhedeg yn llyfn ac yn llwyddiannus.