Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gwahodd busnesau i hysbysebu yn ei gylchgrawn poblogaidd i ymwelwyr

Posted On : 15/11/2024

Wrth i 2024 ddirwyn i ben, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn annog busnesau lleol i baratoi ar gyfer y flwyddyn nesaf drwy archebu gofod hysbysebu yn O Lan i Lan, sef y cylchgrawn poblogaidd ac arobryn i ymwelwyr â Sir Benfro.

Bydd rhifyn 43 yn cael ei lansio yn ystod Pasg 2025 ac mae’n cynnig cyfle gwych i fusnesau gyrraedd cynulleidfa eang gyda chylchrediad o dros filiwn o ddarllenwyr.

Mae’r cyhoeddiad dwyieithog, a gaiff ei ddosbarthu ar hyd ac ar led lleoliadau prysuraf Sir Benfro a rhannau o Sir Gâr a Cheredigion dros fisoedd prysur yr haf, yn adnodd gwerthfawr i ymwelwyr a thrigolion. Mae O Lan i Lan yn rhoi sylw i gynnyrch unigryw, cynigion blasus a phrofiadau cyffrous gan fusnesau o bob lliw a llun. Caiff y cylchgrawn ei ddosbarthu i gannoedd o siopau ledled y sir ac mae wedi dod yn ganllaw hanfodol i unrhyw un sy’n awyddus i fwynhau Sir Benfro ar ei orau.

“Dros y blynyddoedd, mae O Lan i Lan wedi sefydlu ei hun fel canllaw hollbwysig ar gyfer yr haf i’ch ysbrydoli wrth ymweld â’r Parc,” meddai Marie Parkin, Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu’r Awdurdod. “Yn ogystal â dathlu ein hatyniadau gwych i ymwelwyr fel Castell a Melin Heli Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys a Chanolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol – Oriel y Parc, mae’r cylchgrawn yn cynnwys gwybodaeth ymarferol fel mapiau, amserlenni bysiau a thablau llanw’r môr.”

“Mae rhywbeth at ddant pawb yn O Lan i Lan fel teithiau cerdded i weld y golygfeydd ysblennydd, diwrnodau braf ar y traeth, a gwybodaeth gyfoethog am dreftadaeth, diwylliant a bywyd gwyllt y Parc. Mae’r rhestr o Weithgareddau a Digwyddiadau yn sicrhau bod teuluoedd yn gallu mwynhau calendr llawn o brofiadau,” ychwanegodd Marie Parkin.

Mae’r dyddiad cau ar gyfer hysbysebion ddechrau mis Ionawr 2025, felly rydym yn annog busnesau i weithredu’n gyflym i sicrhau eu lle fel nad ydynt yn cael eu siomi.

I gael rhagor o wybodaeth am hysbysebu yn O Lan i Lan, cysylltwch â advertising@pembrokeshirecoast.org.uk neu ffoniwch 01646 624895.